Lleoliad: Committee Room 4 - Civic Centre. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meryl James, Governance Officer
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 1 MB Cofnodion: Derbyniwyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 yn gofnod gwir a chywir. |
|
Rheoli Cyfleusterau PDF 268 KB Cofnodion: 1. Mae’r crynodeb ariannol a gyflwynwyd yn dangos gallai fod diffyg o oddeutu £45,000 yn y £950,000 a ddosbarthwyd, mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gwaith cynnal a chadw allanol, y darn o waith cynnal a chadw dyctio a gwblhawyd ym mis Gorffennaf a gostyngiad yn yr incwm oherwydd llai o archebion amlosgi. Yn ystod cyfarfod mis Medi, cytunodd y Pwyllgor i gadw 20% o gyfanswm y dosbarthiad o £950,000 (£190,000) nes y cadarnheir alldro diwedd y flwyddyn. Roedd gan y Pwyllgor ddewis i wneud yn iawn am y diffyg bach o gronfeydd wrth gefn neu i leihau’r dosbarthiad yn briodol.
Penderfynwyd: (a) Bodloni’r dosbarthiad o £950,000 a gwneud yn iawn am y diffyg £45,000 o’ r cronfeydd wrth gefn. Gohirio’r cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth
tan fis Ebrill 2020, i gadarnhau sefyllfa’r alldro terfynol
yn y gyllideb a chadarnhau’r dosbarthiad sydd ar
gael. |
|
Adroddiad Amcangyfrifon Refeniw PDF 319 KB Cofnodion: 1. Cyflwynwyd gwybodaeth ategol i’r Pwyllgor i’w galluogi i gwblhau adolygiad o’r ffioedd a’r cynigion cyllideb ar gyfer 20/21. Gofynnwyd i’r pwyllgor gytuno ar gynnydd o 7.5% ar y ffioedd, er mwyn ateb y cynnig 2 flynedd CATC a gyflwynwyd gan Gyngor Casnewydd a allai sicrhau £125,000 yn ychwanegol i’w ddosbarthu dros yr holl awdurdodau etholiadol. Roedd y ffigurau a ddarparwyd yn seiliedig ar niferoedd amlosgi amcanestynedig ar gyfer 2019/20, fodd bynnag, os bydd y niferoedd yn parhau i ostwng, ac na chyflawnir y lefelau incwm, byddai angen defnyddio rhagor o gronfeydd wrth gefn, er mwyn sicrhau yr incwm ychwanegol arfaethedig.
Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynigion cyllideb drafft, gan gynyddu’r ffioedd gan 7.5%, a allai sicrhau i’r Pwyllgor, pe byddai niferoedd amlosgi yn aros yn sefydlog, ddosbarthiad ychwanegol gwerth £125,000 ar ddiwedd 2020/21. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu’r cynaliadwyedd parhaus a gall fod angen i’r Pwyllgor gymeradwyo gwarged is yn y dyfodol, os bydd y niferoedd amlosgi yn gostwng oherwydd cystadleuaeth gan amlosgfeydd preifat.
Penderfynwyd: Cynyddu ffioedd gan 7.5% o 1 Ebrill 2020, a chymeradwyo cynigion cyllideb drafft ar gyfer 2020/21.
|
|
Diweddariad am y Gyllideb Cofnodion:
1.
Adroddodd Cynrychiolydd
Norse ei fod a’r Cofrestrydd Arolygol wedi cerdded o amgylch
yr amlosgfa i asesu yr hyn sydd angen ei drwsio a gwella’r
cyfleusterau lle bo’n bosib. Mae angen trwsio’r to
gydag amcangyfrifon cost o £50k, £13k ar gyfer goleuo a
£2,000 i wella’r grisiau - Cyfanswm cost amcanestynedig
£155,000. Cytunodd y Pwyllgor i gyflawni’r gwaith trwsio hanfodol canlynol:
Trwsio’r to ar gost
amcanestynedig o £50,000 Eitemau eraill a ohiriwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Clustogau x 26 = £4,200
Mae angen i PD gyflwyno
symiau amacnestynedig ychwanegol ar gyfer yr eitemau eraill Penderfynwyd: Cwblhau’r gwaith atgyweirio hanfodol a nodwyd uchod a gohirio eitemau eraill o atgyweirio tan y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gostio, ynghyd â chynnal arolwg atgyweiriadau manwl ar y safle.
|
|
Adroddiad y Cyfarwyddwr Angladdau Cofnodion: 1. Adroddodd PD na chafwyd dim byd gan gynrychiolydd y Cyfarwyddwr Angladdau i’w gyflwyno i’r Pwyllgor.
|
|
Cofnodion: Adroddodd y rheolwr bod oddeutu 18,000 o gyrchiadau i’r wefan yn ystod y 28 diwrnod diwethaf. Mae prydlesi nawr i’w hadnewyddu gan fod y claddgelloedd yn 20 oed.
Er bod y ffigurau masnachu ar gyfer Medi a Hydref yn dangos tuedd i fyny o’i gymharu â’r un misoedd yn 2018, mae cyfanswm yr amlosgiadau ar gyfer deg mis cyntaf y flwyddyn o hyd 144 yn is na 2018.
|