Lleoliad: Teams
Cyswllt: Meryl James Swyddog Llywodraethu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Y Cynghorwyr C Meredith ac M Moore, J Gossage, M Rushworth, K Sansom Roedd y Cynghorydd J Simmonds yn profi anawsterau technegol ac nid oedd yn gallu ymuno â'r cyfarfod
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim i'w datgan.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf Cofnodion: Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2020 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Adolygiad o Ffioedd a Chynigion Cyllideb 2021 PDF 320 KB Cofnodion: Y llynedd roedd cynnydd o 7.5%. Yn 2021/22 rhagwelir gwarged o £471k cyn unrhyw ddosbarthiad. Mae'r Pennaeth Cyllid yn argymell cynnal y dosbarthiad a gyllidebwyd o £950k ar gyfer 2021/22, a fyddai, yn seiliedig ar ragamcanion, yn gofyn am dynnu £478k o gronfeydd wrth gefn. Byddai hyn yn gadael £725k mewn cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd 2021/22. Wrth symud ymlaen, os bydd nifer yr amlosgiadau/lefelau incwm yn parhau fel y rhagwelir, neu'n gostwng ymhellach, y bwriad yw lleihau'r dosbarthiad ar gyfer 2022/23 i £450k, fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei adolygu pan fydd gennym fwy o sicrwydd. Pleidleisiodd y Pwyllgor i rewi ffioedd cyfredol ar gyfer 2021/22 a defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu am unrhyw ddiffyg ar gyfer y dosbarthiad a gyllidebwyd yn y flwyddyn ariannol gyfredol sef 2020/21, ac yn 2021/22.
Cyflwynodd y Cynghorydd Steven Evans y cynnig i dderbyn ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd John Taylor. Cafwyd pleidlais unfrydol o blaid y cynnig.
Teyrngedau Gweledol Dywedodd y Cynghorydd Jeavons ei fod wedi cael ei drafod mewn cyfarfod blaenorol yngl?n â chael costau ar gyfer teyrngedau gweledol i barhau'n gystadleuol o ran yr hyn rydym yn ei gynnig, gan fod Trefnwyr Angladdau wedi rhestru hyn yn un o'r rhesymau pam y dewisodd teuluoedd Amlosgfa Langstone dros Amlosgfa Gwent. Dywedodd Paul Dundon y byddai'n costio tua £15k, fe bleidleisiodd y Pwyllgor a chytunodd ar y cynnig i fwrw ymlaen gyda’r gwaith gosod. Mae'r cyflenwr yng nghanolbarth Lloegr, felly bydd Paul Dundon yn trefnu i'r gwaith gael ei wneud cyn gynted ag y bydd modd i'r cwmni wneud hynny o ystyried rheoliadau Covid.
Dywedodd Paul Dundon fod Langstone / Sirhowy yn cynnig gwasanaethau 40 munud o hyd, o gymharu â'u gwasanaethau 20 munud o hyd. Cytunwyd y bydd y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yn ystyried newid amseroedd gwasanaethau. Ar hyn o bryd mae Amlosgfa Gwent yn rhedeg ar gapasiti o 90%. |
|
Adroddiad y Trefnydd Angladdau To consider any issues raised by local Funeral Directors Cofnodion: Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan y Trefnwyr Angladdau lleol.
Dywedodd S Tom ei fod yn ddiolchgar am beiriannau hylif diheintio dwylo. Mae'r cyhoedd yn gofyn a allai un gael ei osod wrth allanfa'r capel. P Dundon i weithredu hyn. Mae cyfradd heintiau amlosgfeydd Langstone a Sirhowy yn gostwng ychydig. |
|
Adroddiad y Rheolwr Cofnodion: Cadarnhaodd P Dundon fod yr amlosgfa wedi cynnal Safon Aur. Swyddog Iechyd Amgylcheddol Torfaen - cydymffurfio'n llawn heb unrhyw faterion wedi’u hamlygu. Mae'n aros am yr adroddiad. Mae nifer yr amlosgiadau wedi cynyddu oherwydd Covid, 60-65 o amlosgiadau yr wythnos.
|
|
Adroddiad y Rheolwr Ionawr 2021 PDF 96 KB Cofnodion: Yn ystod y 28 diwrnod diwethaf hyd yma, mae tua 12,500 o bobl wedi edrych ar dudalennau gwe’r amlosgfa.
Siartr ar gyfer Galarwyr Mae'r amlosgfa wedi cadw ei Safon Aur yng nghynllun meincnodi cenedlaethol y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd. Prawf Allyriadau Blynyddol Yn ogystal â monitro allyriadau’n barhaus, mae angen i'r amlosgfa drefnu prawf allyriadau annibynnol blynyddol. Mae'r canlyniadau wedi'u derbyn, ac yn cadarnhau ein bod yn cydymffurfio â'n trwydded weithredu.
Arolygiad Cydymffurfiaeth Blynyddol Cynhaliwyd yr arolygiad blynyddol gan Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Torfaen i sicrhau cydymffurfiaeth â'n trwydded weithredu ar 8 Rhagfyr. Yn aros i dderbyn yr adroddiad llawn, ni nodwyd unrhyw faterion ar y diwrnod, felly rhagwelir y bydd cydymffurfiaeth lawn yn cael ei chadarnhau maes o law.
|
|
Rheoli Cyfleusterau Cofnodion: Dywedodd K Donovan, Norse fod y cerrig palmant wedi'u cwblhau. Cyfarfu â P Dundon ac edrychon nhw o gwmpas yr Amlosgfa i weld beth ellid ei wella i'w gwneud yn fwy deniadol i'r cyhoedd. Byddant yn cyflwyno rhai syniadau yn y cyfarfod nesaf. Dywedodd P Dundon yr hoffen nhw wella'r mannau aros a’r toiledau a hefyd edrych ar y Llyfr Cofio. Mae pryfed heidiog hefyd yn broblem. Dywedodd y Cynghorydd R Jeavons ei fod yn cael cyfarfodydd Covid bob wythnos a bod niferoedd gormodol wedi’u codi. |