Agenda and minutes

Cyfarfod Cysylltu gyda Chynghorau Cymuned - Dydd Iau, 20fed Mehefin, 2019 6.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Pamela Tasker  Governance Support Officer

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion y cyfarfod (ydd) diwethaf pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Datganwyd bod cynrychiolydd o Gyngor Cymuned Graig yn bresennol ac na roddodd ymddiheuriadau. Cadarnhaodd y Cadeirydd y rhoddwyd ymddiheuriadau ymlaen llaw ac ar y diwrnod gan gynrychiolwyr. Hefyd roedd yn ofynnol i gynrychiolwyr lofnodi’r daflen presenoldeb yn y cyfarfod. 

 

Cytunwyd:

 

Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir. 

 

 

3.

Materion yn codi

Cofnodion:

Gofynnodd cynrychiolydd am rywfaint o adborth ar lwyddiant Marathon Casnewydd a gynhaliwyd ar 5 Mai 2019.  Cadarnhaodd y Cadeirydd fod sylw gan y cyfryngau ar y digwyddiad yn gadarnhaol iawn ar gyfer y marathon ond nad oedd unrhyw wybodaeth eto ar niferoedd a’r hyn y daeth ag ef i’r economi leol. Roedd cynlluniau ar gyfer marathon y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill. Roedd cau’r ffyrdd bob amser yn broblem, ond ni adroddwyd am unrhyw beth fel y cyfryw a rhannwyd sut y cynhaliwyd trefniant y digwyddiad yn ddidrafferth.

 

Datgan Buddiannau

Eglurodd y Cadeirydd y Datgan Buddiannau i’r Clercod Cymunedol a chytunwyd ei fod yn faes amwys iawn. Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod yn arfer da i’w gwblhau ond pe bai rhywun yn gwrthwynebu llofnodi’r datgan buddiannau, ni ellid gorfodi’r person hwnnw i’w lofnodi. 

 

Eglurodd y Cadeirydd fod y ffurflen hon i’w llenwi mewn cyfarfodydd a’i chofnodi mewn cofnodion cyfarfodydd. Hefyd roedd gan Gynghorwyr y Ddinas gofrestr i’w llofnodi ymlaen llaw o fewn 28 diwrnod o gael eu hethol yn ogystal a’i ddatgan yn y cyfarfod. Roedd hon yn ffurflen ar wahân i’w llenwi hefyd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai’r unig wahaniaeth rhwng Cynghorwyr y Ddinas a Chynghorwyr Cymunedol oedd bod rhaid i Gynghorwyr y Ddinas lofnodi’r gofrestr.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn arfer arferol i ddatgan buddiant ac yna gadael yr ystafell, ond byddai angen llenwi ffurflen o hyd e.e. ar gyfer cais cynllunio. Cadarnhaodd y Cadeirydd hefyd fod angen cofnodi bod y person wedi gadael yr ystafell hefyd. 

- Trafodwyd sut, mewn perthynas â’r datgan buddiannau, cafodd ffurflen ei llenwi a’i chyhoeddi neu gallai’r cyfarfod aros nes bod yr eitem yn codi ac wedyn gallai’r person godi ei law a’i ddatgan yn y ffordd honno.

- Gallai’r Cynghorydd ddatgan buddiant ond nid oedd angen datgan yn union beth oedd y buddiant, ond bod y manylion ar y ffurflen ac mae hefyd yn mynd ar y gofrestr ac nid oedd angen ei ailadrodd yn y cofnodion. Fodd bynnag, roedd rhaid i’r person adael yr ystafell yn llwyr.

-Dywedwyd nad yw pob buddiant yn niweidiol, weithiau gallai person barhau yn y cyfarfod os nad oedd yn effeithio ar ei farn ac heb rhagfarn yn ei erbyn.

- Pe bai’r buddiant yn niweidiol, roedd angen gadael yr ystafell yn gorfforol ac ni allai’r person hwnnw fynd i eistedd yn yr oriel gyhoeddus.

- Cadarnhaodd y Cadeirydd fod peidio â datgan buddiant ac aros yn y cyfarfod yn fan lle y byddai pryderon yn dechrau.

 

Cytunwyd:

 

I edrych ar hyfforddiant gloywi ac ail-anfon y Cod Ymddygiad a’r ffurflenni Datgan Buddiannau i bob clerc ar y Cyngor Cymuned.

 

Gofynnodd cynrychiolydd a oedd Run4 Wales wedi cysylltu â’r Farmers Arms? Nid oedd yn hysbys a oedd hyn wedi digwydd oherwydd ni dderbyniwyd unrhyw adborth hyd yn hyn.

Enwebwyd y Cynghorydd Jacqui Ford o Gyngor Cymuned Langstone a’i derbyn ar gr?p ymgysylltu y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a Phartneriaeth y Trydydd Sector ar ran pob Cyngor Cymuned. 

 

 

 

Ffin Casnewydd

Trafodwyd sut y byddai Ffin Casnewydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol

Cyflwyniad gan y rheolwr datblygu ac adfywio

Cofnodion:

Traddododd y Rheolwr Datblygu ac Adfywio gyflwyniad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

Prif Bwyntiau

 

Ymgynghoriad ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Gallai Cyngor Dinas Casnewydd fwydo i mewn i’r ddogfen ond nid ydynt yn gyfrifol am ei ganlyniad. Roedd hefyd yn berthnasol ar gyfer Cymru gyfan.

Mae’r Cynllun Datblygu Strategol ar lefel arweinydd ac roedd arnodiad i fynd yn ôl at y cynghorau i gytuno ar y cynllun i ymwneud â 10 awdurdod. Byddai angen i Gasnewydd ddechrau gwaith ar gynllun strategol a byddai angen iddi edrych ar gynllunio ar lefel leol a gallai gysylltu ag awdurdod arall er mwyn creu cynllun ar y cyd. 

 

Mae’r Cynghorau Cymuned yn arwain ar Gynlluniau Bro ac NDF oedd y cyntaf yn haenen y Cynllun Datblygu. Roedd hyn yn golygu nad yw cynllunwyr yn gofyn i gynghorau a ydynt yn cytuno neu beidio. Gallent gynorthwyo â’r cynlluniau bro ond y Cynghorau oedd yn arwain ar hyn.

 

Mewn perthynas â Mater y Ffiniau nid oedd y ffin yn cynrychioli eiddo mewn pentref a gwrthodwyd y newid mewn ffin a byddai hyn yn newid. Roedd cynlluniau yn amodol ar ymgynghori. Roedd y Cynllun Datblygu Lleol 4 blynedd i mewn i’w fabwysiadu. Treuliodd y Cyngor ddwy flynedd i’w ddatblygu ond cafodd y ffiniau eu diddymu ac felly nid oedd Cynghorau Cymuned yn ymwneud â gwneud penderfyniadau; gallent godi gwrthwynebiadau yn unig.

 

Roedd Cynlluniau Bro yn benderfyniadau gan y Cynghorau Cymuned.

 

Beth oedd Cynllun Bro? Fe’i hadwaenwyd fel canllaw cynllunio atodol ac roedd ar lefel fwy lleol. Cafodd ei alinio â chynllun ar gyfer ardaloedd gwledig ayyb. felly ni ellid adeiladu 10,000 o dai mewn ardal wledig benodol. Câi cynllunio mewnlenwi ei gefnogi fodd bynnag, felly ni fyddai cae llawn tai yn briodol ond efallai gellid eu hadeiladu o gwmpas yr ymylon. Roedd yn seiliedig ar ddefnydd tir ac nid ar y person.

 

Dywedodd cynrychiolydd fod hyn yn anodd i Gasnewydd ei reoli a bod angen dweud wrth y Cynghorau Cymuned am gynlluniau. Bu pryder, efallai bod angen newid cynlluniau, a oedd angen am glustnodi, roedd angen mwy o dai ar gyfer pobl leol. Hefyd mynegwyd pryderon bod pentrefi’n marw oherwydd nad oeddent yn cael ehangu. Roedd Gwasanaethau Bysus hefyd yn cael eu dileu.

 

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru oedd cyrraedd y nodau lles ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol a phopeth sydd ei angen er mwyn alinio â’r weledigaeth hon.  Roedd ymgynghoriad ar y drafft ar y pryd ac anogwyd pawb i ymgysylltu ag ef. Wedyn gallai’r Cynghorau Cymuned wneud sylwadau ar y drafft.

Wedyn câi’r drafft ei gylchredeg gan y Swyddog Llywodraethu pan fyddai ar gael.

          

·         Bydd yr NDF yn cynnwys targedau tai rhanbarthol; caiff 10,000 o dai eu hadeiladu erbyn 2026 a mater o beth gallai’r rhanbarth ei ddarparu yw yn hytrach na beth mae pob awdurdod yn dweud sydd eisiau arnynt. 

·         Roedd y cysylltiadau trafnidiaeth Strategol yn bwysig iawn oherwydd nad oedd pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o’r ardal. Y gobaith oedd y gallai pobl symud i ffwrdd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

19 Medi 2019

Cofnodion:

19 Medi 2019