1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Cyswllt: Pamela Tasker  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim. 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diweddaf pdf icon PDF 414 KB

3.

Gofrestr Risg Corfforaethol (Chwarter 2) pdf icon PDF 415 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Cofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn monitro'r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei Gynllun Corfforaethol neu ddarparu gwasanaethau i'w gymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghasnewydd.

Ailadroddodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad eu rôl hwy oedd cwestiynu sgôr y risgiau ond y broses o amgylch y risgiau.

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a'r Ganolfan Gorfforaethol.

 

 

Prif Bwyntiau:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol, wrth edrych yn ôl i’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, fod rhai risgiau sylweddol posibl yr oedd y sefydliad yn ymdrin â hwy bryd hynny. Un o’r rhain oedd y cyfnod ar ôl y cyfnod pontio o'r UE a Brexit a’r goblygiadau sy’n gysylltiedig â hynny, yn ogystal â risg yr amrywiolyn Delta oherwydd dechrau’r tymor ysgol newydd. 

·       O fewn y cynlluniau gwasanaeth, roedd 46 o risgiau penodol ar draws ei wyth maes gwasanaeth gyda rhai newidiadau, gyda risg gaeëdig yn gysylltiedig â'r cynllun datblygu strategol o ganlyniad i drefniadau pwyllgor corfforaethol. Roedd risg newydd yn gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.

·       Ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, roedd 18 o risgiau, gyda’r sefyllfa o ran COVID-19 yn gwaethygu ac yn gwella mewn perthynas â chyfraddau heintiau ac ati.

·       Roedd pwysau ar wasanaethau cymunedol hefyd yn dibynnu ar y risgiau sy’n gysylltiedig â COVID-19 a sut roedd hynny’n cael ei reoli.

·       Mwy o risg gyda Brexit a’r prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a barhaodd i Chwarter 3.

·       Roedd gostyngiad mewn diogelu yn risg oherwydd hunanasesiad y sefydliad a gynhaliwyd.

Cwestiynau:

Holodd y Cynghorydd Hourahine am y risg yn erbyn Brexit a ph'un a oedd yn arf di-fin i ddiffinio lle’r oedd y risgiau mewn gwirionedd gan fod anhawster recriwtio gweithwyr gofal ar gyfer cartrefi gofal a nodwyd y ceisiwyd recriwtio yn y gymuned.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Strategol, y tu allan i'r cyfnod hwn, ond oherwydd yr amrywiolyn Omicron a'r pwysau ar ofal cymdeithasol, fod ystod o ymyriadau i reoli'r risg barhaus hon. Nid oedd hyn yn ymwneud â Brexit ond, o fewn pob cynllun gwasanaeth, roedd risgiau a gwaith cynllunio’r gweithlu lle bu llawer o waith yn y sefydliad ar hyn. Roedd hwn yn edrych ar y gweithlu presennol a chadw’r gweithlu yn y dyfodol, eu hyfforddi a gweithgareddau ar eu cyfer, ac ym mhob cynllun gwasanaeth roedd adran ar sut i fynd i’r afael â’r problemau hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Giles fod materion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ynghyd â chyllidebau ysgolion yn mynd rhagddynt ond nad oeddent mor ddifrifol ag y tybiwyd unwaith, a oedd yn drawiadol. Diolchodd y Cynghorydd Giles i'r awdurdod a'r holl ysgolion am eu gwaith caled. Gofynnodd y Cynghorydd Giles am ddiweddariad ar ysgolion a materion ADY ac AAA a gwnaeth sylwadau ar y darlun ar ôl COVID-19 a sut olwg fyddai arno gan fod rhai materion ariannol ysgolion wedi'u lleddfu rhywfaint.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Strategol fod pwysau costau cyllid ysgolion yn fater parhaus, ac roedd hwn yn ddarn enfawr o waith dan  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Strategaeth Rheoli Cyfalaf a Thrysorlys pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Bwriad yr adroddiad hwn oedd casglu barn ac ymatebion y Pwyllgor i Strategaethau Rheoli Cyfalaf a Thrysorlys drafft y Cyngor. Byddai'r safbwyntiau ac ymatebion hyn wedyn yn cael eu hadrodd i'r Cabinet a'r Cyngor, er mwyn llywio eu hystyriaethau o'r dogfennau hyn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r pwyllgor gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, ac eglurwyd mai hon oedd blwyddyn olaf y Rhaglen Strategaeth Gyfalaf ac y byddai adolygiad mwy sylfaenol y flwyddyn nesaf wrth i’r rhaglen newydd gael ei datblygu.

 

 

 

 

 

 

Prif Bwyntiau:

  • Ychwanegwyd dwy flynedd ychwanegol i gwmpasu cynlluniau a oedd yn ymestyn y tu hwnt i 2023, megis rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, a oedd yn rhaglen amlflwyddyn a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf.
  • Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w ystyried a rhoi sylwadau arno ac yna i'r Cabinet a'r Cyngor llawn i'w gymeradwyo, sef y broses a ddilynwyd.
  • Roedd hon yn ddogfen hirdymor yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd a thu hwnt mewn rhai achosion ac roedd yn ofynnol i’r tîm ategu’r holl ystyriaethau â’r tri phrif amcan, sef fforddiadwyedd, darbodusrwydd a chynaliadwyedd, ac roeddent yn hollbwysig o fewn y penderfyniadau a gymerwyd ar y cyd â'r adroddiad hwn.
  • Yn sylwadau’r Pennaeth Cyllid, nodwyd mai un o’r prif amcanion oedd cyfyngu ar dwf a gwariant cyfalaf a gyllidir gan ddyled, e.e. gwariant a ariennir drwy fenthyca. Byddai gallu benthyca mewnol yn lleihau dros amser ac, o gofio'r ffordd yr oedd y polisi darpariaeth isafswm refeniw yn gweithio, byddai'r taliadau'n cynyddu dros amser.
  • Ar dudalen 3, roedd dwy adran a oedd yn rhoi trosolwg o’r ddwy strategaeth, beth oedd eu prif ddiben, a sut yr oeddent wedi’u nodi yn y Cod Materion Ariannol.
  • O ran y prif uchafbwyntiau, cyfanswm y saith mlynedd oedd £288 miliwn, a oedd yn cynnwys £2.4 miliwn o hyblygrwydd benthyca heb ei ymrwymo ar hyn o bryd, ac yn 2022-2023 roeddem yn edrych ar wariant o fwy na £100 miliwn, a oedd yn her sylweddol i’r Cyngor ei chyflawni.
  • Rhagwelwyd y byddai £77.5 miliwn yn cael ei ariannu drwy fenthyca ac roedd £43.1 miliwn i'w wario o hyd.
  • O fewn yr adroddiad, o ran y dangosyddion darbodus – y ddau rai hollbwysig oedd y terfynau benthyca allanol a'r terfyn awdurdodedig yn y ffin weithredol. Roeddent yn deillio o'r Rhaglen Gyfalaf ac yn £271 miliwn a £192 miliwn yn y drefn honno, heb gynnwys Mentrau Cyllid Preifat a phrydlesi. Roedd hyn yn adlewyrchu cynnydd ar y terfynau a oedd ar waith ar hyn o bryd yn y flwyddyn ariannol hon ac mae hynny'n sail i'n sefyllfa fel benthyciwr net wrth symud ymlaen.
  • Roedd Tabl 3 yn cynnwys y costau cyllido cyfalaf yr ydym wedi cyllidebu ar eu cyfer o fewn cyllideb refeniw'r Cyngor, a oedd yn dal yn gymharol uchel ac a gafodd eu lleihau yn ôl cyfran o gyllideb refeniw gyffredinol y Cyngor wrth symud ymlaen. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y setliad cadarnhaol sydd wedi'i dderbyn eleni, a'r setliadau dangosol yr ydym wedi'u cael o'r  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Gwersi a Ddysgwyd 2020/21 pdf icon PDF 445 KB

Cofnodion:

Bwriad yr adroddiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o’r cyfarfod ymadael ag Archwilio Cymru, a oedd yn myfyrio ar broses archwilio Datganiad Cyfrifon 2020-21, a ph'un a ellid diwygio arferion er budd proses Datganiad Cyfrifon 2021-22.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, a gadarnhaodd fod Datganiad Cyfrifon 2020/2021 wedi’i gymeradwyo ym mis Tachwedd 2021, ond y cydnabuwyd gwelliannau ac fe’u cywirwyd. 

Adlewyrchwyd y newidiadau a wnaed yn y papurau gwaith sy'n mynd drwodd yn awtomatig i broses 2021-22.

·       Canolbwyntiodd y cyfarfod archwilio ar yr hyn yr aeth yn dda a'r hyn y gellid ei wella, agweddau rhannu gwybodaeth, a sut y gallai'r tîm fodloni'r amserlenni archwilio statudol yn well. Roedd hyblygrwydd COVID-19 yn gwneud y cyfrifon yn fwy anodd, ond cydnabuwyd efallai na fydd yr hyblygrwydd hwnnw yn bodoli cyn bo hir.

·       Mae gan archwilwyr ymrwymiadau amser ar gyfer archwiliadau eraill ac, o ganlyniad i'r cyfarfod archwilio, bu'r awdurdod lleol yn ystyried p'un a oedd bwriad i baratoi'r cyfrifon yn unol ag argaeledd archwilwyr neu i ymdrechu i’w cau o fewn amserlenni cynnar.

·       Nodwyd yr oedi cyn cymeradwyo cronfeydd wrth gefn, a oedd yn ymwneud â COVID-19. Roedd y grant COVID-19 ei hun, a oedd yn llawer o arian, yn cynnwys tua £30 miliwn o gyllid i’w ddyrannu i wasanaethau penodol.

·       Nodwyd bod hon yn broses archwilio dda a'i bod yn dda cael ein herio i fodloni’r terfyn amser ym mis Mai a'i bod yn synhwyrol gweithio i ganllawiau statudol.

·       Roedd yn dîm bach ond yn wydn iawn o dan bwysau, a oedd yn risg yr oedd angen i'r Cyngor ei gwerthfawrogi.

Cwestiynau:

Dywedodd y Cynghorydd Hourahine, gan mai tîm bychan oedd hwn, pa argaeledd oedd ar gael yn y system gyllid gyfan i ddyrannu staff lle'r oedd eu hangen fwyaf.

Nododd y Pennaeth Cyllid mai darn technegol iawn o waith oedd hwn, a dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod angen peth arbenigedd ar gyfer rhai pethau, megis cyflwyno dogfen 160 tudalen yn dilyn y safonau adrodd ariannol rhyngwladol.

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod rhai tasgau cau yn cael eu rhannu yn y tîm ond, gyda thîm o bedwar, bod her a chapasiti cynhenid yn bresennol.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod y tîm cyfrifeg cyfan i gyd yn gysylltiedig a bod tîm canolog a oedd yn dod â'r cyfan ynghyd gyda'r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, ynghyd ag un cyfrifydd cyfalaf a phartner busnes cyllid. Roedd y gwaith yn dechnegol iawn, ac nid oedd y lefel hon o wybodaeth ar gael i bawb ym maes cyfrifeg. Roedd pawb yn rhan o'r broses orffen. Roedd gwytnwch yn broblem, ac roedd hyn yn peri pryder, ond gwnaeth y tîm y gorau y gallent gyda’r adnoddau a oedd yno.

Cytunodd y Cadeirydd fod y broblem hon ym mhobman a nododd ei bod yn dda cael dogfen Gwersi a Ddysgwyd, a oedd yn wych i'w chael. Cytunodd y Cadeirydd fod angen mynd at y terfyn amser diwedd mis Mai a'i bod yn gywir cadw at hyn gan fod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

SO24 / Hepgor Rheolau Contract: Adroddiad chwarterol yn adolygu penderfyniadau brys y Cabinet / CM neu'n ildio RhSau Contract (Chwarter 3, Hydref i Ragfyr 2021 pdf icon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion y penderfyniadau ar ddefnyddio Rheol Sefydlog 24 (penderfyniadau a gymerwyd ar frys) neu Hepgor Rheolau Sefydlog Contractau ar gyfer y cyfnod uchod.

Wrth ystyried yr adroddiad hwn, atgoffwyd yr Aelodau nad oeddent yn cwestiynu rhinweddau'r penderfyniadau a wnaed ond eu bod yn canolbwyntio ar pam fod penderfyniadau'n cael eu gwneud fel rhai brys neu pam fod angen hepgor Rheolau Sefydlog Contractau.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol, a esboniodd fod hwn yn adroddiad rheolaidd i'r Pwyllgor a bod Rheol Sefydlog 24 yn caniatáu i Aelodau'r Cabinet neu'r Cabinet wneud penderfyniadau brys heb fynd drwy'r broses ymgynghori arferol. 

Yn ystod y chwarter diwethaf, cyflwynwyd un adroddiad a oedd yn ymwneud â Rheol Sefydlog 24 ac roedd angen i'r Pwyllgor sicrhau eu hunain bod modd cyfiawnhau'r rheswm dros ddefnyddio Rheol Sefydlog 24 yn yr achos hwnnw, sef arwain at lywodraethu da. 

Eglurodd y Prif Archwiliwr Mewnol mai ei rôl oedd adolygu'r rhestr o benderfyniadau a'r adroddiad a oedd wedi'i gynnwys yn y papurau a nodi'r rheswm dros y penderfyniad brys.

Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol nad oedd y cyfiawnhad dros natur frys y penderfyniad yn amlwg nac wedi'i gofnodi yn yr adroddiad yn ei farn ef ac nad oedd amserlen wedi'i chynnwys o amgylch y gyllideb na'r opsiynau.

Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol wrth y Pwyllgor nad oedd yn argymell galw’r Aelod Cabinet i’r Pwyllgor, ond byddai’n awgrymu bod y Pwyllgor yn ystyried gofyn i’r Aelod Cabinet ddarparu ymateb ysgrifenedig ynghylch pam ei bod yn briodol defnyddio Rheol Sefydlog 24 ar yr achlysur hwn.

Cytunodd y Cadeirydd â'r argymhelliad a dywedodd fod angen rhagor o wybodaeth.

 

Cytunwyd:

I'r Prif Archwilydd Mewnol ofyn i'r Aelod Cabinet ddarparu ymateb ysgrifenedig i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i egluro'r defnydd o Reol Sefydlog 24.

 

 

7.

Archwiliad Mewnol Anfoddhaol Barnau Archwilio (6 adroddiad misol) pdf icon PDF 448 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i'r Pwyllgor gan y Prif Archwilydd Mewnol.

Roedd yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r farn a fynegwyd gan y tîm, ac roedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed o ran y farn anffafriol a gyhoeddwyd.

 

Prif Bwyntiau:

·       Yn ystod 2018-19, cafodd 48 o farnau archwilio eu cyhoeddi; roedd deg yn Anfoddhaol ac un yn Ansicr.

·       Yn ystod 2019-20, cafodd 32 o farnau archwilio eu cyhoeddi; roedd chwech yn Anfoddhaol ac nid oedd yr un yn Ansicr.

·       Yn ystod 2020-21, cafodd 29 o farnau archwilio eu cyhoeddi; roedd un yn Anfoddhaol ac nid oedd yr un yn Ansicr.

·       Yn ystod 2021-22 (hyd at 30-9-21), cafodd naw barn archwilio eu cyhoeddi; nid oedd yr un yn Anfoddhaol nac yn Ansicr.

Roedd hon yn ffordd addawol ymlaen gan fod nifer y safbwyntiau anffafriol yn lleihau. Gall Aelodau weld bod gwelliannau wedi'u gwneud a bod ymrwymiad i fynd ar drywydd unrhyw farn anffafriol ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar y farn eilradd, a allai fod yn gadarnhaol neu'n negyddol.

·       Mewn rhai achosion, cafwyd dwy farn anffafriol yn olynol ac yna mae'r Pwyllgor wedi galw'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i mewn i herio'r unigolyn pam mai ychydig o gamau a gymerwyd ac i wneud y gwelliannau hynny.

·       Yn 2015-16 (paragraff 6 yr adroddiad), cyhoeddwyd 34 o farnau archwilio a barnwyd bod wyth ohonynt yn Anfoddhaol; nodwyd un yn y crynodeb fel tabl gan fod y saith adroddiad blaenorol wedi bod yn destun camau dilynol a bod barnau mwy ffafriol wedi'u cyhoeddi ac wedi'u hadrodd yn briodol i'r Pwyllgor.

·       Roedd Tabl 6 yn dangos y Fenter ar y Cyd – Newport Norse, a oedd yn Anfoddhaol rai blynyddoedd yn ôl. Bu rhywfaint o oedi wrth gael yr adroddiad hwn o ran gweithgarwch dilynol. Dechreuwyd gweithgarwch dilynol yn 2021, parhaodd i mewn i 2022, a chyhoeddwyd barn newydd, yr adroddwyd ei bod yn fwy ffafriol, a byddai hon yn cael ei hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.

·       Yn 2016-17, cyhoeddwyd 35 o farnau archwilio; barnwyd bod pump yn Anfoddhaol, un yn Ansicr. Nid yw un adroddiad wedi bod yn destun camau dilynol eto. Roedd hwn yn fater i’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir ac mae'r pedwar adroddiad Anfoddhaol blaenorol ac un Ansicr wedi'u dilyn gan farn fwy ffafriol. Mae’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a’r Tîm Digidol wedi ymgysylltu ag ymgynghorydd i nodi dadansoddiad o fylchau a byddai diweddariad yn cael ei roi i’r Pwyllgor maes o law.

·       Nododd paragraff 8 y cyhoeddwyd 40 o farnau archwilio yn 2017-18; barnwyd bod chwech yn Anfoddhaol ac nid oedd yr un yn Ansicr. Mae pedwar o'r chwech wedi bod yn destun camau dilynol, y mae tri ohonynt wedi arwain at farn archwilio fwy ffafriol. Nid yw dau adroddiad wedi bod yn destun camau dilynol eto. Mewn perthynas â'r Contractiwr Arlwyo a Ffefrir, nid oedd hyn wedi'i nodi eto gan nad oedd yr ysgol wedi ymrwymo i gontract newydd eto.

·       Yn 2018-19, roedd 48 o farnau archwilio wedi’u cyhoeddi; barnwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Archwilydd Mewnol i'r Siarter Archwilio Mewnol fynd ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 31 Mawrth 2022.

Gofynnodd Archwilio Cymru i Gynllun Archwilio Blynyddol 2022 Archwilio Cymru fynd ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 31 Mawrth 2022.

Dywedodd Archwilio Cymru y gallai ffurf ddrafft o Adroddiad Blynyddol Archwilio Cymru ar Waith Grantiau 2021-22 fod ar gael ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth ond byddai angen cadarnhau hyn.

 

9.

Gwe-ddarllediad y Pwyllgor