Agenda and minutes

Pwyllgor Archwilio - Dydd Iau, 11eg Tachwedd, 2021 5.00 pm

Cyswllt: Pamela Tasker  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim un

2.

Cofnodion Y Cyfarfod Diwethaf 29 Gorffennaf 2021 pdf icon PDF 279 KB

Cofnodion:

Bod y cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021 yn gofnod gwir a chywir.

Nododd y Cadeirydd fod yna gamau gweithredu ar gyfer yr Uwch-bartner Busnes Cyllid ar dudalen 7 o gofnodion y cyfarfod diwethaf.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y cyfrifon wedi'u haddasu

3.

Cofrestr Risg Gorfforaethol (Chwarter 1 Ebrill i Fehefin) pdf icon PDF 469 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Cofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn monitro'r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei Gynllun Corfforaethol neu ddarparu gwasanaethau i'w gymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghasnewydd.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chanolfan Gorfforaethol adroddiad i’r pwyllgor ac ailadroddodd mai rôl y pwyllgor oedd monitro’r trefniadau sydd ar waith a gwneud argymhellion i’r Cabinet yn seiliedig ar y trefniadau hynny.

Roedd y pwyllgor wedi derbyn adroddiad yn flaenorol ynghylch y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau ynghyd â'r newidiadau i gylch gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ond nid oedd wedi newid ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda, ac roedd yn ymwneud â monitro trefniadau'r Cyngor sy'n gysylltiedig â'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a'r ffordd roedd risgiau'n cael eu rheoli.

 

Prif bwyntiau i'w nodi:

 

·       Roedd 18 o risgiau corfforaethol a gariwyd i Chwarter 1 y flwyddyn hon a oedd yn parhau heb newid ers y chwarter blaenorol. Roedd yr un risg oedd wedi newid yn ymwneud â phandemig COVID-19 a bu gostyngiad yn y risg oherwydd sefyllfa’r Cyngor yn Chwarter 1. Roedd y risg honno’n destun newid a oedd y tu allan i reolaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn seiliedig ar drosglwyddiad epidemiolegol y feirws a mesurau lliniaru presennol sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru a’r llywodraeth ganolog.

·       Cafwyd argymhellion blaenorol gan y pwyllgor ynghylch cynnal archwiliad ‘dwfn’ o rai o'r risgiau ac roedd yr adroddiad yn nodi'r rhan gyntaf o'r archwiliad dwfn hwnnw gan y Tîm Rheoli Corfforaethol o ran y risgiau sy'n ymwneud â'r seilwaith priffyrdd.

Crybwyllodd y Cadeirydd, er y bu gostyngiad mewn risgiau, fod hyn yn dal yn faes sydd yn y parth coch. Cytunodd y Cyfarwyddwr Strategol a dywedodd ei fod yn cael ei fonitro drwy'r Gofrestr Risg Gorfforaethol a bod y ffigurau wedi cynyddu eto, felly byddai'r risg yn cynyddu yn y chwarteri dilynol.

 

Cytunwyd:

 

Cymeradwyodd y pwyllgor yr adroddiad.

 

4.

Archwilio Cyrff Rheoleiddio Cymru- Diweddariad 6 mis pdf icon PDF 305 KB

Cofnodion:

Ym mis Mai 2021, roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi diweddaru ei gylch gorchwyl i gyd-fynd â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yn ei gylch gorchwyl, un o swyddogaethau'r pwyllgor yw derbyn ac ystyried adroddiadau arolygu gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol a gwneud argymhellion a monitro gweithrediad a chydymffurfedd â chynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ystyried cynnwys yr adroddiad hwn ar y gweithgarwch rheoleiddio a gwblhawyd yn y chwe mis cyntaf a'r sicrwydd a roddwyd bod y Cyngor yn cymryd camau angenrheidiol lle mae argymhellion wedi'u codi.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chanolfan Gorfforaethol yr adroddiad i'r pwyllgor.

 

Prif Bwyntiau

 

·       Dyma'r adroddiad cyntaf a gyflwynwyd i’r pwyllgor ac roedd yn ymdrin â gweithgarwch rheoleiddio Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Roedd tabl ar dudalen 64 yr adroddiad a oedd yn cynnwys gweithgarwch Archwilio Cymru ar lefel genedlaethol a lleol gyda chyfres o argymhellion a chamau gweithredu yn ymwneud â gwaith lleol yn yr adroddiad.

·       Yn ystod y cyfarfodydd dilynol, byddai'r pwyllgor yn derbyn diweddariadau ar y camau hynny i fonitro cynnydd.

·       Mewn perthynas ag Arolygiaeth Gofal Cymru, bu dau arolygiad o gartrefi plant yn ystod y chwe mis diwethaf ond nid yw'r adroddiadau terfynol wedi'u cwblhau eto.

·       Mewn perthynas ag Estyn, cynhaliwyd adolygiad thematig cenedlaethol y manylir arno ar dudalennau 67–68 yr adroddiad.

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad i'w dderbyn, ac na ellid ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad yn gofnod o'r arolygiadau a gynhaliwyd gan y cyrff rheoleiddiol a'r camau gweithredu sy'n gysylltiedig â nhw. Yn y cyfarfod nesaf, byddai diweddariad fel y gallai'r pwyllgor gwestiynu'r cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Jordan mai meincnod oedd yr adroddiad ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf. 

 

Cytunwyd:

 

Cymeradwyodd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

5.

Adroddiad Blynyddol ar Reoli Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion 2021 pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ym mis Mai 2021, cytunodd y Cabinet ar y Polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion newydd ar gyfer y Cyngor. Fel rhan o ofynion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, roedd bellach yn gyfrifol am wneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu'r awdurdod i ymdrin â chwynion yn effeithiol.

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r pwyllgor gan y Rheolwr Datrys Cwynion. Dyma'r adroddiad cyntaf i'r pwyllgor a rhoddodd drosolwg o'r ffordd y llwyddodd y Cyngor i reoli canmoliaeth, sylwadau a chwynion a'i berfformiad yn y cyfnod 2020–2021.

 

Prif bwyntiau

 

·       Mae adroddiadau eraill wedi'u cwblhau ar yr un pwnc ers sawl blwyddyn sydd wedi mynd drwy'r Cabinet ac mae'r holl ystadegau blynyddol wedi'u trosglwyddo i'r Prif Archwilydd Mewnol.

·       Adroddwyd cwynion i ysgolion ar wahân gan eu bod yn destun fframwaith statudol penodol. Fodd bynnag, cynhwyswyd cwynion ynghylch gwasanaethau addysg, e.e. prosesau gweinyddol.

·       Roedd y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar waith ar gyfer canmoliaeth, sylwadau a chwynion yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol mesurau a safonau’r Gymraeg.

·       Roedd gofynion statudol y gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fod yn weithredol ochr yn ochr â'r polisi corfforaethol.

·       Fel trosolwg, roedd cwsmeriaid yn gallu codi cwyn ffurfiol dros y ffôn, ar-lein, neu drwy ddefnyddio’r ap ar eu ffôn neu wyneb yn wyneb. Roedd cwsmeriaid yn gallu cyflwyno cwyn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac roedd yn cynnig mwy o hygyrchedd ac yn fwy cyfleus iddynt. Gellid cofnodi adborth a chanmoliaeth hefyd.

·       Roedd yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar 'wneud pethau'n iawn' a chael staff cymwys a hyfforddedig, ac roedd hyfforddiant staff am ddim ar gael drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

·       Roedd y tîm cwynion yn y broses o greu eu hyfforddiant eu hunain, a oedd yn seiliedig ar fodiwlau ac a ategwyd gan e-ddysgu a oedd yn gysylltiedig â datblygu sefydliadol, a oedd yn hyfforddiant gorfodol.

·       Derbyniwyd 174 o ganmoliaethau, 3,111 o sylwadau a 222 o gwynion a chafodd 208 o gwynion eu datrys cyn mynd at yr Ombwdsmon trwy broses y Cyngor. O'r cwynion hynny, roedd angen gwaith ymyrryd ar bum cwyn gan yr Ombwdsmon, felly roedd hyn yn isel iawn.

·       Ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol, bu gostyngiad o 12.5% yn nifer y cwynion o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond yn gyffredinol roeddent yn uwch mewn gwasanaethau rheng flaen, gyda’r pandemig yn chwarae rhan yn hyn wrth i nifer y cwynion gynyddu.

·       Fodd bynnag, canolbwyntiodd yr Ombwdsmon ar adborth a chael sawl llwybr hygyrch i gwsmeriaid wneud cwyn yn ogystal â chael adborth gan achwynwyr ar sut yr ymdriniwyd â'r g?yn.

·       Anfonwyd holiadur yn awr at bobl a oedd yn cwyno yn y gobaith y byddai adborth yn cael ei ddarparu ar ba mor dda yr oedd y tîm cwynion yn perfformio.

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a welwyd unrhyw dueddiadau.

Dywedodd y Rheolwr Datrys Cwynion ei bod yn anodd gweld unrhyw dueddiadau dros y 12 mis diwethaf ond y prif un oedd bod llawer o benderfyniadau a pholisïau wedi’u cyflwyno mewn perthynas â Gwasanaethau Dinas, sy’n cynnig llawer o wasanaethau er mwyn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Datganiad o Gyfrifon 2020/2021 pdf icon PDF 519 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Cyllid i eitem 11 o Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol 2020/2021 gael ei chynnwys yn yr eitem hon.

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y byddai ei gydweithiwr Mark Howcroft (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) yn mynd trwy gyflwyniad 7b i roi trosolwg o'r cyfrifon. Byddai Rheolwr Archwilio Cymru yn mynd drwy’r adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260, sef barn Archwilio Cymru ar y cyfrifon.

Yna, i gloi, dychwelir at eitem 7 gan fod yr adroddiad yn dangos ymatebion y timau i'r materion a nodwyd yn yr adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260 a rhestr o gamddatganiadau a nodwyd ac a gywirwyd.

 

Prif Bwyntiau

 

  • Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y cyflwyniad yn egluro’r sefyllfa gryno gan y cafodd y gyfres ddrafft o gyfrifon eu hawdurdodi i’w cyhoeddi ar 2 Gorffennaf 2021 – dyddiad a gafodd ei ohirio oherwydd COVID-19 a salwch staff. Cyhoeddwyd yr hysbysiadau angenrheidiol ar y wefan yn egluro'r rheswm dros yr oedi, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth. Cafodd y cyfrifon eu harddangos i’r cyhoedd rhwng 26 Gorffennaf 2021 a 20 Awst 2021 heb unrhyw ymatebion.
  • Roedd papur ar wahân y cyfeiriwyd ato ar ddechrau eitem 7 yn manylu ar faint o ymholiadau a godwyd mewn perthynas â'r cyflwyniadau cyfrif drafft ac roedd hwn yn ymdrin â'r pedwar pwynt a godwyd yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf gan y Cadeirydd.
  • Roedd y cyfrifon terfynol yn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed yn ystod yr ymarfer hwnnw ac ar y cyd â'r adolygiad gan Archwilio Cymru, y manylwyd ar ei ganfyddiadau yn yr adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260 a oedd i'w ystyried ar ddiwedd y cyflwyniad.
  • Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad bod y cyfrifon yn ddarlun cywir a theg.
  • Gofynnwyd i'r pwyllgor gymeradwyo'r cyfrifon terfynol, a fyddai wedyn yn arwain at eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid a'r Cadeirydd.
  • Byddai copi newydd yn cael ei anfon at y cadeirydd dros dro i'w lofnodi.
  • Roedd pum datganiad allweddol yn hanner cyntaf y ddogfen, sef dogfen graidd y Cyngor, ac roedd yr incwm a’r gwariant yn dal holl weithgareddau refeniw’r Cyngor. Roedd y dadansoddiad o wariant cyllid yn bwysig gan fod yr aelodau wedi derbyn gwybodaeth reoli yn ystod y flwyddyn o ran perfformiad yn erbyn y gyllideb a gallai hyn fod yn wahanol i'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Eglurwyd bod y dogfennau technegol hyn yn cynnwys pethau fel symudiadau asedau sefydlog ac ati, a fyddai’n digwydd ar ôl y monitro chwarterol, fel bod y dadansoddiad o wariant cyllid yn cael ei gysoni rhwng y ddwy ddogfen.
  • Y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn yw iechyd y sefydliad i ymdrin ag argyfyngau a digwyddiadau annisgwyl.
  • Roedd y fantolen ac agweddau asedau sefydlog yn bwynt allweddol gan fod gan y Cyngor lawer o asedau y byddai'r archwilwyr yn edrych arnynt oherwydd arwyddocâd y ffigurau dan sylw.
  • Roedd y Datganiad Llif Arian yn dangos y symudiadau mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod yr awdurdod yn ystod y flwyddyn.

 

Y neges allweddol oedd bod tanwariant o £40 miliwn fel yr adroddwyd i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 594 KB

Cofnodion:

Bwriad yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am weithgareddau’r trysorlys a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hyd at 30 Medi 2021 a chadarnhaodd y glynwyd at yr holl ddangosyddion trysorlys a materion ariannol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol.

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr adroddiad i’r pwyllgor ac eglurodd fod yr adroddiad hwn yn un o ddau adroddiad cydymffurfedd a dderbyniwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn yngl?n â Strategaeth y Trysorlys a osodwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, a’i fod yn rhan o’r ddogfen strategaeth rôl. Ceisiodd dawelu meddwl bod mesurau perfformiad wedi'u bodloni.

 

Prif Bwyntiau:

 

·       Arhosodd cyfradd sylfaenol y banc ar 1%.

·       Roedd angen benthyca hirdymor o hyd wedi'i liniaru gan fenthyca mewnol.

·       Mae lefelau benthyca wedi gostwng £9 miliwn o gymharu â ffigur diwedd y flwyddyn flaenorol, oherwydd cyfran o’r benthyciadau a ad-dalwyd drwy randaliadau cyfartal o’r prifswm a bod y prifswm wedi lleihau’r benthyciadau sy’n ddyledus.

·       Roedd yna hefyd fenthyciad aeddfedu mawr a adbrynwyd ac na chafodd ei ailddarparu.

·       Cynyddodd buddsoddiadau hefyd £4.1 miliwn i £28.9 miliwn yn erbyn y sefyllfa gyfatebol ar ddiwedd y flwyddyn.

·       O ran yr opsiynau i fenthyca neu i fenthyg (LOBO), nid oedd unrhyw alw am fenthyciadau yn ystod y cyfnod.

·       Roedd adolygiad wedi’i wneud i’r cod ariannol a oedd yn cyfyngu ar awdurdodau lleol sy’n defnyddio eu swyddogaeth trysorlys i fuddsoddi mwy enillion neu arenillion. Roedd hyn yn golygu nad ydynt bellach yn gallu defnyddio'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel ffynhonnell cyllid rhad a bod cosbau eithaf sylweddol a chosbol pan fydd yr awdurdod yn y cyflwr hwnnw.

·       Byddai'r adroddiad hwn wedyn yn mynd i'r Cabinet a'r Cyngor.

 

Nid oedd aelodau'r pwyllgor yn dymuno ychwanegu unrhyw sylwadau at yr adroddiad.

 

Cytunwyd:

 

Nododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad.

 

8.

Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru pdf icon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Cyllid i eitem 11 o Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol 2020/2021 gael ei chynnwys yn yr eitem hon.

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y byddai ei gydweithiwr Mark Howcroft (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) yn mynd trwy gyflwyniad 7b i roi trosolwg o'r cyfrifon. Byddai Rheolwr Archwilio Cymru yn mynd drwy’r adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260, sef barn Archwilio Cymru ar y cyfrifon.

Yna, i gloi, dychwelir at eitem 7 gan fod yr adroddiad yn dangos ymatebion y timau i'r materion a nodwyd yn yr adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260 a rhestr o gamddatganiadau a nodwyd ac a gywirwyd.

 

Prif Bwyntiau

 

  • Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y cyflwyniad yn egluro’r sefyllfa gryno gan y cafodd y gyfres ddrafft o gyfrifon eu hawdurdodi i’w cyhoeddi ar 2 Gorffennaf 2021 – dyddiad a gafodd ei ohirio oherwydd COVID-19 a salwch staff. Cyhoeddwyd yr hysbysiadau angenrheidiol ar y wefan yn egluro'r rheswm dros yr oedi, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth. Cafodd y cyfrifon eu harddangos i’r cyhoedd rhwng 26 Gorffennaf 2021 a 20 Awst 2021 heb unrhyw ymatebion.
  • Roedd papur ar wahân y cyfeiriwyd ato ar ddechrau eitem 7 yn manylu ar faint o ymholiadau a godwyd mewn perthynas â'r cyflwyniadau cyfrif drafft ac roedd hwn yn ymdrin â'r pedwar pwynt a godwyd yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf gan y Cadeirydd.
  • Roedd y cyfrifon terfynol yn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed yn ystod yr ymarfer hwnnw ac ar y cyd â'r adolygiad gan Archwilio Cymru, y manylwyd ar ei ganfyddiadau yn yr adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260 a oedd i'w ystyried ar ddiwedd y cyflwyniad.
  • Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad bod y cyfrifon yn ddarlun cywir a theg.
  • Gofynnwyd i'r pwyllgor gymeradwyo'r cyfrifon terfynol, a fyddai wedyn yn arwain at eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid a'r Cadeirydd.
  • Byddai copi newydd yn cael ei anfon at y cadeirydd dros dro i'w lofnodi.
  • Roedd pum datganiad allweddol yn hanner cyntaf y ddogfen, sef dogfen graidd y Cyngor, ac roedd yr incwm a’r gwariant yn dal holl weithgareddau refeniw’r Cyngor. Roedd y dadansoddiad o wariant cyllid yn bwysig gan fod yr aelodau wedi derbyn gwybodaeth reoli yn ystod y flwyddyn o ran perfformiad yn erbyn y gyllideb a gallai hyn fod yn wahanol i'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Eglurwyd bod y dogfennau technegol hyn yn cynnwys pethau fel symudiadau asedau sefydlog ac ati, a fyddai’n digwydd ar ôl y monitro chwarterol, fel bod y dadansoddiad o wariant cyllid yn cael ei gysoni rhwng y ddwy ddogfen.
  • Y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn yw iechyd y sefydliad i ymdrin ag argyfyngau a digwyddiadau annisgwyl.
  • Roedd y fantolen ac agweddau asedau sefydlog yn bwynt allweddol gan fod gan y Cyngor lawer o asedau y byddai'r archwilwyr yn edrych arnynt oherwydd arwyddocâd y ffigurau dan sylw.
  • Roedd y Datganiad Llif Arian yn dangos y symudiadau mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod yr awdurdod yn ystod y flwyddyn.

 

Y neges allweddol oedd bod tanwariant o £40 miliwn fel yr adroddwyd i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cynnydd yn Erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22 Chwarteri 1 a 2 pdf icon PDF 352 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad hwn i'r pwyllgor.

 

Prif bwyntiau:

 

·       Roedd yr adroddiad hwn yn ymwneud â chwe mis cyntaf y flwyddyn.

·       Roedd yr adroddiad mewn dwy ran mewn perthynas â pherfformiad y tîm a'r farn a roddwyd i aelodau'r pwyllgor i roi sicrwydd bod trefniadau digonol ar waith ar draws holl wasanaethau'r Cyngor o ran rheolaeth fewnol, llywodraethu a rheoli risg.

·       Roedd wyth aelod o staff gyda saith aelod o staff yn gweithio ar hyn o bryd wedi'u cefnogi gan ddarparwr allanol i helpu i gwblhau'r cynllun.

·       Roedd pandemig COVID-19 o hyd yn effeithio ar y gwaith o gynnal archwiliadau wrth i ymweliadau safle ac ymweliadau ysgol gael eu gohirio; roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda rheolwyr addysg i ailymweld ag ysgolion, a fyddai'n debygol o fod yn Chwarter 4 y flwyddyn ariannol hon. Byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r pwyllgor maes o law.

·       O ran perfformiad, y prif ddangosyddion oedd bod y tîm wedi cwblhau'r cynllun archwilio cytunedig yn unol â'r targed. Nodwyd hyn ym mharagraff 15, a oedd yn dangos bod 30% o'r cynllun wedi'i gyflawni erbyn 30 Medi.

·       Roedd cyhoeddi adroddiadau drafft chwe diwrnod yn erbyn targed o ddeg diwrnod a chyhoeddwyd adroddiadau terfynol am bedwar diwrnod gyda tharged o bum diwrnod, a oedd yn galonogol.

·       O ran yr adroddiadau sy'n weddill ac a oedd ar ffurf ddrafft ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 12 o'r 14 wedi'u cwblhau.

·       Er mwyn rhoi sicrwydd i'r aelodau, roedd y tîm yn dal i hyrwyddo rheolaeth ariannol ar draws pob maes gwasanaeth yn yr hyfforddiant a ddarparwyd ganddynt ac yn codi ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau rheoleiddio ariannol y sefydliad.

·       Cyhoeddwyd naw barn archwilio ddiwedd mis Medi: gyda thair barn dda, chwech yn rhesymol a dim un yn anfoddhaol.

·       Roedd pum archwiliad hawliadau grant ac roedd pob un ohonynt yn ddiamod ac yn cydymffurfio â darparwr y grant.

·       Bu'r tîm hefyd yn ymwneud â choladu a chyhoeddi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

·       Cyfeiriwyd yr aelodau at yr atodiadau, a oedd yn nodi cymhariaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn a chymhariaeth chwarter wrth chwarter ar y dangosyddion perfformiad allweddol er gwybodaeth.

·       Roedd gwaith archwilio yn gyfyngedig gan fod y tîm yn brysur gyda materion gwrth-dwyll mewn perthynas â grantiau Llywodraeth Cymru a’r Bartneriaeth Ganol Tref fel cymorth, felly nid adroddwyd ar y dangosyddion perfformiad tan 2021 a byddai hyn yn codi yn 2022.

·       Roedd cwblhau 30% o'r cynllun ar y trywydd iawn gyda'r targed o 30%.

·       Mae Atodiad D yn nodi rhai diffiniadau o'r hyn yr oedd barnau archwilio'n ymwneud ag ef o ran lefel y sicrwydd a'r hyn y mae diamod ac amodol yn ei olygu o ran yr adroddiadau y bu'r tîm yn ymwneud â hwy.

 

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a oedd y tîm yn gallu llenwi’r llwyth gwaith am weddill y flwyddyn a chadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai angen ailasesu hyn gan fod salwch hirdymor yn y tîm, felly byddai’r rheolwyr yn ymgynghori â’r tîm rheoli yn ystod yr wythnosau nesaf i weld beth ellid  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol 2020/2021 pdf icon PDF 381 KB

Cofnodion:

Fel y trafodwyd o dan eitem 7

11.

SO24/Hepgor SOau Contract: Adroddiad chwarterol yn adolygu'r Cabinet/CM penderfyniadau brys neu hepgor SOau Contract(Chwarter 2, Gorffennaf i Medi) pdf icon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad i'r pwyllgor.

Roedd yr adroddiad hwn yn ymwneud ag adroddiadau brys, sef Rheol Sefydlog 24 neu hepgor Rheolau Sefydlog Contractau. Yn ystod y chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, cafodd un adroddiad ei gymeradwyo fel penderfyniad brys. Roedd hyn yn ymwneud â chostau cludiant o'r cartref i'r ysgol i'r rhai sy'n 16 ac yn h?n. 

Gwnaeth aelod Cabinet y penderfyniad, ac yn yr adroddiad roedd cyfiawnhad priodol dros y penderfyniad brys, a gofnodwyd yn briodol.

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol yn fodlon â'r cofnod hwnnw.

 

Cytunwyd:

 

Nododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad.

tee noted and endorsed the report

12.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod cyfarfod pwyllgor ym mis Mai 2022 yn ystod etholiad nesaf y Cyngor ac a fyddai’r cyfarfod pwyllgor hwn yn cael ei gynnal o hyd.

Dywedodd y Swyddog Cymorth Llywodraethu y cytunwyd ar ddyddiadau'r dyfodol ar gyfer yr holl bwyllgorau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym mis Mai, felly byddai hyn yn cael ei wirio a'i gadarnhau o ran a fyddai cyfarfod y pwyllgor ym mis Mai yn cael ei gynnal o hyd.

Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai angen dileu trafodaeth am y cynnydd yn erbyn y Cynllun Archwilio Mewnol (Chwarter 2) ar gyfer Ionawr 2022 gan iddo gael ei adrodd yn y cyfarfod hwn.

 

Cytunwyd:

 

Nododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad.

13.

Gwe-ddarllediad o'r Pwyllgor

Cofnodion: