Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Cysylltu gyda Chynghorau Cymuned - Dydd Iau, 7fed Rhagfyr, 2023 6.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Taylor Strange  Swyddog Llywodraethu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

John Wagstaff (Pen-hw)

 

Julie Foster (Gwynll?g)

 

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf a gynhaliwyd ar 05.10.23 pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 05 Hydref 2023 yn gofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

 

4.

Diweddariad gan yr Heddlu

Diweddariad Llafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd ddiweddariad ar y materion allweddol yng Nghasnewydd.

 

Pwyntiau Allweddol

 

·        Bu cynnydd mewn trosedd meddiangar, ond nid yw hyn yn unigryw i Gasnewydd ac mae heddluoedd eraill yn gweld cynnydd. Mae dwyn o siopau yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r troseddau hyn ac mae hyn yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau gan fod eitemau gwerth uchel fel arfer yn cael eu targedu.  Cydweithio â manwerthwyr i liniaru digwyddiadau dwyn o siopau fel gosod teledu cylch cyfyng o ansawdd uwch.

 

·        Rhoddwyd diweddariad ar yr euogfarnau a'r erlyniadau wrth reoli'r materion hyn yn ddiweddar. 

 

·        Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd sicrwydd ynghylch lladrad a throseddau â chyllyll a dywedodd fod y camau cryfaf posibl, yn defnyddio swyddogion arbenigol, yn cael eu rho ar waith i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell ac atal troseddau pellach.

 

·        Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd fod e-feiciau a beiciau oddi ar y ffordd yn broblem barhaol ond nad ydynt yn benodol i Gasnewydd ac ardal Gwent.  Mae gwybodath gymunedol yn allweddol wrth reoli'r her hon.

 

·        Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor y gall eu preswylwyr roi gwybod yn ddienw am unrhyw ddefnydd o e-feiciau trwy Crimestoppers a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor na ellir gweld y wybodaeth a ddarperir a'r sawl sy'n darparu'r wybodaeth gyda'i gilydd, hyd yn oed gan yr Heddlu. Mae unrhyw adroddiadau a wneir trwy Crimestoppers yn cael eu trosglwyddo i'r Heddlu er mwyn iddynt weithredu ar unwaith.

 

·        Sicrhaodd y Prif Uwch-arolygydd y Pwyllgor mai dyma eu prif ffocws ar hyn o bryd gan ei fod er budd y cyhoedd, ac maent wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn y rhai sy'n defnyddio'r beiciau hyn at ddibenion troseddol.

 

 

·        Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor bod deddfwriaeth ar hyn o bryd sy'n rhoi pwerau i'r Heddlu stopio ac atafaelu'r beiciau hyn, ond bod angen mwy o ddeddfwriaeth ynghylch gwerthu'r beiciau hyn.

 

Cwestiynau

 

Fe wnaeth Cynghorydd Cymunedol fynegi pryder nad oes Cymorthfeydd yr Heddlu wedi bod yn digwydd yn eu ward. Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor ei fod yn poeni nad oedd unrhyw gymorthfeydd wedi bod yn digwydd ac y byddai'n holi pam. Bydd Fframwaith Perfformiad Plismona Cymdogaeth yn cael ei lunio a fydd yn ei gwneud yn glir pryd y bydd yr heddlu yn mynychu cymorthfeydd yn y dyfodol a sicrhaodd y Prif Uwch-arolygydd y Pwyllgor y bydd presenoldeb yn y cyfarfodydd sydd i ddod.

 

Dywedodd Cynghorydd Cymunedol eu bod yn arfer derbyn Adroddiadau'r Heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhain wedi dod i ben, a holodd a oes modd adfer y rhain a'u darparu naill ai i'r Cynghorydd Cymunedol neu Gynghorydd Ward i gael eu cylchredeg. Dywedodd y Cynghorydd Cymuned eu bod wedi gweld postiad gan Heddlu Gwent ar y cyfryngau cymdeithasol am e-sgwteri ac wedi holi beth sydd wedi cael ei wneud yngl?n â'r defnydd o'r rhain ar ffyrdd cyhoeddus. Sicrhaodd y Prif -y Pwyllgor y byddant yn ei gwneud yn glir pa adroddiad y byddant yn ei dderbyn, pryd a gan bwy. Mae'r diweddariad ar e-feiciau hefyd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Iechyd a Diogelwch

Cofnodion:

Diweddariad ar lafar gan y Partner Busnes Iechyd, Diogelwch a Lles

 

Pwyntiau Allweddol

 

·        Rhoddodd y Partner Busnes Iechyd, Diogelwch a Lles drosolwg o'r dyletswyddau sydd ar weithwyr o ran Iechyd a Diogelwch a darparodd wybodaeth a dolenni at wybodaeth a chanllawiau pellach ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch https://www.hse.gov.uk/. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Rheoli Diogelwch gan y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (SDIG) yn hyfforddiant da.

 

·        Holodd Cynghorydd Cymuned pwy fyddai'n gyfrifol pe bai damwain yn digwydd tra bo’r neuadd wedi'i llogi i rywun. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor y gellir ychwanegu Telerau ac Amodau at gontract llogi'r safle gan gynnwys y dylid cwblhau asesiad risg ar gyfer y math o weithgaredd neu ddigwyddiad y mae'r safle wedi'i logi ar ei gyfer.  Dywedodd y Partner Busnes Iechyd, Diogelwch a Lles wrth y Pwyllgor, os oes llai na 5 o fynychwyr, nad oes gofyniad cyfreithiol am asesiad risg.  Hysbyswyd y Pwyllgor bod modd gweld y pethau sylfaenol ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac mai Un Llais Cymru yw'r prif sefydliad ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

 

·        Dywedodd y Partner Busnes Iechyd, Diogelwch a Lles wrth y Pwyllgor y gellir tendro asesiadau risg arbenigol i gwmnïau allanol, a byddant yn gallu darparu enghreifftiau o asesiadau risg, a thempledi.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor, os oes angen mwy o gymorth arnynt, y byddai angen iddynt brynu i mewn i Un Llais Cymru neu gwmni tebyg. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol sylw’r Pwyllgor at bwysigrwydd rhannu profiadau ac arferion gorau rhyngddyn nhw eu hunain yn hytrach na cheisio cyngor arbenigol. Dywedodd y Partner Busnes Iechyd, Diogelwch a Lles wrth y Pwyllgor bod cydweithio yn digwydd o fewn Cyngor Dinas Casnewydd gydag awdurdodau lleol cyfagos a rhannu arfer gorau.

 

6.

Unllais Cymru

Cyflwyniad Llafar

Cofnodion:

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol

 

Pwyntiau Allweddol:

 

·        Doedd y sawl a wahoddwyd o Un Llais Cymru ddim yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch.  Yn y cyfamser, os oes angen rhagor o wybodaeth ar unrhyw un o'r Cynghorau Cymuned neu os ydynt yn ystyried dod yn aelod o Un Llais Cymru, gallant gysylltu â nhw'n uniongyrchol. 

 

7.

Adolygiad o'r Siarter

Cyflwyniad Llafar

Cofnodion:

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol

 

Pwyntiau Allweddol:

 

·        Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor eu bod yn bwriadu anfon y Siarter at gynrychiolwyr a bydd yn gofyn am anfon unrhyw sylwadau cyn y cyfarfod nesaf.  Os nad oes angen unrhyw newidiadau, bydd yn cael ei gymeradwyo gyda dyddiad diwygiedig. 

 

8.

Adolygiad Cynghorau Cymuned

Cyflwyniad Llafar

Cofnodion:

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol

 

Pwyntiau Allweddol:

 

·        Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wybod i'r Pwyllgor y bydd Adolygiad Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2024 a fydd yn cynnwys adolygiad o Gydymffurfiaeth  a’r Cod Ymddygiad a'r Gofrestr o Fuddiannau a gwiriad bod cofrestrau statudol yn cael eu cynnal yn briodol a bod gweithdrefnau ar gyfer datganiadau wedi'u cwblhau gan Gynghorau Cymuned, yn dilyn yr etholiadau (yn amodol ar ddeddfwriaeth a chanllawiau cyfredol). Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd ymgysylltu â Chynghorau Cymuned i sicrhau cydymffurfiaeth ac i nodi unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu a bod newidiadau i ddatganiadau buddiannau bellach ar waith. 

 

·        Dywedodd Cynghorydd Cymunedol y gallai eu gwybodaeth gyswllt fod yn hen a gofynnodd a ellid ei hadolygu yn dilyn y cyfarfod. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol y Pwyllgor y gellir gwirio'r wybodaeth gyswllt yn dilyn y cyfarfod a bydd yn sicrhau bod hyn wedyn yn cael ei hidlo i adrannau mewnol o fewn y Cyngor.

 

 

·        Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wybod i'r Pwyllgor am yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ar gyfer adroddiad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac mai'r dyddiad cau ar gyfer adborth yw 8 Rhagfyr 2023. Mae gan yr adroddiad drafft argymhellion a fyddai'n berthnasol i Gynghorwyr Cymuned mewn perthynas â lwfansau gorfodol.

 

9.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Diweddariad Llafar

Cofnodion:

·        Un Llais Cymru

·        Sesiwn Diogelwch Personol

·        Canlyniadau'r Adolygiad Cynghorau Cymuned