1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Adolygiadau o Gynlluniau Gwasanaeth Canol Blwyddyn 2018-19 pdf icon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygiadau Canol Blwyddyn o Gynlluniau Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol bob un o'r pum amcan yn unigol a gofyn i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau a oedd yn berthnasol ar y pryd.

Amcan 1

                Holodd y Pwyllgor a oedd y Fforwm Darparwyr IAA wedi cael ei weithredu neu ar y gweill, a gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ynghylch yr amcan. Eglurodd y Swyddog fod y Fforwm IAA yn gysylltiedig â'r Cyd-fforwm Llywio Gofal, ac y byddai'r Awdurdod yn cydweithio'n agos â phartneriaid i integreiddio'n well yn y gwasanaeth IAA. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod proses wedi bod ar y gweill i sefydlu partneriaid allweddol ar gyfer y gwasanaethau IAA.

                Gofynnodd Aelod i'r Swyddogion a oedd unrhyw asiantaethau eraill fel Sight Cymru o fewn Partneriaeth y Trydydd Sector. Atebodd yr Aelod Cabinet drwy esbonio nad oedd yr Awdurdod yn ymwybodol o unrhyw asiantaethau eraill fel Sight Cymru o fewn Consortiwm y Trydydd Sector. Dywedodd hefyd fod Gwasanaeth Sight Cymru wedi cael effaith gadarnhaol, oherwydd cyn hynny byddai pobl yn aros hyd at ddwy flynedd am asesiadau.

                Holodd yr Aelodau sut roedd yr Awdurdod yn rheoli ac yn monitro corff allanol.

Atebodd y Swyddog drwy ddweud bod yr Awdurdod yn edrych ar lefel y gwasanaeth yr oedd y corff allanol yn ei ddarparu i'r Awdurdod ac i ddinasyddion Casnewydd. Eglurodd y Swyddog fod yr Awdurdod yn casglu gwybodaeth o ymweliadau â staff, yn monitro cwynion, ac yn siarad â Gweithwyr Cymdeithasol i sicrhau bod contractau'n cael eu cyflawni. Gofynnodd yr Aelodau hefyd i'r Swyddogion beth fyddai wedi digwydd o ganfod methiannau yn y gwasanaeth. Esboniodd y Swyddog nad oedd yr Awdurdod erioed wedi dod ar draws y sefyllfa honno, ond pe bai'n codi y byddai nifer o fesurau a phrosesau'n cael eu rhoi ar waith. Roedd y mesurau a'r prosesau hyn yn cynnwys sefydlu cynllun gwella, pennu amserlen i ddatrys y sefyllfa, monitro'r gwelliannau, gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Hyb Diogelu, a phe bai'r problemau'n bodoli o hyd, byddai'r Adran Gontractau yn cael ei chynnwys.

                Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch digwyddiad o'r gorffennol pan na wnaeth Cartref Nyrsio ddarparu gwasanaeth yn unol â'r contract i breswylwyr y cartref. Gofynnodd yr Aelod beth fyddai'r gost pe bai'r sefyllfa honno'n codi eto.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl - wrth y Pwyllgor fod y sefyllfa hon yn anghyffredin iawn, ac nad oedd yr Awdurdod ond wedi gorfod cysylltu ag un darparydd gofal cartref ynghylch bodloni ei rwymedigaethau contract. Y manylion dan sylw oedd cadernid eu model busnes yn hytrach na lefel y gofal. Cytunai swyddogion y dylid gwneud pwynt gweithredu i gipio unrhyw sefyllfa neu faterion diogelu a allai godi yn y dyfodol.

                Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion faint o ddarparwyr gofal cartref sy'n gweithredu yng Nghasnewydd, a pha wiriadau a hyfforddiant a gynhelir i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diogelu.  Dywedodd y Swyddogion fod 26 o ddarparwyr gofal cartref yn byw yng Nghasnewydd. Mae'n rhaid i bob  ...  view the full Cofnodion text for item 2.