1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Tasker  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020 yn gofnod gywir.

 

Nodwyd y daeth R Khan, Arweinydd Archwilio i'r cyfarfod nid G Lucey.

 

Eitem 4 - Diweddariad y Gofrestr Risgiau  Corfforaethol o dan Gwestiynau:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K Thomas at y frawddeg olaf; mewn perthynas â nifer y diswyddiadau yn y Cyngor, roedd hyn yn ymwneud â monitro niferoedd yn y tebygolrwydd o ddiswyddo dinasyddion ac nid diswyddiadau staff y cyngor.  Nodwyd hyn yn briodol gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at weithred ar gyfer y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mewn perthynas â'r dyfalu ynghylch codi treth enillion cyfalaf ac mae'n bosibl y bydd yn effeithio ar y farchnad rhentu tai preifat.  Cadarnhawyd y byddai'r Pennaeth Pobl a Newid Busnes yn mynd yn ôl i'r maes gwasanaeth i ddod o hyd i fwy o fanylion ac nad oedd yn weithred i'r Pwyllgor Archwilio.  Byddai diweddariad yn cael ei ddarparu'n ysgrifenedig i'r Pwyllgor.

 

Eitem 8 Galw i mewn i'r Prif Swyddog Addysg, y Dirprwy Brif Swyddog Addysg a Phennaeth Cerdd Gwent parthed Barn Anfoddhaol Archwilio Mewnol:

Cadarnhawyd gan y Prif Swyddog Archwilio Mewnol fod yr eitem uchod wedi'i symud i Wanwyn 2021 gan fod y rhan fwyaf o'r staff wedi'u gosod ar ffyrlo ac na fyddai'n cael cyfle i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys adalw offerynnau cerdd.

 

Cytunwyd:

Bod y Cofnodion wedi'u derbyn yn amodol ar yr uchod.

 

3.

Cofrestr Risg Gorfforaethol (C4 Gorffennaf i Fedi) pdf icon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The CouRoedd Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor yn monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei Gynllun Corfforaethol neu rhag darparu gwasanaethau i'w gymunedau a'i ddefnyddwyr gwasanaeth yng Nghasnewydd. 

 

Ar ddiwedd Chwarter dau, bu'r Cyngor yn monitro 56 o risgiau ar draws ei wyth gwasanaeth; cofnodwyd 19 o'r 56 o risgiau yng Nghofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor ac ystyriwyd eu bod yn cael effaith sylweddol ar gyflawni amcanion a rhwymedigaethau statudol y Cyngor.  Ar ddiwedd chwarter dau, nid oedd unrhyw risgiau newydd na chynyddol o gofrestrau risg gwasanaeth; ac ni chafodd unrhyw risgiau eu cau na'u dad-ddwysáu. Yn gyffredinol, roedd 11 o risgiau difrifol (sgorau risg 15 i 25); chwe Risg fawr (sgorau risg 7 i 14) a dau risg cymedrol (sgorau risg 4 i 6) a amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

Rôl y Pwyllgor Archwilio oedd adolygu a monitro'r trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg sydd ar waith, gyda sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor ar y broses risg yn cael eu hystyried gan y Cabinet.

 

Roedd cyflwyniad byr am yr adroddiad yn edrych yn ôl mewn pryd hyd at ddiwedd Cofrestr Risgiau mis Medi.  Roedd hyn yn monitro risgiau a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn ogystal ag ymdrin â Risgiau cynyddol yn y Gofrestr.  Gellid herio'r risgiau hyn drwy'r broses Graffu yn hytrach nag yn y Pwyllgor Archwilio.  Roedd paragraff ychwanegol mewn perthynas â seminar pob aelod ar y Bil Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru), yn mynd i'r afael â newidiadau posibl o ran rheoli perfformiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am amlinelliad byr ynghylch unrhyw newidiadau posibl i'r Pwyllgor Archwilio oherwydd y Ddeddf arfaethedig ac a allai hyn fod yn eitem ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.  Byddai unrhyw ymatebion yn codi o'r ymgynghoriad yn dod i rym gobeithio ym mis Ebrill eleni.  Pe bai unrhyw newidiadau posibl i'r Pwyllgor Archwilio, byddai hyn yn ymwneud â gofynion rheoli perfformiad.  Ar ôl ystyried yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, gellid trafod hyn yn y Pwyllgor Archwilio yn ddiweddarach eleni ac o bosibl gellid ei ystyried yn y rhaglen waith mewn cyfarfod ym mis Hydref/Tachwedd.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·       Gan gyfeirio at dudalen 15 ym mhapurau'r Agenda, roedd y Cynghorydd Hourahine yn siomedig â'r tabl risgiau. Rhoddwyd sylw i un risg, ond nodwyd bod gweddill y ffigurau heb newid.  Roedd y Cynghorydd Hourahine yn disgwyl i hyn gael ei drin mor agos at y ffynhonnell â phosibl.  Cytunodd y Cadeirydd â'r sylw a chyfeiriodd at y tabl risgiau targed, a oedd, yn ei farn ef, yn ymarfer ticio blychau ac yn ystyried nad oedd yr archwaeth risg yno oni newidiwyd y sgôr o 1-10 i 1-5, felly nid oedd yn si?r beth oedd yn risg ddilys ai peidio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at rifau'r matrics ac awgrymodd y gallai fod ffyrdd eraill o sicrhau gwell canlyniad, yn hytrach na phump wrth bump, a allai olygu gormod o risgiau cyfartal.   Dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y tabl yn cynrychioli'r prif  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cynllun Archwilio Mewnol - Pcynnydd (Chwarter 3) pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Nododd yr adroddiad atodedig fod yr Adran Archwilio Mewnol yn gwneud cynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020/21 a dangosyddion perfformiad mewnol er mai dim ond o fis Hydref 2020 y daeth y cynllun diwygiedig y cytunwyd arno i rym oherwydd effaith pandemig Covid-19.

 

Roedd Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr Adran Archwilio Mewnol a'i gallu i gyflawni'r cynllun blwyddyn lawn wreiddiol.  Yn gorfforaethol, canolbwyntiwyd ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol i ddelio â'r pandemig.  Cefnogodd y Tîm Archwilio Mewnol y broses grantiau busnes a gwnaeth waith atal twyll helaeth ond cafodd mwyafrif yr archwiliadau rheolaidd eu gohirio am gyfnod dros dro.

 

Seiliwyd y cynllun archwilio gwreiddiol ar 1208 o ddiwrnodau archwilio; roedd y cynllun archwilio diwygiedig yn seiliedig ar 626 o ddiwrnodau archwilio.

 

Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r atodiadau yn adroddiad y Pwyllgor.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

  • Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer y diwrnodau archwilio a gynhaliwyd gan staff ym Mharagraff 8: Y Cynllun Archwilio ac Effaith Covid-19. Nododd y Cadeirydd pe bai rhywun yn edrych ar y ffigurau ar eu pennau eu hunain, y byddai'n awgrymu, yn ystod y 626 diwrnod archwilio, nad oedd staff yn gwneud eu gwaith am 600 diwrnod, er bod y staff, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyflawni dyletswyddau eraill.  Roedd y 1208 diwrnod yn ymwneud â chynllun archwilio blwyddyn lawn; roedd y 626 diwrnod yn ymwneyd â'r cynllun diwygiedig, a oedd i'w gynnal yn ystod C3 a C4 o 2020/21.

Sicrhawyd y Cadeirydd fod hyn yn ymwneud â llawer o faterion, gan gynnwys gweithio gartref, gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth.  Roedd yr archwiliad yn delio â staff rheng flaen gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac roedd y tîm Archwilio yn parchu hynny ac yn rhoi lle i staff; gwneud lwfans ar gyfer yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19.  Roedd hyn yn golygu ei bod wedi cymryd mwy o amser i'r gwaith gyrraedd y Tîm Archwilio mewn rhai ardaloedd ond eu bod yn gweithio eu ffordd drwy'r cynllun. Teimlai'r Cadeirydd pe bai'r papur yn cael ei ddarllen ar ei ben ei hun, gallai roi'r argraff nad oedd pethau mor weithredol ag yr esboniwyd mewn gwirionedd gan y Prif Archwilydd Mewnol.  Wrth adolygu'r datganiad llywodraethu blynyddol, gallai'r Pwyllgor roi sicrwydd ynghylch y ffaith bod staff yn gwneud gwaith rhagweithiol a oedd yn helpu i reoli'r amgylchedd.

  • Gofynnodd y Cynghorydd Jordan a oedd y Tîm Archwilio yn un aelod yn brin o hyd.  Roedd hyn yn wir; fodd bynnag, roedd eu gwaith yn cael ei gyflawni gyda chymorth allanol.
  • Roedd y Cynghorydd Lacey yn gwerthfawrogi bod y tîm yn cael trafferth gydag oriau gwaith a gofynnodd a gafodd hyn effaith ar waith y misoedd blaenorol, a fyddai'r tîm yn gallu dal i fyny ag unrhyw ôl-groniad.  Diwygiodd y Prif Archwilydd Mewnol y cynllun yn chwe mis cyntaf y pandemig gan ailflaenoriaethu gwaith, asesu'r risg o archwilio a rhoi cynllun ar waith wrth symud ymlaen.  Bu rhaid blaenoriaethu gwaith gyda swyddi llai pwysig yn cael eu gohirio.  Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd Lacey  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cod Llywodraethu Corfforaethol - Diweddaru (2020) pdf icon PDF 430 KB

Cofnodion:

It waRoedd yn bwysig bod gan y Cyngor God Llywodraethu Corfforaethol cyfredol a pherthnasol.  Roedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn seiliedig ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol.  Cafodd y Cod ei ddiwygio ddiwethaf yn 2014 a'i gymeradwyo gan y Cabinet. Diweddarwyd a diwygiwyd Cod Llywodraethu Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd i gydymffurfio ag arfer da cyhoeddedig y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE).  Roedd hyn yn "Cyflawni Llywodraethu Da mewn Fframwaith Llywodraeth Leol 2016" a "Cyflawni Llywodraethu Da mewn Nodiadau Cyfarwyddyd Llywodraeth Leol ar gyfer Awdurdodau Cymru 2016", a oedd yn cwmpasu'r elfennau o reolaeth ariannol fewnol sy'n ofynnol gan y "Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig". 

 

Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r Atodiadau, gan amlinellu'r bwriad i leihau maint y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drwy gyfeirio at y Cod Llywodraethu. Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y tîm perfformiad a Phenaethiaid Gwasanaeth i wneud sylwadau arno.  Felly, rhoddwyd cyfle i aelodau'r Pwyllgor roi sylwadau ar yr adroddiad, i lunio'r llywodraethu cyn iddo fynd i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

 

Sylwodd y Cadeirydd fod tebygrwydd yn y Cod gyda'r DLlB - byddai hyn yn cael gwared ar lawer o ddyblygu.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

  • Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at dudalen 85, Eitem 7 yn yr adroddiad a oedd yn nodi nad oedd unrhyw faterion ariannol yn ymwneud â'r adroddiad. Roedd y Cynghorydd Hourahine o'r farn bod unrhyw newidiadau i broses o fewn Llywodraeth Leol fel arfer yn golygu y byddai goblygiadau ariannol, megis yn amser y swyddog.  Gyda hyn mewn golwg, a fyddai mwy neu lai o amser swyddog i gydymffurfio â'r cod, gan mai anaml y byddai'n sefyllfa ddigfynewid? 

Dywedodd y Prif Swyddog Archwilydd Mewnol nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol i ddod â'r Cod hwn at ei gilydd. Yn gyffredinol, rôl y Prif Archwilydd Mewnol oedd paratoi'r DLlB ac roedd y mewnbwn hwn wedi aros yn weddol sefydlog dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; felly, ychydig iawn o effaith ar gyllid.

 

 

Cytunwyd:

Y dylai’r Pwyllgor Archwilio gymeradwyo'r Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

 

6.

Memorandwm Ariannol ar Archwiliad Ariannol 2019-20 pdf icon PDF 745 KB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad hwn yn atodiad i'r Adroddiad Archwilio Cyfrifon a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ar 28 Medi 2020.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r argymhellion sy'n deillio o archwiliad o gyfrifon 2019-20 ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd a Gr?p Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn grynodeb o'r gwaith a wnaed o fis Medi ymlaen gyda thri prif argymhelliad.  Roedd llai o achosion y llynedd lle'r oedd eitemau'n cael eu cronni ac nad oedd unrhyw effaith sylweddol.  Byddai'r Tîm Archwilio yn gweithio gyda'r rheolwyr ar gyfer yr archwiliad arfaethedig nesaf. 

 

Roedd yr argymhellion yn cyfeirio at reoli fersiynau a dosbarthu cyfrifon fel arian cyfatebol.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i'r holl staff a gyfrannodd at y gwaith drwy gydol yr archwiliad.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·       Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine a roddodd Archwilio Cymru rybudd rhesymol i staff y Cyngor y byddai archwiliad yn cael ei gynnal, gan y byddai gwasanaethau dan bwysau i ddarparu ffigurau ar amser. Yn ogystal, a oedd staff yn cydweithio â'r archwiliad?  Sicrhaodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y Cynghorydd ar y ddau bwnc nad oedd unrhyw broblemau a bod perthynas waith dda â staff Cyngor Dinas Casnewydd. 

 

Cytunwyd:

Y dylai’r Pwyllgor Archwilio nodi'r Memorandwm Archwilio Cyfrifon sy'n deillio o Archwiliad 2019/20.

 

7.

Strategaeth Rheoli Cyfalaf a'r Trysorlys pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Roedd gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y ddinas fel y'u nodir yn ei Gynllun Corfforaethol a'r addewidion a nodwyd ynddo. Un o'r prif alluogwyr i gyflawni'r uchelgais hwn oedd y rhaglen gyfalaf. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli Trysorlys ill dau a (i) gadarnhaodd y rhaglen gyfalaf fel rhan o'r Strategaeth Gyfalaf a’r (ii) terfynau benthyca amrywiol a dangosyddion eraill a oedd yn llywodraethu rheolaeth gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli Trysorlys.

 

Roedd y 'Strategaeth Gyfalaf' hefyd yn nodi'r cyd-destun hirdymor (10 mlynedd) lle y gwnaed penderfyniadau cyfalaf ac yn dangos sut roedd yr Awdurdod Lleol yn gwneud penderfyniadau cyfalaf/buddsoddiadau yn unol ag amcanion y gwasanaeth, gan ystyried risg/buddion ac effaith; yn ogystal ag ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd yn briodol.

 

Roedd cynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi'u cysylltu'n gynhenid â gweithgareddau rheoli'r trysorlys yr ymgymerodd â nhw, felly roedd Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cael ei chynnwys ar y cyd ag adroddiad y Strategaeth Gyfalaf.

 

Crynhowyd y prif argymhellion a ddeilliodd o'r ddwy strategaeth yn yr adroddiad ac roeddent hefyd wedi'u hatodi. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r benthyca'n cynyddu dros y tair i bedair blynedd nesaf, felly roedd angen terfyn cynaliadwy.  Byddai'r terfyn hwn yn cael ei bennu er mwyn i'r Cyngor beidio â mynd dros y rhaglen gyfalaf.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Archwilio ddarparu eu hargymhellion i'r Cyngor.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Jordan at Dudalen 124, Tabl 1: Dangosyddion Darbodus Amcangyfrifon o Wariant Cyfalaf a Chyllid Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn 2021/22 £62.3M a 2022/23 £71.6M.  Nododd y Cynghorydd Jordan gynnydd dramatig dros y cyfnod o 2020/21 gyda ffigurau’n dangos £33.1M.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod hyn oherwydd llithriad yn y blynyddoedd blaenorol, ond wrth i ni ddod i ben y rhaglen, roedd rhai cynlluniau yr oedd angen eu cwblhau.  Cyfeiriodd llawer o hyn at brosiect ysgolion Band B, ynghyd â chynlluniau mawr eraill a oedd yn dod yn y blynyddoedd hynny.  Roedd cost y Fargen Ddinesig wedi cyflymu ei rhaglen ymlaen i 2021/22 a 2022/23 i raddau helaeth ac yn ogystal, roedd cynlluniau a ariannwyd gan grantiau hefyd yn cael eu cynnal i'r cyfnod nesaf o ddwy flynedd.  Dangoswyd y Rhaglen Gyfalaf ymhellach i lawr yn yr atodiad mewn manylion pellach ond yn hanfodol roedd yn gorffen y Rhaglen Gyfalaf bresennol.

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at y Buddsoddiad Cyfalaf tymor canolig i hirdymor ac ystyried y 12 mis diwethaf, faint a gafodd ei ddileu o'n buddsoddiad o ganlyniad i hyn ac a oedd y Cyngor yn buddsoddi mewn risg ganolig a beth fyddai'n digwydd nesaf.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol nad oedd unrhyw fuddsoddiad mewn categori risg cyn y pandemig, felly o gydbwysedd buddsoddi, nid oedd wedi colli unrhyw arian o gwbl.  Fodd bynnag, roedd cyfraddau llog ar falansau arian parod yn isel iawn, e.e. 0% ac ar rai diwrnodau fe’u rhoddwyd gyda Swyddfa Rheoli Dyledion y Llywodraeth a roddodd gyfraddau llog negyddol ar  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Galwch i mewn Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau parthed y Farn Anfoddhaol Archwilio Mewnol ar Daliadau SGO/Perthnasau pdf icon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor Archwilio yr eitem hon yn gyntaf i ganiatáu i'r holl aelodau a oedd yn bresennol ddweud eu dweud.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybod i'r Pwyllgor Archwilio am y camau a gymerwyd gan y rheolwyr yn y Maes Gwasanaeth hyd yma a'i gynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu y cytunwyd arno mewn perthynas â'r farn archwilio Anfoddhaol ar gyfer taliadau Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig/Perthnasau.

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ei hachos i'r Pwyllgor Archwilio.  Roedd hwn yn gyfnod heriol gyda rheolwyr yn y tîm rheoli gostwng o bump i ddau ac roedd y gwasanaeth yn aros am arweiniad newydd gan Lywodraeth Cymru ynghyd â gwaith pellach, ac felly'r oedi.  Roedd darn cenedlaethol o waith hefyd i newid paramedrau mewn perthynas â'r mater hwn, a oedd hefyd yn ychwanegu at yr oedi wrth weithredu'r camau rheoli y cytunwyd arnynt.

 

Yn y cyfamser, roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn falch o adrodd am nifer llawn o staff yn y tîm rheoli ac roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Adnoddau) a benodwyd yn ddiweddar wedi cymryd cam rhagweithiol tuag at gael cymorth ariannol ac wedi cael cyllid gofal gan Lywodraeth Cymru.  Roedd y tîm yn cefnogi gofal perthnasau a phlant gwarcheidwad arbennig.  Roedd y gwaith wedi tyfu'n gynt ac roedd newid cadarnhaol mewn diwylliant. 

 

Y gobaith oedd y byddai'r Prif Archwilydd Mewnol yn cytuno bod y maes gwasanaeth mewn gwell lle o ystyried yr holl newidiadau diweddar.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu cyflwyniad. 

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

  • Holodd y Cynghorydd Hourahine am drosiant uchel y staff rheoli.  Dywedwyd bod newidiadau wedi bod, ond wrth symud ymlaen dim ond un gweithiwr cymdeithasol asiantaeth oedd allan o 340 o staff.  Roedd swyddi gwag o hyd; fodd bynnag, roedd y berthynas waith â'r staff yn dda, a daeth y rhan fwyaf ohonynt i'r Cyngor fel myfyrwyr ac aros gyda ni.  Roedd y gwasanaeth mewn lle gwahanol iawn i'r man lle'r oedd yn 2013.  Byddai hyn bob amser yn briff gwylio ond roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn teimlo'n llawer mwy hyderus.  Yn ogystal, byddai swyddi gwag bob amser ond roedd staff yn fwy diweddar wedi gadael am resymau da fel dyrchafiadau. Ychwanegodd y Cynghorydd Hourahine fod gweithwyr cymdeithasol wedi gwneud gwaith gwych ac yn gweithio'n galed i'r Cyngor.

 

  • Gofynnodd y Cynghorydd K Thomas a oedd y rhan fwyaf o'r taliadau wedi mynd drwodd.  Yn ffodus, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hyn wedi digwydd; fodd bynnag, y broblem oedd gyda'r broses a'r gweithdrefnau, er nad oedd teuluoedd yn cael eu gadael heb gymorth ariannol.  Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd K Thomas a oedd Archwilio Mewnol yn rhan o'r broses ar y pryd.  Cadarnhawyd nad oedd Archwilio Mewnol ar y pryd, a bod nifer o asesiadau'n gysylltiedig â'r Llysoedd ac asesiadau ariannol.  Cafwyd adolygiadau bob dwy flynedd ar sail cyllid ac anghenion, a oedd yn rhan o'r rheoliadau.  Tynnodd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cyngor sylw at y ffaith bod ochr ataliol gwaith cymdeithasol yn hollbwysig.   Gofynnodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 86 KB

Cofnodion:

Diben y flaenraglen waith oedd helpu i sicrhau bod Cynghorwyr yn drefnus ac yn canolbwyntio wrth gynnal ymholiadau drwy swyddogaeth y Pwyllgor Archwilio. 

 

Cyflwynodd yr adroddiad y rhaglen waith gyfredol i'r Pwyllgor er gwybodaeth a manylodd ar yr eitemau sydd i'w hystyried yn nau gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Nodwyd na fyddai'r Cynghorydd Jordan yn y Pwyllgor Archwilio nesaf.

 

Byddai'r Prif Archwilydd Mewnol yn cysylltu ag Arweinydd y Tîm Llywodraethu i wneud unrhyw newidiadau.

 

Gofynnodd Swyddog Archwilio Cymru i gynllun Archwilio Blynyddol mis Mawrth gael ei ychwanegu at y rhaglen waith.

 

Cytunwyd:

Y dylai’r Pwyllgor Archwilio gymeradwyo'r amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gadarnhau’r rhestr o bobl yr hoffai eu gwahodd ar gyfer pob eitem ac yn nodi a oedd angen unrhyw wybodaeth neu ymchwil ychwanegol.

 

10.

Gweddarllediad - Cliciwch ar y ddolen isod