Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 8fed Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Governance Team  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 pdf icon PDF 114 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

Holodd aelod am y paragraff olaf ar dudalen 7, a yw'r polisi Tegwch a Chydraddoldeb wedi'i gyhoeddi? Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoliadau wrth y pwyllgor y byddai'r camau gweithredu o'r cyfarfod hwn wedi'u cwblhau cyn y Gyllideb, felly byddent wedi'u cyhoeddi.

 

4.

Rhaglen Blaen-waith Flynyddol 2020-21

Cofnodion:

Yn Bresennol

 – Gareth Price (Pennaeth y Gyfraith a Rheoliadau)

 

Cyflwynwyd yr eitem i'r pwyllgor gan y Cadeirydd. Awgrymwyd y dylai'r pwyllgor edrych ar adroddiad Nodau Adfer Strategol Covid y cytunwyd arno yng nghyfarfod y Cabinet ar 24 Mehefin 2020. Byddai'r Aelodau'n gallu craffu ar ymateb y Cyngor yn y meysydd sy'n ymwneud â'r pwyllgor.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-       Pryd bydd y pwyllgor yn cael y cynlluniau gwasanaeth chwe-misol nesaf.

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddant yn dod i law erbyn mis Tachwedd 2020 fan bellaf. Maent yn mynd trwy lawer o ddiweddaru ar hyn o bryd. Y gobaith yw y bydd un neu ddau o’r cynlluniau yn barod ym mis Hydref.

 

-       Mynegodd yr Aelodau bryder y cynghorwyd yr Aelodau y bydd yr agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet ar 16 Medi 2020 yn cael ei chyhoeddi yfory. Bydd yn cynnwys yr adroddiad am Covid a fydd yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae gwasanaethau yn ei wneud. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod yn gallu gweld darllediad byw o'r cyfarfod.

 

-       Dywedodd yr Aelodau yr hoffent weld sut mae'r lleoliadau ar gyfer plant na allant fynychu ysgolion prif ffrwd, a phlant sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal, wedi ymdopi yn ystod y pandemig.

 

-       Dywedodd yr Aelodau nad oes dyddiadau yn yr adroddiad ar gyfer pryd y bwriedir cyflawni’r Nodau Adfer Strategol Covid. A fydd dyddiadau'n cael eu cyhoeddi neu a yw'n ddogfen am yr hyn y mae'r Cyngor yn gobeithio ei gyflawni?

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y pwyllgor fod y ddogfen yn ymwneud â nodau strategol lefel uchel sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol a'r amcanion Llesiant, felly yn erbyn yr amcanion penodol hyn nid oes dyddiad penodol. Fodd bynnag, os bydd y pwyllgor yn ymchwilio i gynlluniau gwasanaeth, bydd camau gweithredu ac amcanion ar gyfer pob gwasanaeth ym mhob un o'r nodau strategol hyn.

O fewn y cynlluniau gwasanaeth hynny, bydd gwasanaeth yn pennu dyddiad penodol a dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r camau hynny.  Bydd yr holl fanylion yn ymddangos yn y cynlluniau gwasanaeth a'r cynlluniau perfformiad ar gyfer eleni.

 

-       Mynegwyd pryder nad oedd preswylwyr yn gallu cael gafael ar gymorth a gwybodaeth gan fod yr Orsaf Wybodaeth a desg y dderbynfa yn y Ganolfan Ddinesig ar gau yn ystod y pandemig, ac roedd amserau aros hir i alwadau gael eu hateb. Pa gynlluniau sydd ar waith i ailagor y sianeli hyn?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y manylion hyn yn cael eu rhoi pan fydd gwasanaethau eraill yn adrodd yn ôl am ba gamau y maent yn eu cymryd o ran y Normal Newydd a Ffyrdd Newydd o Weithio, a gaiff eu cynnwys yn y nodau strategol a fydd yn mynd gerbron y Cabinet. Bydd adroddiad manwl am yr hyn mae Gwasanaethau Cwsmeriaid yn bwriadu ei wneud a beth yw’r bwriad o ran ailagor adeiladau cyhoeddus a'r Orsaf Wybodaeth, gan gydnabod na all pethau byth fynd yn ôl yn llwyr i'r ffordd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Webcast of Meeting

To view the webcast, please click the link below:

 

https://youtu.be/VKtUDgPjAsQ