Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Tasker Governance Support Officer
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Brian Miles Cyngor Cymuned Gwynll?g Paul Gregory Cyngor Cymuned Graig Mandy George Cyngor Cymuned Llanwern |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf: 9 Rhagfyr 2021 PDF 102 KB Cofnodion: Cytunwyd: Cytunwydfod cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 9 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.
|
|
Materion yn codi Cofnodion: Dim |
|
Newid Hinsawdd Presentation by Emma Wakeham Senior Policy and Partnership Officer and Ross Cudlipp Carbon Reduction Manager Cofnodion: Cyflwynwyd yr eitem agenda hon ar Newid Hinsawdd i’r cyfarfod gan Emma Wakeham (Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth). Prif bwyntiau: Dywedodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth eu bod wedi arwain ar ddatblygu’r Cynllun Newid Hinsawdd i Gyngor Dinas Casnewydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. - Y peth cyntaf a ystyriwyd oedd pa fath o gwmpas oedd angen ar gyfer y cynllun. Penderfynwyd ar ddau faes i gyrraedd sero carbon fel sefydliad erbyn 2030 ac i adolygu’r gwasanaethau a ddarparwn er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas at net sero ac ymaddasu i newid hinsawdd. - Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod allan ganllawiau adrodd am weithio ar allyriadau carbon fel sefydliad, felly defnyddiwyd hyn fel gwaelodlin i allyriadau carbon. - Dangosodd graff allyriadau Cwmpas 1 a Chwmpas 2 y cyngor – roedd allyriadau Cwmpas 1 o ffynonellau oedd ym mherchenogaeth y Cyngor, ac allyriadau Cwmpas 2 o drydan a gwresogi oedd yn cael eu prynu. - Roedd Cwmpas 3 yn sylweddol ond heb fod ym mherchenogaeth neu reolaeth uniongyrchol Cyngor Dinas Casnewydd sef y gadwyn gyflenwi, nwyddau a bwrcaswyd gennym, d?r a ddefnyddiwn a theithio ar fusnes. - Pan wnaed y waelodlin, roedd yn dangos sut y rhannwyd yr allyriadau. - Unwaith i ni wybod beth oedd allyriadau’r sefydliadau, ystyriwyd y meysydd i ganolbwyntio arnynt, a defnyddiwyd fframwaith Llywodraeth Cymru – Map o’r Ffordd i’r Sector Cyhoeddus – i helpu i benderfynu ar hyn. - O’r fframwaith hwn, dewiswyd 6 thema wahanol –
Thema 1: Diwylliant y Sefydliad ac Arweinyddiaeth Thema 2: Ein Hadeiladau Thema 3: Ein Tir Thema 4: Trafnidiaeth a Symud Thema 5: Y Nwyddau a’r Gwasanaeth yr ydym yn eu Caffael Thema 6: Ein Rôl Ehangach -Roedd a wnelo Thema 2-5 yn uniongyrchol ag allyriadau carbon ac ystyriwyd thema 1 a 6 rôl ehangach y Cyngor a’r effaith ar y ddinas gyfan. - Dan Thema 1 ystyriwyd hyfforddiant a chanllawiau i staff ac aelodau etholedig. -Roedd Thema 2 am wres adnewyddol a lleihau nwy naturiol; ystyriodd thema 3 sut roedd tir yn cael ei reoli, plannu meysydd gan ddefnyddio atebion seiliedig ar natur. - Ystyriodd Thema 4 gymudo mewn busnes a’r fflyd, gan annog teithio llesol. - Ystyriodd Thema 5 sut roedd angen i’r Cyngor ddeall allyriadau carbon yn well wrth wneud penderfyniadau am brynu nwyddau a gwasanaethau. - Ystyriodd Thema 6 gynllunio argyfwng ledled y ddinas a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau. Roedd copïau o’r cynllun i’w cael yn y dolenni ar y cyflwyniad, ac edrychwyd i mewn i bob thema gydag amserlenni, etc a sut y cânt eu cyflwyno. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu rheolwr datblygu unswydd ac y maent yn cefnogi mentrau’r sector cyhoeddus a chymunedol i leihau allyriadau carbon ac ynni. Roeddent yn hapus i roi cyngor ar gaffael ac roeddent yn chwilio am y prosiectau fyddai’n cael y mwyaf o effaith ar ynni ac allyriadau carbon. Roedd cyfleoedd hefyd o ran cyllido a chynhaliwyd digwyddiad ar 31 Mawrth 2022- Digwyddiad Newid Hinsawdd Cwrdd â’r Cyllidwyr lle gallai ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Sbardun Cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd Cofnodion: Gofynnoddcynrychiolydd Gwynll?g a oedd swyddog yn ei swydd, ac os felly beth oedd ei h/enw. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd swyddog dynodedig, ac mai dyma pam nad oedd manylion wedi eu cyhoeddi ar y wefan. Dywedwyd wrth Gynghorau Cymuned i fewngofnodi i wefan y Cyngor dan ran Tîm Gwarchod Cymunedol y wefan er mwyn cael y rhif generig. Dywedwydfod newid yn digwydd ar hyn o bryd i strwythur yr uwch-reolwyr, a bod y gwasanaethau yn cael eu hail-asio er mwyn galluogi symud rhwng meysydd gwasanaeth. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y wybodaeth hon yn dod dan y Tîm Gwarchod Cymunedol dan Michelle Tett. Ar y wefan roedd cyfeiriad e-bost generig a rhif cyswllt, ac roedd ffurflen ar-lein i’w llenwi i roi bod i gais. Roedd tîm amlddisgyblaethol yn rhan o hyn, felly nid un pwynt cyswllt oedd ar gael. Gwnaethcynrychiolydd Maerun sylw am swyddogion ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan holi beth oedd eu rôl. Esboniodd y Cadeirydd fod Wardeniaid Diogelwch Cymunedol yn y Tîm Diogelwch Cymunedol, ac yna fel rhan o hynny, roedd Swyddogion Amgylcheddol a dau Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Roeddent hwy yn cysylltu â’r Heddlu ac asiantaethau eraill. Michelle Tett oedd y rheolwr presennol mewn Iechyd Amgylchedd. Holoddcynrychiolydd Gwynll?g, o ran gwarchodaeth bersonol i swyddogion y cyngor yn gwneud eu gwaith, fod Cynghorwyr weithiau yn dod yn rhan o sefyllfaoedd, e.e., brawychu, a yw’r sbardun cymunedol yn cynnig unrhyw warchodaeth yn hyn o beth. Eglurodd y Cadeirydd mai ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd hyn, nid ymddygiad troseddol. Roedd y Dull Sbardun Cymunedol yn fater o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel s?n a tharfu, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol. O ran brawychu a diogelwch personol, dylid adrodd am y rhain wrth yr Heddlu. Esboniodd y Cadeirydd fod nifer o fesurau y gellid eu defnyddio i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel-isel, megis rhybuddion cosb benodol, ond nad troseddau oedd y rhain. Holoddcynrychiolydd Maerun am adrodd am niwsans s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar safle diwydiannol; a oedd hyn yn rhywbeth y gellid defnyddio’r sbardun cymunedol. Dywedodd y Cadeirydd fod niwsans s?n statudol yn cael ei drin ar wahân, a phetai niwsans s?n yn digwydd y dylid adrodd am hyn wrth ochr Iechyd Amgylchedd yr adran honno, oherwydd bod dulliau sbardun cymunedol i’w defnyddio ar gyfer lefel isel. Roedd niwsans s?n statudol ar lefel uwch o lawer, lle’r oedd angen swyddogion iechyd amgylchedd arbenigol i asesu lefel y s?n. Os mai niwsans s?n oedd hyn, rhaid adrodd amdano i’r ganolfan gyswllt a fyddai’n ei basio ymlaen i Iechyd Amgylchedd, i’w basio i’r tîm, oherwydd bod angen ymchwilio i hyn dan reolau statudol. Dywedoddcynrychiolydd Maerun ei fod wedi derbyn e-bost gan Brian Miles o Gyngor Cymuned Gwynll?g yn dweud ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Hyfforddiant i Gynghorwyr newydd ar ôl yr Etholiad Cofnodion: Holoddcynrychiolydd Gwynll?g a oedd gan Gyngor Dinas Casnewydd unrhyw beth yn yr etholiad nesaf ar gyfer cynghorwyr newydd? Cadarnhaodd y Cadeirydd fod pecyn dwys ar gael i Gynghorwyd newydd y ddinas, gan gynnwys hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Un Llais Cymru sy’n darparu’r hyfforddiant, ac roedd y Pwyllgor Safonau yn awyddus i Gynghorwyr Cymuned dderbyn hyfforddiant petai diddordeb. Gallai Cynghorau Cymuned gael hyfforddiant tua mis Mehefin neu fis Gorffennaf, wedi i gynghorwyr y ddinas dderbyn eu hyfforddiant hwy. Roedd yn bwysig i Gynghorau Cymuned gael hyfforddiant wedi ei deilwrio Byddai’rSwyddog Cefnogi Llywodraethiant yn cysylltu â’r Cynghorau Cymuned yn y man i drefnu hyn. Esboniodd y Cadeirydd y byddai hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn cael ei drefnu, felly byddai sesiynau gweithdy yn cael eu cynnal. Mae modd cynnig modiwl e-ddysgu ar-lein gan Lywodraeth Cymru i aelodau, ond nid oedd y modiwl terfynol ar gael eto. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn newid unrhyw beth yn y Cod Ymddygiad. Dywedoddcynrychiolydd Maerun fod unrhyw hyfforddiant sydd ar gael yn dda, ond ei bod yn anodd cael cynghorwyr cymuned i ddilyn yr hyfforddiant. Dywedodd y Cadeirydd fod yr hyfforddiant yn orfodol i gynghorwyr dinas. Gweithredu: Byddai’rCefnogiLlywodraethiant yn dod i gysylltiad â’r Cynghorau Cymuned yn y man i drefnu hyfforddiant.
|
|
Gorfodaeth Cynllunio Cofnodion: Dywedoddcynrychiolydd Gwynll?g y carai gael gwell dealltwriaeth o hyn a sut y mae yn gweithio, oherwydd bod llawer o safleoedd yn yr ardal hon dan orfodaeth, ac y gofynnwyd llawer o gwestiynau am pam fod hyn yn cymryd cymaint o amser, etc. Gofynnodd cynrychiolydd Gwynll?g a fyddai modd edrych ar hyn yn yr hyfforddiant eto, ac mewn rhai achosion, a oedd modd eu dwyn i sylw’r rheolwyr. Dywedoddcynrychiolydd Gwynll?g ei bod yn anodd gwneud cwyn oherwydd bod gan y swyddogion gymaint o waith; ond roeddent eisiau deall mwy ar y broses, felly byddai’n dda mynd trwy sefyllfaoedd. Wedyn byddai modd gweld rheswm pam fod achosion mor araf. Dywedoddcynrychiolydd Maerun ei bod yn cefnogi popeth a ddywedwyd, a bod y swyddogion Matthew Sharpe a Neil Gunther fis Rhagfyr diwethaf wedi cynnal hyfforddiant ar Orfodaeth. Canlyniad y cyfarfod oedd bod y cyngor cymuned eisiau perthynas at y dyfodol, gan gyfnewid gwybodaeth rhwng Cynghorau Cymuned a’r tîm Cynllunio. Dywedodd cynrychiolydd Maerun ei bod eisiau gwell cydweithrediad rhwng yr adran a chynghorau cymuned. Y teimlad oedd bod y gymuned leol yn agwedd bwysig o gynllunio, a phan oedd gwybodaeth yn cael ei rannu, yna gellid hysbysu’r swyddogion. Dywedodd y Cadeirydd fod ceisiadau Cynllunio yn iawn ac yn haws i roi gwybodaeth gyfoes i bobl, ond fod Gorfodaeth yn cymryd amser, a’i fod yn broses wahanol. Roedd y broblem gyfathrebu yn fater i’r Siarter. Dywedoddcynrychiolydd Maerun fod y Cynghorau wedi cael sesiwn gyda Neil a Matthew ac mai’r peth pwysig oedd adeiladu perthynas gan nad oedd un yn bodoli nawr. Cytunodd y Cadeirydd y gallai’r swyddogion cynllunio fynychu cyfarfod yn y dyfodol, a fyddai’n fuddiol petaent yn gallu rhoi cyflwyniad cyffredinol ar y pwnc. Dywedoddcynrychiolydd Gwynll?g fod angen cyflwyniad ar orfodaeth cynllunio, a bod angen hefyd am gyfarfod wyneb yn wyneb gyda swyddogion ar ryw adeg arall er mwyn helpu i adeiladu perthynas rhwng swyddogion a chynghorau cymuned. Cytunwyd: I gynnal sesiwn gyda Chynghorau Cymuned ar orfodaeth Cynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.
|
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Dim |
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf 23 June 2022 @ 6pm Cofnodion: 23 Mehefin 2022 @ 6pm |