Cofnodion

Cyfarfod Cysylltu gyda Chynghorau Cymuned - Dydd Iau, 5ed Hydref, 2023 6.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Taylor Strange  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiadau Buddiannau

3.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22.06.23 pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023 yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol yn dymuno adrodd yn ôl ar rai materion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol.   

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol mai’r nifer oedd yn ofynnol i'r cyfarfod fod yn gworwm oedd traean o gyfanswm yr aelodau; gall y nifer cworwm gynnwys y cadeirydd.  

Nododd y Rheolwr Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol nad oedd Cytundeb Lefel Gwasanaeth wedi'i gyhoeddi ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio iddo a chynnwys cwyn am dorri’r Cod Ymddygiad.  

Holodd Cynghorydd Cymunedol a oedd hyfforddiant ar ddiogelwch personol wedi'i drefnu ac eglurodd y Rheolwr Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol bod rhywfaint o oedi wedi bod ond bod hyn yn cael ei ddatblygu.    

Dywedodd Cynghorydd Cymuned fod yr heddlu wedi bod yn bresennol yn eu cyfarfod diwethaf ac roedd hyn wedi’i groesawu. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol fod yr Uwch-arolygydd, Jason White, wedi ymrwymo i fod yn bresennol ym mhob cyfarfod arall gan olygu y byddai cyfle i godi unrhyw faterion yn y cyfarfodydd hynny.  

 

4.

Drafft Ymgynghori Cynllun Gweithredu Lleol Casnewydd pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau yr eitem. Mae Casnewydd yn Un yn bartneriaeth o'r prif asiantaethau cyhoeddus yng Nghasnewydd gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd sefydliadau lleol allweddol fel Cartrefi Dinas Casnewydd a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent. Mae Cynlluniau Gweithredu Lleol a ddatblygwyd gan y pum partneriaeth leol sy'n cefnogi BGC Gwent, gan gynnwys Casnewydd yn Un, yn rhoi eglurder ar y camau gweithredu lleol sydd eu hangen i gefnogi'r Amcanion Lles y cytunwyd arnynt gan BGC Gwent ar gyfer y Cynllun Lles rhanbarthol. Daeth y cynllun blaenorol i ben ym mis Ebrill. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddai'r cynllun newydd ar waith am 5 mlynedd ac ychwanegodd fod pob awdurdod lleol mewn cyfnod o ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol Gwent yn seiliedig ar flaenoriaethau'r strategaeth drosfwaol.

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned am yr ymgynghoriad cyhoeddus a oedd bellach ar agor ar fersiwn ddrafft Cynllun Gweithredu Lleol Casnewydd.

Y prif themâu a nodwyd o adborth yn ystod gwaith ymgysylltu cychwynnol oedd yr Economi a Diwylliant, Cryfhau'r Gymuned a Chadernid Cymunedol, Cydlyniant a Diogelwch a'r Amgylchedd.   

Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod ymgynghoriad wedi digwydd yn bennaf trwy ymgysylltu ar-lein, ond hefyd drwy allgymorth mewn mannau cyhoeddus ac mewn digwyddiadau lleol. Gofynnodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau i aelodau'r Cyngor Cymuned am eu hadborth, ac ychwanegodd y byddent hefyd yn gwerthfawrogi pe bai’r cynrychiolwyr yn rhannu'r arolygon gyda'u trigolion lleol i'w hannog i gymryd rhan.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned eu bod yn gallu darparu cefnogaeth i'r rheini nad oeddent yn gallu eu cwblhau ar-lein.   

Gofynnodd cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned a ellid rhannu hyn ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallent ei hyrwyddo yn eu grwpiau lleol.  

-          Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y gallent ac y byddent yn anfon dolen y gellid ei rhannu.

Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau ei bod yn hapus i gymryd unrhyw adborth neu gwestiynau o'r cyfarfod ond tynnodd sylw at bwysigrwydd annog trigolion lleol i ymgysylltu fel rhan o'r broses.  

Holodd Cynghorydd Cymunedol faint o wybodaeth a oedd angen ei darparu i'w hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.

-          Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y bu ymdrech i ddod o hyd i gydbwysedd yn y swm o wybodaeth a ddarparwyd i annog cyfranogiad gwybodus ac ystyrlon ac ychwanegodd os oedd gan y Cynghorau Cymuned unrhyw gwestiynau yn ddiweddarach, bod croeso iddynt gysylltu â hi. 

Holodd Cynghorydd Cymuned pryd bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben. 

-          Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau mai'r dyddiad cau oedd y 14 Hydref ond ychwanegodd, gan nad oedd yn ofynnol i'r canlyniadau gael eu bwydo'n ôl tan fis Rhagfyr byddai rhywfaint o le i'w ymestyn.  

-          Dywedodd Cynghorydd Cymunedol y byddai estyniad yn syniad da ac awgrymodd ddiwedd mis Hydref. 

Cytunodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau i'r estyniad.    

5.

Cynllun Lles Gwent pdf icon PDF 685 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) wedi'i sefydlu yn 2021 gan y credwyd bod hyn yn fwy effeithiol na’r BGCau gwasgaredig yn unig a oedd wedi bod ar waith cyn hyn. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau mai rhan o swyddogaethau BGC Gwent oedd bod ganddynt Gynllun Asesu Lles ar waith. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod yr Asesiad Lles wedi'i gyhoeddi yn 2022 a bod gan Gasnewydd 6 maes asesu. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y bu cyfnod ymgynghori a bod y canlyniadau wedi'u cyfuno i greu drafft ar gyfer y cynllun terfynol a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn nodi gwelliannau arfaethedig ar y meysydd allweddol.  

Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod y cynllun drafft wedi'i gyhoeddi a bod angen gwneud rhai gwelliannau ond unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau y byddai'n cael ei ddiweddaru ar y wefan gyhoeddus ac y byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu mewn llyfrgelloedd a mannau cymunedol. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod dau amcan cydgysylltiol wedi'u nodi o'r Asesiad Lles a rhoddodd disgrifiad byr o’r ddau. 

-          1. ‘Rydym am i Went fod yn decach, yn fwy cyfartal, ac yn fwy cynhwysol i bawb. 

-          2. ‘Rydym am i Went fod yn barod o ran yr hinsawdd, gan roi gwerth ar ein hamgylchedd a’i ddiogelu er ein budd ni nawr a chenedlaethau’r dyfodol.’   

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y bu ffocws ar egwyddorion Marmot yn yr asesiad, sy'n ddangosyddion iechyd a disgwyliad oes. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau bod 179 o argymhellion i'w gweithio arnynt ond amlygodd fod hwn yn gynllun hirdymor ac na fyddai manteision rhai yn amlwg ar unwaith. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddai cyfarfod i edrych ar sut i fynd i'r afael â'r materion hyn a fydd yn rhan o'r cynllun gweithredu. Gorffennodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau drwy annog cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned i ddarllen yr adroddiadau ac ystyried ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn drwy gydweithio. 

Diolchodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol i'r Rheolwr Polisi a Phartneriaethau a nododd yr uchelgais.  

Holodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau sut y dewiswyd y sefydliadau partner ym BGC Gwent. 

-         Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod gan y BGC ddeddfwriaeth gyfatebol a bod rhestr o'r rhai sy'n cael eu cyfethol ar gyfer gwaith penodol. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod rhai sefydliadau yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer sector mwy.   

Holodd Cynghorydd Cymuned a oedd unrhyw wybodaeth bellach am egwyddorion Marmot.   

-        Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod yr Athro Marmot wedi cyhoeddi adroddiad am y tro cyntaf yn 2010 ac yna wedi ailedrych ar hyn ar ôl Pandemig COVID-19 i weld a fu unrhyw welliannau. Ni fu unrhyw newidiadau, yr oedd yr Athro Marmot yn hystyried eu bod wedi dynodi nad oedd y systemau presennol yn gweithio er gwaethaf ymdrechion gorau llawer. Mae'r ymchwil yn cael ei hystyried yn ddarlleniad heriol ond mae'n anelu at gymell cydweithredu ac  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Newid Hinsawdd - Cefnogaeth i Gynghorau Cymuned

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Newid Hinsawdd nifer o gyfleoedd ar gyfer cymunedau. Dywedodd  y Swyddog Newid Hinsawdd fod dau rwydwaith yn cael eu hadfer. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth y pwyllgor mai'r rhwydwaith cyntaf oedd Rhwydwaith Amgylchedd Casnewydd sydd ag egwyddorion craidd mannau gwyrdd pwrpasol hygyrch i drigolion Casnewydd. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan y rhwydwaith blaenorol ystod eang o aelodau a phan cynhaliwyd arolwg roedd ymdeimlad mawr bod pobl yn dal i fod yn awyddus i gymryd rhan. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd eu bod yn dymuno hyrwyddo'r rhwydwaith i ragor o bobl a nododd y byddent yn werthfawrogol iawn pe byddai cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned yn annog cyfranogiad yn eu wardiau. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd mai’r bwriad o sefydlu'r rhwydweithiau oedd creu gofod a oedd yn galluogi cydweithio ac annog cyfranogiad mewn prosiectau. 

Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd eu bod yn anelu at gefnogi cyfarfodydd chwarterol gyda digwyddiad lansio wyneb yn wyneb a fydd yn cael ei hysbysebu pan fydd wedi'i gadarnhau. 

Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned fod yr ail rwydwaith yn newydd ac yn dod â Hyrwyddwyr Hinsawdd Casnewydd ynghyd. Eglurodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan y rhwydwaith hwn nod tebyg i Rwydwaith Amgylchedd Casnewydd ond bod ganddo gylch gwaith ehangach, gan ganolbwyntio ar bob gr?p sydd â diddordeb mewn cymryd camau gweithredu i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai'r rhwydwaith hefyd yn ofod i gysylltu a rhwydweithio wrth ddarparu dolen i'r Cyngor i drafod pryderon.

Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd nad oedd angen ymrwymiad i fod yn bresennol yn naill rwydwaith na'r llall ond nododd eu bod yn dymuno cyfranogiad cynifer o bobl â phosib. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai’r rhwydwaith hwn yn cynnal cyfarfodydd chwarterol a digwyddiad lansio hefyd.  

Amlygodd y Swyddog Newid Hinsawdd rai cyfleoedd y gallai trigolion fanteisio arnynt yn dibynnu ar eu cymhwysedd, gan gynnwys cynlluniau uwchraddio effeithlonrwydd ynni cartref am ddim ECO4 Flex, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr, Datgarboneiddio Cymunedol, a gwefrwyr cerbydau trydan pellach.  

Holodd Cynghorydd Cymunedol a oedd y grantiau effeithlonrwydd ynni ar gael ar gyfer y rheini ar fudd-daliadau yn unig. Nododd y Cynghorydd fod y tai mewn band Treth Gyngor uchel ar gyfer llawer o gymunedau gwledig a holodd beth ellid ei wneud i gefnogi'r bobl hynny a allai fod yn ei chael hi'n anodd yn ariannol hefyd.  

-        Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan bob cynllun ei feini prawf cymhwysedd ei hun a nododd fod un yn seiliedig ar fandiau Treth Gyngor a bod un arall yn seiliedig ar sgôr effeithlonrwydd ynni'r eiddo.  

-        Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan gynlluniau uwchraddio effeithlonrwydd ynni ECO4 Flex faen prawf gwahanol nad oedd yn ymwneud â'r Dreth Gyngor.    

Holodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol a oedd y Swyddog Newid Hinsawdd am i'r Cynghorau Cymuned gyflwyno cynrychiolwyr ar gyfer y rhwydweithiau hyn.

-        Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd y bydden nhw'n hapus i’r Cynghorau Cymuned a thrigolion  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Prawf Adnabod Pleidleiswyr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y cyflwyniad. 

          Roedd Deddf Etholiadau 2022 wedi arwain at rai newidiadau allweddol gyda'r mwyaf o'r rheini yn cyflwyno Prawf Adnabod Pleidleiswyr yn ogystal â newidiadau mewn meysydd eraill fel pleidleiswyr yr UE a'r rhai tramor. Fodd bynnag, roedd ffocws y cyflwyniad ar y Prawf Adnabod Pleidleiswyr.   

          Pwrpas Prawf Adnabod Pleidleiswyr oedd lleihau'r risg o dwyll pleidleiswyr yn ogystal â gwneud y broses etholiadol yn decach. Bydd y Prawf Adnabod Pleidleiswyr hefyd yn atal y drosedd etholiadol a elwir yn gambersonadu ond bu rhywfaint o feirniadaeth mewn perthynas â phrawf adnabod pleidleiswyr gan ei bod yn gwneud yn anoddach i rai bleidleisio. 

          O 4 Mai 2023 roedd angen Prawf Adnabod Pleidleiswyr ar gyfer etholiadau seneddol yn ogystal ag etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ledled y DU. Yn Lloegr bydd hefyd yn berthnasol i etholiadau lleol, ond nid i Gymru.  

          Mae 23 math derbyniol o brawf adnabod yn cynnwys pasbortau a thrwyddedau gyrru, gall y rhain fod wedi dod i ben os oes tebygrwydd.   

          Os nad oes gan berson brawf adnabod dilys, mae'n dal i allu gwneud cais am Brawf Adnabod Pleidleisiwr.  

          Darperir Prawf Adnabod Pleidleiswyr yn rhad ac am ddim o'r Swyddfa Gofrestru Etholiadol a thrwy ymchwil disgwylir y bydd angen Prawf Adnabod Pleidleiswyr ar oddeutu 5% o bleidleiswyr.  

          Yng Nghymru doedd Prawf Adnabod Pleidleiswyr ddim yn cael ei hysbysebu eto ond yn Lloegr mae wedi cael cyhoeddusrwydd oherwydd ei fod yn dod i rym ar gyfer etholiadau yn Lloegr yn gyntaf. 

          Gellir gwneud y cais ar-lein neu ei gefnogi'n bersonol.   

          Mae canolfan gyflawni ganolog yn bodoli ar hyn o bryd ond gallai hyn symud i raddfa fwy lleol yn y dyfodol.  

          Mae’r Prawf Adnabod Pleidleiswyr ffisegol yn ddogfen A4 ac mae ganddo rai mesurau diogelwch fel y rheini a ddefnyddir o fewn arian cyfred cyfreithiol.  

          Bydd y Comisiwn Etholiadol yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r angen am y Prawf Adnabod Pleidleiswyr cyn y cynhelir y bleidlais yn ogystal â darparu deunyddiau i gynghorau lleol er mwyn iddynt eu dosbarthu i drigolion.

          Rhaid i orsafoedd pleidleisio gael lle er mwyn i bobl ddangos eu Prawf Adnabod Pleidleiswyr yn breifat, bydd cyllid ar gyfer unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gofod hwn yn cael ei ddarparu.

          Mae gan y Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio'r hawl i wrthod pleidleisiwr os nad oes ganddo brawf adnabod dilys, neu os yw'n teimlo nad yw'r prawf adnabod a ddarperir yn gyfreithlon. Mae'r penderfyniad i wrthod yn derfynol, ond gall y gwrthodiadau hyn fod yn destun adolygiad.

          Bydd heriau fel codi ymwybyddiaeth er mwyn i'r trigolion gael digon o amser i gael eu Prawf Adnabod Pleidleiswyr.

          Mae'r Comisiwn Etholiadol yn canolbwyntio ar sicrhau nad oes unrhyw gymunedau'n cael eu difreinio.  

 

          Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol mai’r etholiadau cyntaf y byddai hyn yn effeithio arnynt yng Nghasnewydd fyddai etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu sydd ar ddod ym mis Mai 2024 ac ychwanegodd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y byddai'r heddlu'n bresennol yn y cyfarfod nesaf ac yn darparu gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch a nododd y byddai sesiwn ar Ddiogelwch Personol ond y byddai hon yn cael ei chynnal ar wahân. 

Dywedodd y Rheolwr Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol y byddent yn ymdrin â'r Cynllun Datblygu Lleol yn ogystal â thrafodaeth ar Siarter y Cyngor Cymuned fel eitem ar yr agenda, a holodd a oedd cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned am i'r clercod fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.   

Gwnaeth Cynghorydd Cymuned godi mater mewn perthynas â’r newidiadau i derfynau cyflymder ledled Cymru oherwydd bod rhywfaint o ddryswch yn y cymunedau.  

-          Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol ei fod yn newid mawr ond dywedodd wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned ei fod yn benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ac felly nid yw’n rhan o gylch gwaith Cyngor Dinas Casnewydd ond ychwanegodd os oedd yn ymwneud ag arwyddion i gysylltu neu lenwi'r ffurflen ar-lein gyda lleoliadau penodol ac y gellir asesu'r rhain.    

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y pennwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr ond gofynnodd a ellid cynnal y cyfarfod hwn yn gynt, ar 30 Tachwedd, i gyd-fynd â CDLl Cymru.