Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Cooke Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: Cymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2018 yn gywir.
|
|
Adolygu Cynllun Gwasanaeth Canol Blwyddyn - Addysg PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol: - Cynghorydd Gail Giles - Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau - James Harris - Cyfarwyddwr Strategol - Pobl - Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg - Martin Dacey - Pennaeth Addysg Cynorthwyol - Katy Rees – Pennaeth Addysg Cynorthwyol – Cynhwysiant Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg drosolwg byr i'r Pwyllgor a thynnu sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried yn yr adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau a ganlyn: • Trafododd yr Aelodau gyflwyniad yr adroddiad a'r ymdeimlad bod angen mwy o fewnwelediad a manylion yn niweddariad y Swyddog. Buont hefyd yn trafod y ffaith nad oedd teitlau ar echelin y graffiau ar y dudalen flaen, a bod nifer o broblemau fformatio drwy gydol y ddogfen. Wrth ddefnyddio unrhyw fyrfoddau, dywedodd yr aelodau y dylid nodi'r enw yn llawn y tro cyntaf. Dywedodd y Swyddogion fod modd iddynt fynd i'r afael â'r defnydd o fyrfoddau yn yr adroddiad, ond bod y graffiau ac unrhyw broblemau fformatio y tu hwnt i'w rheolaeth. Eglurodd y Cynghorydd Craffu y byddai adborth y Pwyllgor yn cael ei gyfleu wrth y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil. • Gofynnodd yr Aelodau am y newyddion diweddaraf ynghylch ailfodelu'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD). Ymddiheurodd y Prif Swyddog Addysg, gan esbonio nad oedd yr adroddiad ar gael ar hyn o bryd. Eglurodd y Swyddog fod gwaith cynllunio gofalus wedi'i wneud yn gysylltiedig ag ailfodelu'r UCD. Roedd yr Awdurdod i ddechrau wedi bod yn chwilio am adeilad a oedd yn ddigon mawr i gynnwys yr UCD wedi'i hailfodelu. Roedd hyn wedi golygu llawer o waith cefndir, a oedd yn cynnwys asesu asedau cyfalaf, faint o gyfalaf a oedd dros ben, a dadansoddi tueddiadau blaenorol a thueddiadau a oedd yn dod i'r amlwg i sicrhau y byddai'r UCD yn parhau i fod yn addas i'r diben. Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod gan Estyn hyder yn strwythur rheoli ac arwain yr UCD newydd. Roedd y strwythur rheoli ac arwain newydd hwn wedi cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar lefelau staffio a salwch, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yng nghyflawniad y bobl ifanc. • Holodd yr Aelodau a oedd gan yr Awdurdod unrhyw bobl ifanc o'r tu allan i'r sir yn mynychu'r UCD? Os felly, beth oedd y costau trafnidiaeth yn gysylltiedig â hynny, a phwy oedd yn talu? Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw bobl ifanc ar leoliadau Allsirol yn yr UCD, a bod CDC yn olrhain ac yn rheoli unrhyw gostau trafnidiaeth. • Mewn rhai ysgolion, dywedodd Aelod fod disgyblion Blwyddyn 13 yn gweithredu fel mentoriaid dysgu i ddisgyblion iau sydd angen cymorth ychwanegol. Gofynnodd yr Aelod a oedd hynny ar waith ym mhob ysgol. Dywedodd y Cadeirydd, os oedd hynny'n digwydd, mae'n rhaid bod y disgyblion dan sylw wedi'u dewis yn ofalus, ac nad oedd y cynllun ond wedi'i sefydlu i ysbrydoli'r disgybl a oedd angen cefnogaeth ychwanegol. Dywedodd Aelod arall na ddylid defnyddio mentoriaid dysgu fel athro ar blant. Atebodd y Swyddog drwy ddweud nad oedd ond yn gallu gwneud sylwadau ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 126 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Information Reports c) Scrutiny Letters
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol: Daniel Cooke – Cynghorydd Craffu a) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith Cyflwynodd y Cynghorydd Craffu y Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor pa bynciau fyddai'n cael eu trafod yn nau gyfarfod nesaf y pwyllgor. Dydd Mawrth 4 Rhagfyr, yr eitemau ar yr agenda; Cynllun Gwasanaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol - Adolygiad Canol BlwyddynCynllun Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc – Adolygiad Canol Blwyddyn Dydd Mawrth 15 Ionawr 2019, yr eitem ar yr agenda: Cynigion y Gyllideb Ddrafft Rhoddodd y Cynghorydd Joan Watkins ymddiheuriad am y cyfarfodydd ar 4 Rhagfyr 2018 ac 15 Ionawr 2019. Rhoddodd Rebecca Penn ymddiheuriad am y cyfarfod ar 15 Ionawr 2019. b) Camau Gweithredu'n Codi Dim c) Adroddiadau Gwybodaeth Dim. d) Llythyrau Craffu Dim.
|