1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meryl Lawrence  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T Watkins fuddiant yn y Gwasanaeth Eiddilwch y cyfeirir ato yn yr Achos Busnes dros Gynnig 4, gan fod aelod o'r teulu wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth yn ddiweddar.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 a 19 Tachwedd 2019 yn gofnod gwir a chywir.

 

3.

Rhagamcanion Ariannol Cyllideb a Thymor Canolig 2020-21 pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

-             Chris Humphrey, Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl

-             Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-             Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg

-             Clare Watts – Uwch Bartner Busnes Cyllid

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl ymddiheuriadau Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor, gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

Cynnig 1 - AS2021/04 – Gostyngiad yng Nghyllideb Cyfleoedd Dydd

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod yr arbedion arfaethedig o £100k yn danwariant, o ganlyniad i nifer y bobl a fynychodd y gwasanaeth Cyfleoedd Dydd leihau. Cynigiwyd amrywiaeth o weithgareddau dros wythnos, ond rhai yn y gymuned yn hytrach nag mewn un ganolfan, felly roedd y ddarpariaeth a'r staffio gofynnol wedi'u haddasu yn unol â hynny.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Dwedodd Aelod fod y ffigur tanwariant o £100k yn sylweddol a gofynnodd o le y daeth y ffigur hwn a gofynnodd am bartneriaethau gyda'r Sector Iechyd a Gwirfoddol.

Dwedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod y Gwasanaeth Dydd Iechyd Meddwl ym Mrynglas wedi gostwng o 5 diwrnod i 3 diwrnod. Roedd y Gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd wahanol drwy ddarparu cymorth yn y gymuned a thrwy weithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd ac asiantaethau fel MIND a Growing Spaces.  Roedd unrhyw swyddi gwag wedi'u cadw hefyd.

      Holodd Aelod sut y gellid cynnal mwy o wasanaethau mewn sefydliadau trydydd sector, o ystyried y gostyngiad yn y cyllid / cyllidebau yr oedd rhai o'r sefydliadau yn eu hwynebu.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod rhai o'r partneriaid hynny wedi llwyddo i dynnu cyllid i lawr o ffynonellau eraill, a'u bod wedi gweithio'n agos gyda'r sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau, gan fod cyllid sicr ganddynt.   Er bod y sefydliadau wedi bod yn rhan o'r datblygiad, roedd cyllid yn parhau i fod yn her i awdurdodau lleol a'r Trydydd Sector a chydnabuwyd nad oedd unrhyw sicrwydd ar gyfer cydnerthedd yn y dyfodol.

Cynnig 2 - AS2021/05 - Gwasanaeth Teleofal

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod gwaith ar ad-drefnu'r gwasanaeth wedi bod ar y gweill ers tro.  Yn fewnol yn bennaf yn y gorffennol, darparwyd y gwasanaeth bellach mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy i osod offer a gyda Chyngor Caerffili i fonitro galwadau.  Roedd y Gwasanaeth wrthi'n tynnu'n ôl o'r contract gwasanaeth blaenorol gyda Theleofal Caerwrangon ac roedd hefyd wedi gallu tynnu arian i lawr o'r Gronfa Gofal Integredig a thynnu offer i lawr ar gais, fel na fyddai’n mynd yn rhy hen.  Roedd cost y Gwasanaeth wedi'i safoni fel bod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael yr un tâl ac yn derbyn yr un lefel o wasanaeth, a oedd wedi gwneud costau rhedeg y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy ac roedd yn wasanaeth gwell.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Gofynnodd Aelod a oedd cynnydd yn y gost i'r defnyddiwr a pha ddefnydd oedd yn cael ei wneud o dechnoleg newydd.

Eglurodd y Cyfarwyddwr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.