1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Scrutiny Advisor

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2018 pdf icon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod yn gofnod  gwir a chywir o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5Mehefin 2018.

 

3.

Diweddariad Perfformiad Maes Gwasanaeth - Diwedd Blwyddyn 2017-2018 pdf icon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Addysg  

 

Yn bresennol:

-          Sarah Morgan – Pennaeth Addysg

-          Andrew Powles – Dirprwy Bennaeth Addysg

 

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg ei hun a’r Dirprwy Bennaeth Addysg, ac eglurodd y rheswm pam fod angen i’r Aelod Cabinet ddarparu ei hymddiheuriadau. Mynegodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor eu siom nad oedd yr Aelod Cabinet yn gallu bod yn bresennol. Cydnabu’r Pwyllgor nad oedd yr Aelod Cabinet wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol sydd wedi golygu nad yw’r Pwyllgor wedi cael y cyfle i drafod perfformiad Addysg gyda’r Aelod Cabinet, ac ymgymryd â’i rôl o ddwyn y weithrediaeth i gyfrif.

 

Roedd amser cychwyn y cyfarfod hwn wedi’i ddwyn ymlaen i 9.30am er mwyn caniatáu i’r Aelod Cabinet fynd i ddigwyddiad arall am 12pm.

 

Gofynnodd yr Aelodau i’r Pennaeth Addysg a oedd craffu ar y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), ac os felly sut yr ymgymerwyd â hyn. Roedd awdurdodau lleol (ALl) yn atebol am safonau ysgolion ac roedd ysgolion yn cael eu dwyn i gyfrif. Roedd ysgolion a gategoreiddiwyd fel GWYRDD neu FELYN wedi ennill rhywfaint o ymreolaeth, gydag ysgolion OREN a CHOCH yn cael cymorth ychwanegol gan yr awdurdod lleol.  Pan fyddai ysgolion yn cael eu nodi’n OREN neu’n GOCH byddai gofyn i’r awdurdodau lleol gydnabod hyn ac ymateb yn briodol. Roedd gan Gasnewydd bedair ysgol GOCH, a oedd yn cynnal cyfarfodydd gyda’r awdurdod lleol a’r  Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn fisol, ac roedd ysgolion OREN yn cynnal cyfarfod bob chwe wythnos. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth unwaith y bydd yr ysgolion yn cydnabod eu sefyllfa, a’r gefnogaeth yn cael ei dderbyn, mae’r dull o gefnogi’n gweithio’n dda.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd ysgolion GWYRDD a MELYN yn cael eu monitro’n briodol i sicrhau eu bod yn perfformio. Dywedodd y Swyddog eu bod yn edrych ar berfformiad ym mhob ysgol a bod ganddynt systemau olrhain i fesur canlyniadau. Roedd ysgolion hefyd yn cael eu monitro gan y Prif Gynghorwyr Herio gyda 25% o’r Cynghorwyr Herio yn Benaethiaid. Dywedodd y Swyddog ei bod yn aelod o Fwrdd Rhanbarthol Cymru a oedd yn craffu ar gategoreiddio ysgolion awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hyn yn sicrhau bod ysgolion ar draws Gwent yn wynebu categoreiddio safonedig.

 

Gofynnodd yr Aelodau, os gallai’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wella’r cymorth er mwyn i’r ysgolion wella, a oedd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn rhoi digon o gymorth i’r ysgolion COCH i’w tynnu allan o’r categori hwnnw, a pha mor hir y byddai’n ei gymryd. Dywedodd y Swyddog, os oedd angen cymorth ychwanegol ar yr ysgolion, bod cyfarfodydd misol lle gellid trafod unrhyw faterion, yn ogystal â Chynghorwyr Herio y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn darparu 25 diwrnod o gymorth i ysgolion COCH. Isafswm yn unig oedd y 25 diwrnod, a phe bai angen, gallai ysgol gael rhagor. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod ysgol St Julians, er enghraifft, ar i fyny, ond ni allai ddweud pryd y byddai’n dod allan o fesurau arbennig.

 

Holodd yr Aelodau pryd y gwnaeth Estyn eu gwaith monitro, ac a oeddent wedi rhoi  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Craffu yr adroddiad i’r Aelodau ac amlinellodd ddiben yr adroddiad wrth geisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i eitemau ar ei raglen waith ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf.

Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a’r eitemau i’w hystyried yn ystod y ddau gyfarfod nesaf.

 

Rhoddodd y Cynghorydd T Watkins ei ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod briffio’r Pwyllgor ar 17 Gorffennaf.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm.