Agenda and minutes

Pwyllgor Archwilio - Dydd Iau, 27ain Mai, 2021 5.00 pm

Cyswllt: Pamela Tasker  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

None

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 114 KB

Cofnodion:

Yr oedd y Cyng. Hourihane am wneud yn glir ei fod wedi gofyn am ba mor hir yr oedd offerynnau yn para cyn iddynt gael eu diddymu; yr ateb a roddwyd ar y pryd oedd 7 mlynedd. Cytunodd Andrew i geisio eglurhad gan Gerddoriaeth Gwent ynghylch a oedd hyn yn wir ai peidio. Nodwyd y pwynt fel un oedd angen ei gywiro.

 

Yn amodol ar newid y cofnod uchod, cytunwyd ar y cofnodion.

 

3.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Ail-etholwyd y Cadeirydd am flwyddyn arall.

 

4.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheolaeth Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 208 KB

Cofnodion:

Esboniodd Laura Mahoney, Uwchbartner Busnes Cyllid, mai diben y papur hwn yw rhoi gwybod i’r pwyllgor am y gweithgareddau rheoli trysorlys a wnaed ym mlwyddyn ariannol 2020/21. Adroddiad am yr hyn sydd eisoes wedi digwydd yw hwn, sy’n cadarnhau fod y cyngor yn glynu at ei strategaeth o gynnal ei fuddsoddiadau i’r lleiafswm, yn hytrach na benthyca mwy dros y tymor hir.

 

Dengyscrynodeb o’r gweithgareddau rheoli trysorlys fod cyfanswm y benthyciadau yn y flwyddyn 2020/21 wedi gostwng o £13.1 miliwn i £153.2 miliwn, a bod cyfanswm y buddsoddiadau wedi codi o £12.3 miliwn i £24.8 miliwn. Gostyngodd hyn y benthyca net o £25.4 miliwn i £128.4 miliwn.

 

Y prif resymau dros y gostyngiad o ran benthyca net ar ddiwedd 2019/20 oedd bod y cyngor wedi gwneud peth benthyca tymor byr i gefnogi busnesau bach ym Mawrth 2020, mewn ymateb i’r pandemig. Yna, ad-dalodd Llywodraeth Cymru hyn ac ad-dalwyd y benthyciadau ym Mehefin 2020. Mae’r cynnydd mewn buddsoddiadau wedi digwydd oherwydd bod lefelau uwch o arian parod, o ganlyniad i bwysau annisgwyl posibl yn ystod y pandemig.

 

Erys y strategaeth fenthyca gyffredinol yr un fath, ac y mae gan y cyngor ofynion benthyca tymor-hir sylweddol. Mae strategaeth gyfredol y cyngor o dalu am wariant cyfalaf yn defnyddio benthyca mewnol yn hytrach na benthyca o’r newydd, lle y gall wneud hyn. Mae lefel y benthyca mewnol cyfredol yn £107 miliwn fel ar ddiwedd 31 Mawrth 2021. Ar hyn o bryd, rydym ond yn buddsoddi dros dymor byr iawn gyda llywodraeth y DU a llywodraeth leol, sy’n golygu bod cyfraddau llog yn isel iawn, ond y teimlad oedd mai peth doeth oedd hyn yn ystod y pandemig. Cytunodd strategaeth rheoli trysorlys 2020/21 y byddai’r cyngor yn cynnal strategaethau buddsoddi mwy dros gyfnodau hwy mewn buddsoddiadau â mwy o risg, er mwyn cynhyrchu incwm. Ataliodd CCLCD fuddsoddiadau newydd yn dilyn y pandemig. Oherwydd bod y marchnadoedd mor ansefydlog ar y pryd, penderfynwyd na fyddai’n ddoeth dechrau buddsoddi mewn offerynnau â mwy o risg.

 

O ran effaith Covid-19 ar lif arian, bu’n rhaid i’r cyngor beidio â chymryd mwy o fenthyciadau hirdymor ers mis Ionawr 2021, ar wahân i £94,000 am Salex, prosiect ynni unwaith-am-byth. Yr oedd hyn oherwydd i Lywodraeth Cymru roi cyllid sylweddol yn ystod Covid-19. Y disgwyl yw y gall fod angen mwy o gyllido hirdymor dros y flwyddyn sydd i ddod.

 

Mae’r BBGC wedi rhyddhau telerau benthyca newydd yn dilyn ymgynghoriad llynedd. Bydd cyfraddau llog yn cael eu gostwng, ar yr amod y bydd Awdurdodau Lleol yn cyflwyno cynlluniau gwariant cyfalaf manwl. 

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Holoddaelodau beth yw ystyr BBGC

o   Esbonioddyr Uwchbartner Busnes Cyllid mai Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ydyw.

·         Holoddyr aelodau a oes papur yn dweud pryd y gallwn ddisgwyl taliad yn ôl gan Salex, a lle  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Pwyllgor Archwilio - Newidiadau i'r Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio yr eitem hon. Pwrpas yr eitem yw nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau’r argymhellion i wneud y newidiadau cyfansoddiadol, sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd sy’n effeithio ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Bydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru yn newid llywodraethu mewnol cynghorau.

 

Daeth y newidiadau o ran archwilio i rym ar 1 Ebrill 2021. Y newid cyntaf yw newid yr enw i ‘Archwilio a Llywodraethuer mwyn adlewyrchu’r gwell cylch gorchwyl a’r cyfrifoldebau ychwanegol. Yr ail newid yw ychwanegu at y cylch gorchwyl statudol i gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol o ran trin cwynion, yn ogystal â rôl o asesu perfformiad at y dyfodol dan y ddeddfwriaeth.

 

Ynatodiad 2, gosodwyd y cylch gorchwyl newydd allan i ymgorffori’r newidiadau statudol. Bydd gofyn i’r cyngor wneud y newidiadau cyfansoddiadol hynny yn y cyfarfod nesaf ddiwedd Mehefin.

 

Manteisiwydar y cyfle hefyd i gyfoesi’r disgrifiadau rôl i’r cadeirydd a’r aelodau oherwydd y newidiadau cyfansoddiadol hyn. Bydd y newid i’r weithdrefn trin cwynion yn cychwyn yn syth, a bydd yn y flaen-raglen waith o hyn ymlaen. O ran asesu perfformiad, rydym yn disgwyl am fwy o gyfarwyddyd gan LlC. Y bwriad yw darparu broses hunanasesu ar gyfer cyflwyno gwasanaeth, fydd yn cymryd lle’r system bresennol o adroddiad blynyddol. Mae hon yn broses hunanasesu fwy hyblyg a bydd yn cynnwys adolygiad cyfoedion gan banel annibynnol. Nid yw Gwasanaethau Democrataidd yn glir ar hyn o bryd ynghylch manylion hyn. Bydd angen i’r pwyllgor gynhyrchu’r adroddiad asesu cyntaf erbyn 2022/23, felly mae’n debyg o gael ei ohirio tan Fedi 2022, ar ôl yr etholiadau nesaf. Mae Sir y Fflint wedi gwirfoddoli fod yn gyngor fydd yn cynnal cynllun peilot, a gall y pwyllgor ddysgu o’u profiad hwy. Unwaith i’r broses newydd hon fod mewn grym, bydd y pwyllgor archwilio yn chwarae rôl o oruchwylio’r broses hunanasesu o ran gwella cyflwyno gwasanaethau.

Newidarall sydd ar y gweill yw cyfansoddiad ac aelodaeth y pwyllgor. O fis Mai nesaf ymlaen, bydd gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod o leiaf draean o aelodau’r pwyllgor yn annibynnol. Bwriad hyn yw cryfhau’r craffu allanol ar broses archwilio’r cyngor. Rhwng nawr a mis Mai nesaf, bydd angen i ni fynd trwy broses recriwtio i gael aelodau lleyg newydd. Hefyd, oherwydd bod y cadeirydd wedi gwasanaethau am ddau dymor yn olynol, bydd angen recriwtio cadeirydd newydd annibynnol. Mae Gwasanaethau Democrataidd yn argymell ein bod yn cychwyn ar y broses hon yn awr, gan fod y drefn recriwtio a chyfweld yn faith ac yn haearnaidd.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Dywedodd y cadeirydd mai’r pwyllgor archwilio sy’n goruchwylio’r broses risg ar hyn o bryd. A allwn gadarnhau nad yw’r ddeddf newydd hon yn dod ag unrhyw bwerau newydd o ran risg i’r pwyllgor archwilio?

o   Atebodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio nad oes newid i  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol Chwarter 4 pdf icon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr eitem hon.

 

Yn Ch4, mae’r cyngor yn ymdrin â 46 o risgiau gan gynnwys y rhai yn y gofrestr risgiau corfforaethol ar draws pob maes gwasanaeth. Mae manylion yr holl risgiau hyn yn yr adroddiad. Mae 6 maes gwasanaeth lle cafodd risgiau eu cau yn y chwarter hwn.

 

Mae peth newid hefyd yng nghyfeiriad risgiau corfforaethol yn yr adroddiad. Lleihaodd risg Brexit. Yn ystod y flwyddyn, lleihau wnaeth risg rheoli ariannol oherwydd cau ar ddiwedd blwyddyn. Yr oedd risg pandemig Covid-19 yn cilio erbyn diwedd Mawrth oherwydd y rhaglen frechu; parheir i  gadw llygad barcud ar hyn. Mae risg stad eiddo CDC wedi cynyddu oherwydd Ysgol Iau St Andrew, ac y mae camau lliniaru yn eu lle ar gyfer hyn.  Mae risg lleoliadau Allsirol am Anghenion Addysgol Arbennig hefyd wedi cynyddu ar derfyn Ch4.

 

Esboniodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil ein bod, ar derfyn Ch4, wedi nodi nifer o risgiau sydd wedi aros ar yr un sgôr dros y flwyddyn a aeth heibio. Yng ngoleuni hyn, bydd y tîm rheoli corfforaethol (TRhC) yn cymryd agwedd fwy rhagweithiol, gan edrych ar berfformiad risg dros y flwyddyn i ddod. Byddant yn cynnal adolygiadau hynod ddwfn er mwyn deall pam yr erys rhai risgiau yn uchel, a beth y gellir ei wneud i liniaru a lleihau’r risgiau hyn er mwyn cyrraedd y sgoriau targed risg. Fel rhan o arfer da, bydd y TRhC a’r Cabinet yn edrych ar y datganiad awch risg cyfredol, ac yn ystyried a oes angen ei newid i adlewyrchu pa risgiau sy’n cael eu hwynebu’n fewnol ac yn allanol. Yn y man, bydd y pwyllgor yn derbyn y datganiad awch risg hwn er mwyn ei ystyried a rhoi sylwadau, yna fe aiff at y Cabinet.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Dywedoddyr aelodau eu bod yn falch bod nifer y risgiau wedi cwympo. Holwyd pam fod y risg wedi cynyddu am leoliadau allsirol, er i fwy o leoedd gael eu hagor i blant mewn gofal.

o   Esboniodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil esboniodd y bydd lleoliadau Allsirol yn newid yn y ddeddfwriaeth ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, sydd wedi rhoi mwy o ofynion ar y gwasanaeth. Mae angen i ni ddefnyddio lleoliadau Allsirol oherwydd y cynnydd yn y galw.

o   Dywedoddyr aelodau y gallai’r adroddiad esbonio’n gliriach fod y risg wedi codi oherwydd mwy o alw ar y gwasanaeth.

·         Gofynnoddyr aelodau am y risg stad eiddo ac eisiau bod yn garbon niwtral erbyn 2030; sut y byddai hyn yn effeithio ar y risg oherwydd y buddsoddiad sylweddol fyddai ei angen?

o   Atebodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod dod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn her anferth. Mae carbon wedi ei ledaenu ar draws amrywiaeth o weithgareddau, sy’n ymwneud yn rhannol ag eiddo, ond daw llawer o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol (datganiad drafft) pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr eitem hon. Y pwrpas yw rhoi sicrwydd i’r pwyllgor fod y camau rheoli priodol ar gael ar draws y cyngor, a gofalu fod pob busnes yn briodol. Mae gofyniad i roi ynghyd ddatganiad llywodraethu blynyddol, a dyma gyfle cynnar i aelodau’r pwyllgor archwilio a llywodraethu roi sylwadau am y datganiad blynyddol, a’i ffurfio.  Mae’n seiliedig ar y cod llywodraethu corfforaethol, a ddaeth cyn hyn trwy’r pwyllgor A a Ll. Dyma’r fframwaith a osodwyd gan Solace ar gyfer llywodraethu da yn y sector cyhoeddus. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi manylion am yr holl fframweithiau llywodraethu sydd gennym yn y cyngor. Mae 7 egwyddor llywodraethu sydd gennym wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a roddwyd i’r aelodau. Y gobaith yw y bydd yr adroddiad yn rhoi sicrwydd i’r aelodau fod gennym y camau mewnol priodol ar gyfer 2021.

 

Bwriad y datganiad yw canoli ar yr hyn ddigwyddodd mewn craffu, cabinet, archwilio a’r cyngor trwy gydol y flwyddyn i ddangos llywodraethu da. Buasem yn dweud fod gennym broses lywodraethu da. Fel y dywedwyd, ar ffurf drafft y mae hwn a chaiff ei anfon at benaethiaid gwasanaeth unwaith iddo gael ei wirio’n llwyr a’i gwblhau.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Soniodd y Cadeirydd fod y datganiad hwn efallai’n rhy faith. Mae rhai materion fformatio hefyd, a anfonir gan y cadeirydd at y Prif Archwilydd Mewnol. Mae diagram ar dudalen 107 nad yw’n ychwanegu llawer o werth ac sy’n rhy gymhleth; gallai hwn gael ei gymryd allan. Ar dudalen 116 yn y Saesneg, mae ‘role’ wedi ei gamsillafu fel ‘roll’. Ar dudalen 131, nid yw’r casgliad yn  dweud yn ddigon clir pa mor effeithiol yw’r camau rheoli. Mae arnom angen datganiad sy’n dweud yn glir a yw ein camau rheoli yn effeithiol ai peidio, nid yn unig yng nghyswllt Covid-19.

o   Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol mai pwrpas y diagram yw cysylltu gwerthoedd y cyngor â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os nad yw hyn yn glir, gellir ei dynnu allan.

Cytunwyd:

Nodwydyr adroddiad a nododd y Prif Archwilydd Mewnol y sylwadau a wnaed.

 

8.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Cymru ar Waith Grantiau 2020-21- Drafft pdf icon PDF 688 KB

Cofnodion:

Cyflwynoddcynrychiolydd o Archwilio Cymru, Gareth Lucey, yr eitem hon. Dyma’r adroddiad blynyddol am grantiau y mae Archwilio Cymru yn gyfrifol am eu hardystio. Mae’r manylion llawn yn yr adroddiad. Ardystiodd Archwilio Cymru lawer llai o archwiliadau eleni, am i LlC wneud i ffwrdd â’r gofyniad i Archwilio Cymru ardystio yn allanol rai mathau o grantiau; gostyngwyd nifer y grantiau a ardystiwyd o 10 i 4.

 

Ni chodwyd unrhyw broblemau na materion ffocws o’r canfyddiadau eleni. Fodd bynnag, mae nifer o faterion a godwyd ynghylch y cofnod cymhorthdal Budd-daliadau Tai. Cododd Archwilio Cymru nifer o argymhellion, yn enwedig yng nghyswllt y berthynas rhwng y tîm budd-daliadau tai a’r tîm anghenion tai. Os gweithredir yr argymhellion hyn yn llwyddiannus, bydd hyn yn lleihau cost ardystio’r eitem hon, a lleihau’r risg sy’n ymwneud â’r mater hwn.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Cododd y Cadeirydd gwestiwn am fudd-daliadau tai a phensiynau athrawon. Wedi gofyn am eglurhad gan Gyllid ynghylch y camau a gymerir, ond ymddengys bod yr ateb yr un bob blwyddyn, er nad oes dim yn cael ei wneud. Mae’r adroddiad newydd hwn yn pwysleisio bod hon yn broblem barhaus. Beth mae’r tîm cyfrifeg a’r tîm archwilio am wneud ynghylch hyn?

o   Atebodd Gareth Lucey o safbwynt Archwilio Cymru. Y nod yw cyflymu’r gyfres hon o argymhellion i ddal y tîm budd-daliadau tai i gyfrif. Yn y blynyddoedd i ddod, rhaid i ni sicrhau y bydd gweithredu yn digwydd. Mae modd o hyd i gymryd camau yn awr i gywiro unrhyw faterion  yng nghofnodion 2020/21. 

o   Esboniodd Mark Howcroft bod hyn yn nodwedd gyffredin mewn hawliadau budd-daliadau tai ar draws awdurdodau lleol, oherwydd ei fod yn hawliad mawr a chryn symud ynddynt. Ond nid dweud y mae hyn na all y cyngor wella’r cyfathrebu rhwng y tîm budd -daliadau tai a’r tîm anghenion tai.

·         Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y ffaith ei fod yn digwydd mewn mannau eraill yn ei wneud yn iawn

o   Esboniodd Mark Howcroft mai rhoi cyd-destun yn unig yw hyn i gydnabod fod hwn yn hawliad cymhleth sy’n golygu symiau mawr o arian

o   Atebodd y Cadeirydd fod yr un pethau’n digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, e.e., y ffurflen heb ei llofnodi gan y swyddog cyllid perthnasol; mae hyn yn edrych fel gwiriad sylfaenol sydd angen ei wneud. Os oes rhai meysydd cymhleth lle mae pobl angen hyfforddiant, gall hyn ddigwydd. Serch hynny, y mae achosion o wybodaeth nad yw ar gael. Pethau sylfaenol yw llawer o hyn, pan nad yw pobl yn cael y wybodaeth a ddisgwylir. Rhaid i ni geisio lleihau camgymeriadau dynol yn hyn o beth.

·         Holodd y Cadeirydd hefyd am elfen pensiynau athrawon.

o   Esboniodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y gall hyn fod yn gymhleth pan fydd athrawon yn newid eu horiau, etc. Mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21 pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad blynyddol yn seiliedig ar ddwy elfensicrwydd fod gennym gamau rheoli mewnol effeithiol, a hefyd berfformiad y tîm. Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn ôl dros 2020/21.

Mae’rfarn gyffredinol a roddir yn yr adroddiad yn ffafriol. Mae hyn yn golygu fod gennym gamau rheoli digonol, er bod risgiau lle mae angen gwella. Yr oedd barn 2020/21 yn seiliedig ar werth 6 mis o waith archwilio gan i Covid-19 effeithio ar y gallu i wneud y gwaith. Er i’r pwyllgor archwilio gytuno’n flaenorol ar gynllun o 1200 diwrnod o waith archwilio, 600 diwrnod o waith archwilio oedd yn y cynllun diwygiedig. Gwnaeth y tîm waith ardderchog trwy gael cymaint ag yr oedd modd o raddfeydd barn allan. Am 2020/21 hefyd, bu’n rhaid dibynnu ar waith y blynyddoedd blaenorol, ond ychydig iawn o newidiadau fu o ran system neu staff, sy’n golygu bod gennym sicrwydd y gallwn ddibynnu ar y farn hon.

 

Agweddarall yr adroddiad yw perfformiad y tîm, sydd wedi cwblhau 78% o’r cynllun y cytunwyd arno, a hyn wedi ei adolygu ar sail hanner blwyddyn o waith. Y gobaith oedd y byddai’r tîm yn dychwelyd i ymweld ag ysgolion a safleoedd eraill, ond oherwydd Covid-19 ni fu modd gwneud hyn.

 

Mae’rfarn gyffredinol yn seiliedig ar 6 mis o waith, a nododd y tîm 29 barn i roi sicrwydd rhesymol, gan ddibynnu hefyd ar wybodaeth a gwaith archwilio blaenorol, i nodi nad oes problemau sylweddol.

 

O gymharu blynyddoedd, mae paragraff 6 yn amlinellu sawl barn a roddwyd dros y 4 blynedd a aeth heibio.

 

2020/21: cyhoeddwyd nifer tebyg o farnau yn 19/20, oedd am flwyddyn lawn. Dengys hyn fod y tîm wedi canolbwyntio’n wirioneddol ar y gwaith barn.

Mae’ndda nodi fod 5 barn dda. Yr oedd 23 barn resymol, ac i farn anfoddhaol (cartref c?n dinas Casnewydd).

 

Mae’rtîm hefyd wedi cymryd adnodd ychwanegol, sef arbenigwr mewnol a ddarparwyd gan bartneriaeth archwilio mewnol y de orllewin. Byddai’r adroddiad hwn fel rheol yn adrodd am weithredu 2019/20, ond am nad oeddent wedi derbyn y farn archwilio angenrheidiol, ni chyfoeswyd y cynllun gweithredu eto. Adroddir yn ôl i’r pwyllgor yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Mae’rtîm mewn cylch 2-flynedd arall o’r Fenter Dwyll Genedlaethol, ac ar hyn o bryd yn gweithio trwy’r adborth cyfatebol o swyddfa’r cabinet.

 

Mae’rtîm yn cael adroddiadau drafft allan ymhen 8 diwrnod, a’r adroddiadau terfynol allan ymhen 3 diwrnod, sydd i’w ganmol.

 

Ynaamlinellodd y Prif Archwilydd Mewnol atodiadau’r adroddiad, oedd yn crynhoi’r eitemau yr adroddwyd arnynt; yr oedd a wnelo hyn â chamau rheoli mewnol a pherfformiad y tîm. 

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Gwnaethaelodau y sylw fod y cartref c?n wedi dod i fyny sawl gwaith wrth archwilio. Oes  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr eitem hon. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ymlaen at 2021/22, ac yn cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor archwilio am sylwadau ac i’w gymeradwyo. Mae a wnelo’r adroddiad â gwaith y bwriada’r tîm archwilio wneud ar draws pob maes gwasanaeth. Yr amcan yw rhoi sicrwydd bod yr amgylchedd rheoli mewnol, trefniadau llywodraethu a phrosesau rheoli risg oll yn ddigonol. Y cynllun yw i ymdrin â chynifer o feysydd gwasanaeth ag sydd modd, ac y mae’n seiliedig ar flwyddyn ariannol lawn o 12 mis. Seilir hyn ar 1084 o ddyddiau archwilio cynhyrchiol.

 

Mae peth gwybodaeth gefndir yn yr adroddiad am strwythur y tîm ac annibyniaeth eu gwaith. Bwriadant ymdrin â rhai o’r meysydd lle mae mwyaf o risg. Bydd yn rhaid i’r tîm flaenoriaethu unrhyw waith na lwyddwyd i’w wneud yn 2021. Mae’r cynllun hefyd yn ymgorffori ysgolion, ac y mae hyn yn edrych yn bosibl, wedi cael gair â’r Prif Swyddog Addysg. Siaradodd y Prif Archwilydd Mewnol a phob pennaeth gwasanaeth ynghylch risg yn eu meysydd gwasanaeth, a hefyd am faterion archwilio penodol fel tîm.

 

Rhoiblaenoriaeth ar droi’r rhestr hir yn rhaglen archwilio fwy rhesymol, fydd yn esgor ar gynllun archwilio a gyflwynir i’r pwyllgor.

 

Ynaamlinellodd y Prif Archwilydd Mewnol yr atodiadau i’r adroddiad, sy’n esbonio manylion y prosesau archwilio a thasgau unigol.

 

Mae 82 tasg yn y cynllun, a 59 ohonynt yn gysylltiedig â barn. Mae 23 tasg nad ydynt yn ymwneud a barn lle gall y tîm ychwanegu gwerth i’r sefydliad.

 

Arhyn o bryd mae 6.5 o staff llawn amser ac 1 aelod staff rhan amser. Cyfanswm nifer y dyddiau gwaith yw 2072, gan dynnu ymaith wyliau, salwch, hyfforddiant, rheoli, gweinyddiaeth, etc.  Mae hyn yn gadael ffigwr net o ddyddiau archwilio cynhyrchiol - 934 diwrnod archwilio gweithredol, a seilir y cynllun ar y ffigwr hwnnw.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Soniodd y Cadeirydd fod llithriad yn y rhaglen gyfalaf bob blwyddyn. A yw’n bosibl adolygu rheolaeth prosiect ynghylch cynlluniau cyfalaf a chyllidebu cyfalaf, gan yr ymddengys bod gwendid yma?

o   Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y cynllun yn hyblyg, a bod hyn yn angenrheidiol er mwyn ymateb i anghenion. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gynnwys, ond bydd yn rhaid i addasu yn y cynllun. Bydd angen trafod hyn gyda’r swyddogion arweiniol er mwyn sicrhau y gallwn wneud lle iddo.

·         Holoddaelodau am y 7 eitem na chafodd archwiliad erioed. Oes modd blaenoriaethu’r eitemau hyn i’w harchwilio fel mater o frys?

o   Atebodd y Prif Archwilydd Mewnol y gwnaiff y tîm eu gorau i wneud y rhain yn gyntaf, ond bydd angen gweithio gyda’r meysydd gwasanaeth i gytuno ar amser priodol  i’r archwiliadau hyn ddigwydd.

Cytunwyd:

Nodwyd a chadarnhawyd yr adroddiad.

 

11.

RhS24/Hepgor RhS Contractau: Adolygiad chwarterol yn adolygu penderfyniadau brys Cabinet/CM neu hepgor RhS Contractau (Chwarter 4, Ionawr i Fawrth) pdf icon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr eitem hon. Adroddiad chwarterol yw hwn ynghylch hepgor contractau a phenderfyniadau brys a gymerwyd heb gyfle i alw i mewn gan aelodau eraill. Yn y Ch diwethaf, bu 2 adroddiad ynghylch yr NNDR am ryddhad dewisol, o ganlyniad i’r pandemig. Mae a wnelo un adroddiad a lletygarwch, ac un â lletygarwch uwch. Yn y naill achos a’r llall, cymerodd arweinydd y cyngor benderfyniad brys.

 

Nidoedd yr adroddiad cyntaf yn dweud yn benodol pam y gwnaed penderfyniad brys, ond yn yr atodiad i’r adroddiad hwnnw, daeth gwybodaeth gan LlC fod gweinidog o’r llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar 3 Mawrth 2021 i bapurau treth cyngor sy’n mynd allan cyn 1 Ebrill. Cymerwyd y penderfyniad brys hwn felly oherwydd i LlC wneud penderfyniad hwyr, gan i e-bost gael ei anfon at CDC ar 16 Mawrth gyda’r gwaith papur ei angen erbyn 1 Ebrill. Tybiwyd felly bod cyfiawnhad.

 

Ynyr un modd, yr oedd cyfiawnhad priodol dros yr ail eitem, gan fod angen gwneud penderfyniad brys ynghyd rhyddhad dewisol NNDR. Ymddengys felly nad oes llawer o achos pryder yma.

 

Cytunwyd:

Nododd y pwyllgor y sylwadau gan gydnabod nad oes lle i bryderu.

 

12.

Drafft o Raglen Waith pdf icon PDF 84 KB

Cofnodion:

Sylwodd y Cadeirydd fod rhai llinellau yn yr adroddiad am y flaen-raglen waith oedd wedi eu hail-adrodd.

 

Gweithredu:

Bydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn gweithio yn y cefndir i ddatrys unrhyw broblemau gyda’r rhaglen waith.

 

13.

Rhan 2 Eitemau Cyfrinachol neu a Eithriwyd

Not for publication as consideration of the report involves the likely disclosure of exempt information as defined in schedule 12 A of the Local Government Act 1972 (as amended) and the exemption outweighs the public interest in disclosure.

 

 

14.

Adroddiad Seibr-Ddiogelwch Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd Gareth Lucey o Archwilio Cymru yr adroddiad. Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi’n gyfrinachol i bob corff yng Nghymru a archwilir. Gallai gwneud yr adroddiad hwn yn gyhoeddus arwain at gynnydd mewn seibr-ymosodiadau yn erbyn cyrff y sector cyhoeddus, a does neb eisiau hynny. Dechrau’r drafodaeth yw hyn, er mwyn bod yn sail o wybodaeth ac addysg i unrhyw gamau pellach. Mae seibr-ymosodiadau yn dod yn fygythiad cynyddol; bu oddeutu 1 miliwn o seibr-ymosodiadau aflwyddiannus llynedd yn unig.

 

Seiliryr adroddiad hwn i raddau helaeth ar arolygon. Mae’n dangos darlun amrywiol ar draws y sector cyhoeddus. Yr ydym yn ystyried, o’r adroddiad cenedlaethol hwn, beth y gellir ei wneud yn lleol i fwrw ymlaen.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes gyfrinachedd yr eitem hon ar yr agenda.  Sicrhaodd y pwyllgor nad oes unrhyw laesu dwylo ar ran CDC. Fel cyngor yr ydym mewn sefyllfa dda, yn enwedig gyda SRS fel ein partneriaid strategol. Mae hwn yn fater o bryder dyddiol iddo ef a SRS. Y mae hyn ym maes gwasanaethau digidol yn ogystal â gwrthderfysgaeth. Mae’r risg yn uchel iawn i gyrff cyhoeddus, o du troseddwyr, troseddu trefnedig, a therfysgaeth. Mae hyn o safbwynt digidol yn ogystal â lleoliad ffisegol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol fod hwn yn adroddiad arwyddocaol. Cynyddu wnaeth lefel y bygythiad dros yr ychydig flynyddoedd a aeth heibio. Mae hyn yn fater o fusnes fel arfer i CDC. Mae mesurau ar waith ar hyn o bryd i liniaru’r risgiau hyn. Mae’r tîm yn gweithio ar atebion sylweddol i atal lledaeniad meddalwedd pridwerth, ac atebion pellach ar gyfer y senarios gwaethaf. Cafwyd digwyddiad o bwys cynt gyda chwmni teithio a gafodd effaith enfawr ar eu gwasanaethau. Yn y sector cyhoeddus, cafodd Redcar yn Cleveland eu taro gan feddalwedd pridwerth. Mae’r bygythiad yn bodoli, ac yn cael effaith. Ymosodwyd yn ddiweddar ar wasanaeth iechyd Iwerddon. Mae CDC yn cymryd camau penodol i hybu ei amddiffyniad ei hun.

 

Mae mesurau technegol a rhai nad ydynt yn dechnegol yn eu lle i leihau risg. Rydym wrthi yn rhoi ynghyd y nawfed adroddiad am y risg i wybodaeth. Rydym yn ymwybodol fod hyn yn risg wirioneddol, ond mae nifer o fesurau a all sicrhau bod y risgiau hyn yn cael eu dileu.

 

Esboniodd Kathryn Beavon-Seymour o SRS fod a wnelo 30% o weithgaredd SRS ag atal risgiau. Mae cwmnïau allanol yn gallu darparu profion treiddio, sy’n rhoi adroddiadau i sefydliadau sy’n bartneriaid er mwyn gwneud yn si?r fod popeth yn gweithio’n iawn. Mae galluoedd gwrth-firws llawn, a dulliau canfod e-byst ayyb. ar gael. Mae gwe-brocsi yn ei le sy’n monitro pob cyrchu at y rhyngrwyd i warchod rhag bygythiadau. Mae gan ysgolion broses benodol gan LlC i ofalu mai dim ond cynnwys penodol i oedran  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Live Event