Cofnodion

Cyd-Bwyllgor Amlosgiad Gwell Gwent - Dydd Mercher, 29ain Medi, 2021 10.00 am

Cyswllt: Meryl James, Governance Officer 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Y Cynghorydd M. Moore, y Cynghorydd J. Hughes, y Cynghorydd Pratt, y Cynghorydd Meredith, Joanne Gossage, a Steve Tom.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 105 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021 ac fe’u cymeradwywyd yn gofnod gwir a chywir.

4.

Cytundeb Prydles Ffotofoltäig Solar Amlosgfa Gwent pdf icon PDF 575 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon – Mathew Preece

 

Rhoddodd y Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon (MP) gyflwyniad i'r Pwyllgor mewn perthynas â Gr?p Ynni Cymunedol Cymru (Egni Co-op) yn cynnig gosod paneli solar ar doeau gwastad a thoeau ar oleddf yn Amlosgfa Gwent.

 

Mae angen i sector cyhoeddus Cymru gyfan gael ei ddad-garboneiddio erbyn 2030. Mae gosod ynni adnewyddadwy fel paneli solar yn un o'r atebion gorau i ddatgarboneiddio unrhyw drydan y mae'r safle yn ei ddefnyddio.

 

Er bod Amlosgfa Gwent yn cael ei rheoli gan y Cyd-bwyllgor, Cyngor Dinas Casnewydd sy'n gyfrifol am yr allyriadau carbon o'r adeilad. Felly, mae angen i Gyngor Dinas Casnewydd lunio strategaeth i ddatgarboneiddio'r safle hwnnw er mwyn i’r Cyngor fwrw ei darged o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Dywedodd MP wrth y Pwyllgor fod gr?p ynni Egni Co-op wedi cysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd yn ôl yn 2018 gyda'u cynnig i osod paneli solar ar do nifer o'i adeiladau. Cynhaliwyd gwerthusiad busnes ac ystyriwyd bod y dull perchnogaeth gymunedol penodol hwn yn fwy effeithiol na'r Cyngor yn ei wneud ei hun yn fewnol.

 

Dros yr 18 mis diwethaf, mae systemau paneli solar wedi'u gosod ar doeau 27 o safleoedd, gan gynyddu capasiti cynhyrchu ynni Cyngor Dinas Casnewydd o 35kW i 2300kW. Esboniodd y Swyddog i roi syniad o'r raddfa hon; byddai hyn yn 390 o baneli unigol i 7000 o baneli. Roedd hyn dim ond yn bosibl drwy ddefnyddio'r model ynni cymunedol hwn oherwydd diffyg adnodd mewnol y Cyngor i allu rheoli'r raddfa honno o waith mewn cyfnod mor fyr.

 

Y Trefniant

Siaradodd y Swyddog am drefniant y Model Perchnogaeth Ynni Cymunedol a sut mae'n gweithio.  Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen oedd perchnogion cyfreithiol yr Amlosgfa a byddai angen iddo roi Prydles 21 mlynedd ar gyfer gofod to i'r gr?p ynni cymunedol. Fodd bynnag, byddai cytundeb gefn wrth gefn rhwng Torfaen a Chyngor Dinas Casnewydd, fel rheolwyr yr adeilad, i gydymffurfio â rhwymedigaethau'r landlord yn y brydles ac i indemnio Torfaen yn unol â hynny. Byddai Cytundeb Prynu P?er hirdymor yn cael ei roi ar waith i werthu p?er o'r paneli i'r Cyd-bwyllgor ar gyfradd ffafriol, a sicrhawyd y byddai hyn yn llai na'r tariffau ynni presennol. Bydd Egni Co-op yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw yn ystod y 21 mlynedd ac yn talu costau'r holl yswiriant angenrheidiol. Os oes angen symud y paneli am ryw reswm ar gyfer gwaith yn ystod y 20 mlynedd, bydd Co-op Egni yn talu iddynt gael eu symud a'u hailosod yn ystod tymor y Brydles. Ar ôl i’r Brydles 21 mlynedd ddod i ben, gall Egni Co-op naill ai drosglwyddo perchnogaeth o'r gosodiad i'r Cyd-bwyllgor neu symud y gosodiad ar eu cost. 

 

Wrth wneud hynny, byddai'r Cyd-bwyllgor yn cael y budd llawn o'r paneli solar o'r pwynt hwnnw.

 

Mae opsiwn i brynu'r system gyfan yn ystod y Brydles, os teimlir ei bod yn well gwerth am arian. Nodwyd y byddai Amlosgfa Gwent yn talu 10%  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Monitro'r Gyllideb 2021/22 pdf icon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Partner Busnes Cyllid (JH) y sefyllfa monitro’r gyllideb i'r Pwyllgor fel ar ddiwedd mis Awst.

 

Esboniodd y swyddog y rhagwelir lleihad mewn incwm o £254,000.00. Bydd gwariant yn cael ei orwario £142,000 gan roi diffyg cyffredinol o £396,000 cyn unrhyw ddosbarthiad.

 

Ar hyn o bryd mae dosbarthiad y gyllideb y cytunwyd arno ar gyfer eleni yn £950,000.  Os yw'r sefyllfa'n aros yn unol â’r hyn a ragwelir, gyda diffyg o £396,000 a chynnal y dosbarthiad presennol o £950,000, byddai'r Cyd-bwyllgor yn edrych ar dynnu £874,000 o falansau.

 

O ran y balansau, nododd JH eu bod yn £1.4 miliwn ar hyn o bryd, byddai cymryd yr £950,000 ohonynt yn gadael balans o £562,000. Dyma'r sefyllfa ddiwedd mis Awst felly y gobaith yw y bydd y sefyllfa hon yn gwella.

 

Rhoddodd JH wybod am yr amrywiadau a ragwelir ar y safle; gellid priodoli'r gorwariant i raddau helaeth i rywfaint o’r gwaith atgyweirio y bu'n rhaid i'r Cyngor ei wneud ac i’r angen i ddisodli’r uned cyfnewidydd gwres a’r ffan ar gyfer yr offer lleihau mercwri.

 

Roedd hyn yn angenrheidiol fel gwariant, hebddo, ni fyddai dau o'r amlosgwyr yn gweithio.

 

Mae cynnydd yng nghostau'r safle dros y pedair blynedd diwethaf, mae costau cysylltiedig â’r safle wedi cynyddu 44%. Dywedodd y swyddog fod hyn yn bennaf oherwydd oedran a natur yr offer sydd angen eu disodli a'u trwsio.

 

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaethau'n dangos tanwariant o £8000, sy'n tueddu i fod yn ymwneud yn fwy â’r gyllideb gwasanaethau a chyflenwadau annibynnol. Mae rhan o hynny wedi'i dynnu gan y ffaith bod y Pwyllgor wedi disodli'r teyrngedau gweledol a'r uwchraddiad sain; felly disodlwyd yr offer sain er mwyn galluogi teyrngedau gweledol. Mae hynny wedi'i dynnu o'r gyllideb gwasanaethau a chyflenwadau.

 

Mae'r gyllideb refeniw yn talu'r costau ar gyfer yr uwchraddiad sain llawn fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor i hyn ddod allan o gronfeydd wrth gefn.

 

Mae'r incwm ddiwedd mis Awst yn dangos rhagolwg o £254,000. Cyflwynodd y swyddog dabl i'r Pwyllgor a oedd yn dangos bod hyn o ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr amlosgiadau o gymharu â'r cyfnod diwethaf. Rhybuddiodd y swyddog ei bod yn rhy fuan i ragweld a fydd yn cynyddu.

 

Y risg y rhoddodd y swyddog wybod amdani i’r Pwyllgor yw bod diffyg a ragwelir o £874,000. Er mwyn sicrhau bod y dosbarthiad o £950,000 yn dal i gael ei fodloni, bydd yn rhaid tynnu swm sylweddol o gronfeydd wrth gefn i gynnal y sefyllfa honno.

 

Mae’r cynnydd mewn costau adeiladu o ganlyniad i’r angen i ddisodli’r boeler a'r ffan i sicrhau bod y ddau amlosgwr yn gweithio; y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau'r costau cynnal a chadw parhaus.

 

Atgoffodd JH y Pwyllgor i nodi'r man monitro'r gyllideb ddiwedd mis Awst ac i fod yn ymwybodol o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y cronfeydd wrth gefn a gedwir gan y Pwyllgor wrth ystyried y gwaith a grybwyllwyd yn yr adroddiad.

Croesawyd sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Gwnaeth y Pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Prisiau Teyrnged Gweledol pdf icon PDF 38 KB

Cofnodion:

Cododd y Cynghorydd Jeavons yr eitem hon er mwyn i'r pwyllgor edrych ar strwythur prisio ar gyfer y teyrngedau gweledol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeavons, pan edrychodd y Pwyllgor ar y diffyg a ragwelir o chwarter miliwn o bunnoedd, y gallai'r teyrngedau gweledol helpu gyda hynny, gan fod amlosgfeydd eraill hefyd yn cynnig y cyfleuster hwn.

 

Awgrymwyd i'r Pwyllgor y dylai edrych yn fanwl ar hyn gan fod y Cynghorydd Jeavons yn cytuno gyda'r syniad o osod y teyrngedau, gan mai dyna’r hyn mae ymwelwyr ei eisiau.

 

Nododd y Cadeirydd fod Amlosgfa Gwent ychydig yn rhatach na'r cystadleuwyr eraill ar bob un o'r elfennau.

 

Nodwyd yr awgrym hwn gan y Pwyllgor i'w ystyried

7.

Adroddiad y Trefnydd Angladdau

Cofnodion:

Anfonodd y Trefnydd Angladdau ei ymddiheuriadau felly dim i'w drafod yn y cyfarfod presennol.

8.

Adroddiad y Rheolwr pdf icon PDF 97 KB

Cofnodion:

Nododd Rheolwr y Tîm (PD) fod gwerthiannau cofebion bob amser yn newid ond bod niferoedd amlosgiadau wedi tyfu. Ar hyn o bryd mae Amlosgfa Gwent yn elwa o'r teyrngedau gweledol sy’n boblogaidd. Mae'r opsiwn hwn wedi creu refeniw ychwanegol trwy wasanaethau. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ar yr hyn y mae'r ymwelwyr yn ei weld.

 

Mae hefyd yn arwain at fwy o amlosgiadau gan fod sefyllfaoedd lle byddai pobl yn mynd i angladdau eraill gan fod gan leoedd eraill y cyfleuster hwn pan nad oedd gan Amlosgfa Gwent.

 

Mae'r niferoedd ar gyfer angladdau bellach yn tyfu’n fawr ac mae Amlosgfa Gwent yn llawn bron bob dydd sy'n dda ar gyfer refeniw.

 

Gwefan

Mae'r wefan yn boblogaidd iawn oherwydd y llai o ryngweithio wyneb yn wyneb o effaith y pandemig.

 

Gosod Offer Sain

Aeth popeth yn ôl y bwriad o ran gosod yr offer sain. Roedd gan y tîm ychydig ddyddiau o amser segur felly cafodd y gwaith ei wneud ar yr un pryd. Felly ni wnaeth yr amlosgfa golli mwy o ddefnydd o'r adeilad nag yr oedd angen.

Mae'r gwelliant yn boblogaidd iawn ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn y capel.

 

Awgrym Sgrin gan y Cwmni Cyfryngau

Awgrymwyd gwelliant pellach i Reolwr y Tîm gan y Cwmni Cyfryngau.

 

Dywedodd y cwmni y gallai'r amlosgfa ddisodli'r sgrin 50 modfedd yn ardal y clwysty, gyda gwaith gwifrau ac offer trydan ychwanegol. Er mwyn sicrhau, pan fo teyrngedau gweledol yn cael eu harddangos ar y sgrin deledu, yn hytrach na gweld delwedd y camera o fewn y capel yn unig, byddai sgrin y clwysty’n dangos y teyrngedau gweledol felly byddai'r sgrin lawn yn cael ei llenwi â delweddau o'r hyn y mae'r teulu wedi’i awgrymu.

 

Nodwyd bod hyn yn sicr yn rhywbeth y mae cystadleuwyr yr amlosgfa yn ei gynnig.

 

Rhoddwyd pris o £2885 i PD gan gynnwys yr holl geblau a’r gwaith gosod. Nid oes angen gwneud hyn ond os yw'r pwyllgor yn ei gymeradwyo, yna gallai'r rheolwr drefnu iddo gael ei wneud.

 

Strwythur Prisio – eitemau dewisol

Mae'r pwyllgor eisoes wedi cymeradwyo'r gost am deyrngedau gweledol ond yn dilyn hynny mae'r rheolwr wedi cael gwybod am bethau eraill y gallai'r amlosgfa eu gwneud ond nid oedd yn gwybod pryd y byddai'r gwaith gosod yn cael ei wneud.

Nododd PD syniad pwysig ar gyfer y rhestr brisiau, i'r cyfleuster godi £75 am archebion a wneir ar ôl y torbwynt ar gyfer archebu teyrngedau gweledol (mae'r torbwynt ar ôl 72 awr). Nid oes unrhyw elw wrth wneud hyn, ond mae'n ffi y mae'r cwmni'n ei chodi gan anfon delweddau o'r fath yn hwyr yn achosi anhawster. Felly byddai'n fater o anfon y ffi yn ôl at y teuluoedd.

 

Awgrymodd PD ddileu'r ffioedd presennol ar gyfer recordiadau CDau, USBau a DVDau, nid yw CDau erioed wedi bod yn boblogaidd ac mae'r cwmni cyfryngau yn cael trafferth gwneud y rhain gan fod y rhan fwyaf o'r staff yn gweithio gartref nawr.

Awgrymwyd ailenwi'r eitemau hyn, cadw'r ffi £92 a chynnig ffeiliau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Eitemau Eithriedig neu Gyfrinachol

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y wasg a'r cyhoedd wrth ystyried yr eitemau canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig dan Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd manylion ariannol cyfrinachol.