Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Cooke Scrutiny Adviser
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018 PDF 97 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26/11/2018 fel rhai cywir
|
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2018 PDF 95 KB Cofnodion: Cymeradwywydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 04/12/2018 fel rhai cywir
|
|
Y Gyllideb a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn bresennol: - Sarah Morgan – Prif Swyddog Addysg - Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg drosolwg bras o’r adroddiad i’w Pwyllgor ac amlygu’r meysydd allweddol i’w hystyried. Y cynnig am arbedion mewn Addysg oedd yr unig arbediad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor gan y Gyfarwyddiaeth Pobl. Pan oedd y Cyngor yn chwilio am arbedion, rhaid oedd cymryd i ystyriaeth yr oblygiadau statudol o ran addysg, a’r rolau oedd yn cael eu cyllido gan grantiau, oedd yn cyfyngu ar y meysydd posib lle gellid gwneud arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog fod y gweithlu mewn Derbyniadau eisoes wedi ei gwtogi, fod y darpariaethau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) dan ormod o bwysau, a bod sawl rôl, gan gynnwys Gwasanaeth Lleiafrifol Ethnig Gwent (GEMS) a Cherddoriaeth Gwent, yn cael eu cyllido gan grantiau. Gwelodd yr Awdurdod dwf yn niferoedd y disgyblion, a chafwyd cynnydd o £3.1 miliwn yn y gyllideb i dalu am hyn. • GofynnoddAelodau’r Pwyllgor i’r Prif Swyddog Addysg a ellid bod wedi gwneud y gostyngiad yn y gyllideb mewn unrhyw feysydd eraill yn yr Adran Addysg, a gofynnwyd hefyd i’r Swyddog lle byddai gostyngiadau yn cael eu gwneud yn y dyfodol, a beth fyddai’n digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Atebodd y Swyddog fod gan y Penaethiaid Gwasanaeth yn y sefydliad dasg enbyd o anodd i wneud arbedion o un flwyddyn i’r llall. Mae hyn yn arwain at graffu ar adrannau cyfan i weld lle byddai modd yn y byd gwneud arbedion. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud wrth y Pwyllgor na allai drafod pa feysydd eraill mewn Addysg oedd yn dod dan y chwyddwydr na pha feysydd Addysg allai wynebu toriadau y flwyddyn nesaf. • Holodd yr Aelodau a dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth gan yr ysgolion, neu a fu unrhyw gyfarfodydd, i gael gwybodaeth am farn eraill am yr arbedion arfaethedig. Cadarnhaodd y Swyddog fod ymgynghori yn digwydd gyda’r cyhoedd. Yr oedd cynrychiolwyr yr undebau llafur wedi lleisio eu pryderon, a byddai Fforwm Partneriaeth y Gweithwyr a Fforwm y Penaethiaid yn cwrdd cyn i’r ymgynghoriad gau. Esboniodd y Swyddogion yr anerchwyd y Penaethiaid mewn cyfarfod am y cynnig ar y gyllideb, ond na lwyddasant i awgrymu unrhyw arbedion gwahanol. • Mynegodd Aelod bryder am gynnig i dorri swydd Swyddog Lles Addysg (SLlA) a Seicolegydd Addysg. Dywedodd Aelodau y byddai lleihau rôl y SLlA yn debygol o gael sgîl-effaith ar ganlyniadau presenoldeb, ac y byddai Estyn yn beirniadu hyn. Teimlai’r. Aelodau y byddai angen ad-drefnu er mwyn rhoi cefnogaeth i bob ysgol yng Nghasnewydd. Esboniodd y Swyddog fod y staff mewn swyddfeydd cefn, nad oedd mor weladwy, yn denu cymaint o deimlad, ac esboniodd mai dim ond tri aelod o staff swyddfa gefn oedd yno i gefnogi Casnewydd gyfan. Ychwanegodd y Swyddog ei bod yn bwysig cadw staff rheng-flaen ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 112 KB A) Forward Work Programme
B) Action’s from the 26 November 2018 and the 4 December 2018 Meetings Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol: Daniel Cooke (Ymgynghorydd Craffu) a) Cyfoesiad am y Blaen-raglen Waith Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Blaen-raglen waith, a hysbysu’r Pwyllgor am y pynciau fyddai’n cael eu trafod yn nau gyfarfod nesaf y pwyllgor. 19 Chwefror 2019; • Fframwaith a Deddf ADY - Briffio 9 Ebrill 2019; • Trosi o Wasanaethau Cymdeithasol Plant i Oedolion b) Camauyn Codi Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y Daflen Weithredu a dywedodd wrth y Pwyllgor, fel y nodwyd yn y tabl, fod y camau o’r cyfarfod diwethaf wedi eu dwyn i sylw’r Swyddogion perthnasol, a bod y Tîm Craffu yn aros am eu hymateb, cyn rhoi’r wybodaeth i’r tîm. |