Agenda and minutes

Cyfarfod Cysylltu gyda Chynghorau Cymuned - Dydd Iau, 16eg Chwefror, 2023 6.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Taylor Strange  Governance Support Officer

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Patricia Appleton Cyngor Cymuned Graig

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol: 20 Hydref 2022 pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

3.

Rôl y Pwyllgor Safonau

Cofnodion:

Cafodd Cynrychiolwyr y Cynghorau Cymuned gyflwyniad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol. 

 

Prif Bwyntiau:

·         Mae 5 aelod annibynnol, Cadeirydd annibynnol, 3 aelod Cynghorydd, ac 1 cynrychiolydd y cynghorau cymuned ar y Pwyllgor Safonau.  

·         Y Cadeirydd sy’n arwain y Pwyllgor, yn ei rôl o hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig. 

·         Mae’r Pwyllgor yn sicrhau manylder a gwrthrychedd, gan dderbyn ac ymateb i gyngor proffesiynol ar y Cod Ymddygiad.

·         Un o’i rolau eraill yw rheoli cyfarfodydd yn hyderus ac yn effeithiol i hwyluso cynhwysiant, cyfranogiad a gwneud penderfyniadau eglur.

·         Diwygiwyd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i ymestyn swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau yn y ffordd y mae’n gweithredu gyda dyletswydd nawr i fonitro cydymffurfiaeth yr arweinydd gr?p, gyda cheisiadau i’r arweinydd gr?p ddod yn ôl i'r pwyllgor gydag adroddiad ynghylch cyngor a hyfforddiant.

·         Roedd gan y Pwyllgor Safonau ddyletswydd hefyd i ddarparu adroddiad blynyddol. 

·         Rôl y Swyddog Monitro / Dirprwy Swyddog Monitro oedd cynghori'r Pwyllgor Safonau, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol, datrys 'cwynion lefel isel' yn ogystal ag ymchwilio i gwynion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon. 

·         Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i bob cwyn ffurfiol am dorri'r Cod gydag unrhyw achosion difrifol o dorri rheolau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau neu Dribiwnlys Achos Panel Dyfarnu Cymru. 

·         Gall aelodau a gosbwyd apelio a gall y Pwyllgor atal Aelod am flwyddyn, neu gall gael ei wahardd am hyd at 5 mlynedd.

 

Cwestiynau:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Reynolds a oedd y Pwyllgor Safonau yn cyfarfod yn rheolaidd.  Cadarnhawyd bod y Pwyllgor Safonau yn cyfarfod bob deufis, a byddai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cael ei wahodd i Gyfarfod Cyswllt Cynghorau Cymuned yn y dyfodol i drafod y gwaith yr oedd y Pwyllgor Safonau wedi'i gwblhau yn ystod y 12 mis diwethaf.   Roedd cynrychiolydd o'r Cynghorau Cymuned, Mr John Davies hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Safonau.

 

 

4.

Rôl y Cynghorau Cymuned

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol yr eitem hon i Gynrychiolwyr y Cynghorau Cymuned. 

 

Prif Bwyntiau:

 

-          Mae 735 o gynghorau cymuned yng Nghymru gyda 94% o arwynebedd tir ac maen nhw’n cynrychioli cymunedau o rhwng 200 o bobl i 50,000 o drigolion ac maent yn gyswllt rhwng prif gynghorau a chynghorau cymuned.

-          Caiff cynghorwyr cymuned a thref eu hethol (neu weithiau eu cyfethol) i gynrychioli barn pobl leol.

-          Yn Lloegr fe'u gelwir yn Gynghorau Tref. 

-          Sefydlwyd Cynghorau Cymuned o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  Diwygiwyd darpariaeth Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gyda'r diweddaraf yn 2021. 

-          Y brif ffynhonnell ariannu ar gyfer cynghorau cymuned yw'r arian a godir drwy'r hyn y cyfeirir ato fel praesept (tâl) i'r dreth gyngor o dan adran 41 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

-          Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 drefn safonau newydd ar gyfer cynghorau cymuned.  O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gall Gweinidogion Cymru drwy orchymyn nodi'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau cynghorau cymuned a gallant gyhoeddi Cod Ymddygiad enghreifftiol y mae'n rhaid i aelodau ei arsylwi.

-          Mae rolau a chyfrifoldebau'r Cynghorau Cymuned yn cynnwys: 

·         Cefnogi eu cymunedau i gael llais

·         Cynllunio

·         Parciau, caeau chwarae a mannau agored

·         Codi adnoddau i'r gymuned. 

 

-          Rhaid i'r Cyngor Cymuned benodi Cadeirydd, penodi swyddogion a phenodi swyddog ariannol cyfrifol - gellir dewis y Clerc i wneud y swydd hon. 

-          Mae'r archwilydd mewnol hefyd yn cynnal Cyfarfod Blynyddol o'r Cyngor. 

 

Mae’r dyletswyddau’n cynnwys:

·         Rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i gyhoeddi'r gofrestr buddiannau.

·         Cydymffurfio â'r gyfraith gyffredinol.

·         Cynnal cyfarfodydd hybrid rheolaidd sy'n agored i'r cyhoedd a rhoi digon o rybudd ymlaen llaw o'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal. 

·         Ystyried effaith eu penderfyniadau ar leihau trosedd ac anhrefn yn eu hardal. 

·         Darparu rhandiroedd os yw'r cyngor o'r farn bod galw amdanynt gan drigolion lleol a'i bod yn rhesymol gwneud hynny.

·         Rhoi sylw i warchod bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau.

·         Cael gwefan sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

 

Mae Rôl Cynghorwyr yn cynnwys:

·         Mynychu cyfarfodydd cyngor cymuned pan gânt eu galw i wneud hynny.

·         Paratoi ar gyfer cyfarfodydd drwy astudio'r agenda a sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu'n iawn am faterion i'w trafod, cymryd rhan mewn cyfarfodydd a ffurfio barn wrthrychol yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r gymuned ac yna i gadw at benderfyniadau mwyafrifol.

·         Sicrhau, gyda chynghorwyr eraill, fod y cyngor yn cael ei reoli'n iawn.

·         Gweithredu ar ran yr holl etholwyr yn gyfartal

·         Cynnal safonau ymddygiad priodol fel cynrychiolydd etholedig o'r bobl. 

·         Mae gan gynghorwyr 3 phrif gydran:  Gwneud penderfyniadau, monitro a chymryd rhan yn lleol.  Gall hyn ddibynnu ar yr hyn y mae cynghorau cymuned am ei gyflawni.  

 

Mae cynghorwyr yn rhwym wrth God Ymddygiad sy'n amlinellu pa ymddygiad a ddisgwylir ganddynt bob amser yn eu rôl fel Cynghorydd.

 

Mae egwyddorion allweddol y Cod yn cynnwys:

·         Cydraddoldeb, Didueddrwydd, Trin eraill â pharch, gweithredu er budd y cyhoedd, bod yn agored i graffu ar y cyhoedd yn ogystal  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diogelu Swyddogion sy'n cyflawni eu dyletswydd gyhoeddus

Cofnodion:

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g fod Cadeirydd blaenorol Gwynll?g wedi bod yn delio â thipio anghyfreithlon ar eu tir.

Esboniodd Cynrychiolydd Maerun fod y tirfeddiannwr newydd yn ardal Gwynll?g wedi rhoi giât ar draws yr hawl tramwy ar lwybr.  Aeth y mater i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PCAC) a'r Arolygydd Cynllunio i wneud penderfyniad. Honnwyd bod tirfeddiannwr penodol y gymuned wedi bygwth y Cadeirydd, ac roedd cyfarfod cymunedol diwethaf Gwynll?g lle'r oedd y Tirfeddiannwr dan sylw wedi mynychu yn anodd, ac roedd yn gyfarfod anodd ei lywodraethu. Roedd Cadeirydd Gwynll?g wedi derbyn bygythiadau ac roedd difrod wedi’i wneud i'w eiddo ac ni chafodd gefnogaeth gan yr Heddlu. 

 

Trafodwyd nad oedd yr Heddlu fel arfer yn mynychu cynghorau cymuned yn bersonol, a oedd yn anffodus, fodd bynnag, roedd yr Heddlu’n cefnogi cymorthfeydd yr heddlu.

Trafododd cynrychiolwyr y Cynghorau Cymuned p’un a ddylid galw'r Heddlu yn y sefyllfaoedd hynny lle mae cyfarfodydd cyngor cymuned yn mynd yn afreolus gan nad oedd cynghorau cymuned yn derbyn unrhyw hyfforddiant i ddelio â'r mathau hynny o sefyllfaoedd. Mynegwyd fod y sefyllfa hon yn atal pobl rhag ymuno â Chyngor Cymuned.  Mae Cynghorau Cymuned wedi ceisio ymgysylltu â'r cyhoedd i geisio annog mwy o bobl i ymuno â chynghorau cymuned.  Fodd bynnag, os yw pobl yn teimlo y byddent yn cael eu bygwth ni fyddent yn ymuno.  

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol ei bod yn sefyllfa heriol ond bod cefnogaeth dda ar gael trwy CLlLC. Trafodwyd y gellid darparu canllawiau i gynghorau cymuned mewn cyfarfod yn y dyfodol ac y gallai cynrychiolydd yr Heddlu fynychu cyfarfod cyngor cymuned yn y dyfodol o bosibl.

Dywedodd cynrychiolydd Maerun fod angen i gynghorau cymuned ymgysylltu â'r Heddlu a chyfleu'r neges eu bod nhw, fel Cynghorwyr Cymuned, yn yr ardal gyhoeddus ac y gallen nhw hefyd fod mewn perygl.

Dywedodd Cynrychiolydd Maerun fod Cynghorydd arall, C. Roberts, wedi bod yn y cyfarfod dan sylw ac wedi dweud ei fod yn eithaf brawychus. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y gellid cael trafodaethau gyda Chynghorau Cymuned Maerun a Gwynll?g y tu allan i'r cyfarfod ar y mater hwn.

Trafodwyd bod Cadeirydd blaenorol Cyngor Cymuned Gwynll?g yn gadeirydd gweithgar iawn, a gallai'r digwyddiadau hyn ei gwneud hi'n anoddach cael pobl i ymuno â chynghorau cymuned ac yn anodd eu cadw. 

Dywedodd cynrychiolydd Maerun fod cynghorwyr y ddinas hyd yn oed yn fwy agored i niwed heb unrhyw reolaeth dros bwy sy'n dod i gyfarfod cyngor cymuned cyhoeddus. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol fod natur rolau'r cynghorau cymuned yn ymwneud ag ymgysylltu yn y gymuned. Bydd canllawiau CLlLC yn cael eu cyflwyno i Gynghorau Cymuned ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Reynolds fod yr hyn yr oedd Cynrychiolwyr Maerun wedi'i ddisgrifio yn peri gofid a bod hynny wedi rhwystro pobl rhag ymuno â chynghorau cymuned ac na chafwyd unrhyw beth fel y lefel honno o fygythiadau yn ei gyfarfod cyngor cymuned ef, ond roedd wedi bod yn bresennol mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

dyddiad y cyfarfod nesaf

To be confirmed

Cofnodion:

Mae cais wedi ei wneud i Cymorth Cynllunio Cymru gynnal sesiwn ymgysylltu gyda Chynghorau Cymuned i ymgynghori â nhw ar y Cynllun Datblygu Lleol. Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 25 Ionawr 2023. Y gobaith oedd y byddai hyn yn cael ei drefnu cyn 8 Mawrth felly byddai dyddiad yn cael ei bennu maes o law.  

Byddai dyddiad y cyfarfod nesaf hefyd yn cael ei bennu maes o law gyda nodyn atgoffa i gynghorau cymuned fod y cyfarfod Cyswllt bellach yn un hybrid a gallai cynrychiolwyr cynghorau cymuned fynychu o bell neu yn bersonol.

Atgoffwyd y Cynghorau Cymuned o gyfeiriad e-bost y Gwasanaethau Democrataidd democratic.services@newport.gov.uk os bydd angen unrhyw gymorth arnynt. Hefyd, darparodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ei chyfeiriad e-bost hi, Elizabeth.Bryant@newport.gov.uk

Roedd eitemau agenda'r cyfarfod nesaf yn cynnwys:

·         Swyddog Iechyd a Diogelwch a chynrychiolydd yr Heddlu i fynychu'r cyfarfod Cyswllt Cymunedol. 

·         Y Cadeirydd Safonau i fynychu'r cyfarfod nesaf. 

Yn y cyfarfod nesaf byddai'r Adroddiad Blynyddol y bu'n rhaid i Gynghorau Cymuned ei gwblhau yn cael ei drafod.  Roedd hon yn ddogfen newydd eleni y bu'n rhaid i gynghorau cymuned ei chynhyrchu oedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth dan y Ddeddf Llywodraeth Leol.  Byddai adolygiad o hyn yn y cyfarfod nesaf yn ogystal â thrafodaeth ynghylch cynnwys yr adroddiad a faint o fanylion sydd eu hangen. 

Darparodd Un Llais Cymru ganllaw ar gyfer y Ddeddf Llywodraeth Leol a oedd yn mynd i fanylder a byddai sesiwn friffio'n cael ei llunio ar gyfer cynghorau cymuned ar gyfer y cyfarfod nesaf. Mae'r ddolen fel a ganlyn: 

Canllawiau Statudol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

7.

Digwyddiad Byw