Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 11eg Mehefin, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cafoddcofnodion y cyfarfod ar 9 Ebrill 2019 eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

Soniodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor am ohebiaeth a dderbyniwyd gan yr Aelod Cabinet - Addysg a Sgiliau yngl?n â chofnodion cymeradwy’r Pwyllgor o’i gyfarfod ar 19 Chwefror 2019. Roedd yr Aelod Cabinet dan sylw yn poeni nad oedd ei chyfraniadau i’r cyfarfod wedi cael eu priodoli’n uniongyrchol iddi hi. Amlinellodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor fod y cofnodion wedi cael eu gwirio a’i fod yn fodlon bod y cynnwys yn gywir, er nad oedd y sylwadau wedi’u priodoli i wahoddedigion penodol. Cytunwyd y byddai sylwadau a wneir yn y dyfodol gan yr Aelodau Cabinet yn cael eu priodoli iddyn nhw yn ôl eu teitl yn y cofnodion. Cododd Aelodau’r Pwyllgor bryderon y dylai newid yn y status quo gael ei drafod yn ehangach gan y Cadeiryddion / Pwyllgorau Craffu eraill.  Rhoddodd aelodau o’r Pwyllgor sylw mai diben y cofnodion oedd rhoi tystiolaeth o’r ddadl a’r sicrwydd a roddwyd gan y gwahoddedigion, ac a oedd sylwadau ddim wedi’u priodoli i aelodau unigol am y rheswm hwn yn y gorffennol? Nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi cyfrannu’n llawn i’r cyfarfod ar 19 Chwefror 2019.

Cefnogodd y Pwyllgor sylwadau a gweithredoedd y Cadeirydd yn hyn o beth, a chytuno i briodoli sylwadau i Aelodau Cabinet yn y cofnodion pan fo’n briodol.

 

3.

Adroddiadau pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn Bresennol:

 

- Y Cynghorydd Paul Cockeram - Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

- James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

- Chris Humphreys – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad, gan roi trosolwg i’r Pwyllgor o’r prif gyflawniadau o fewn y Gwasanaeth. Yn ystod y cyflwyniad, amlinellodd yr Aelod Cabinet y gwaith cadarnhaol oedd wedi cael ei wneud yn ystod amseroedd ariannol anodd iawn. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw’r Pwyllgor at y Dangosydd Perfformiad

 (DP) yn ymwneud ag Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal. Esboniwyd bod y newid i GOCH wedi digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn,

er bod y DP wedi’i gategoreiddio yn GOCH. Roedd y chwe diwrnod yn

dal yn llwyddiant mawr, o’i roi yng nghyd-destun y pum mlynedd diwethaf,

roedd y daith i gyflawni’r hyn yr ydoedd eleni i’w briodoli i’r ffordd y cafodd y gwasanaeth ei reoli a’i gefnogi. Nid y rhai hynny oedd yn yr ysbyty a wardiau acíwt oedd wedi achosi i’r ffigwr Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal

godi, ond y rhai hynny yn yr ysbytai cymunedol

gydag afiechydon gwanhaol a hirdymor. Y bobl hyn oedd angen llawer mwy o ymyrraeth a chefnogaeth i adael yr ysbyty, ac asesiadau hirach i sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu bodloni wrth lunio eu pecyn gofal.

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth wybodaeth fanwl am yr heriau a’r targedau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol oedd yn newid ac yn esblygu yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn golygu bod nifer o gamau gweithredu a Dangosyddion Perfformiad yn annilys. Cafodd y diffiniad o ba bobl oedd yn cyfrif tuag at ffigyrau ail-alluogi eu newid yn ystod y flwyddyn gan achosi problemau gydag adrodd ar gyfer y flwyddyn.

Canmolodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl yr Aelod Cabinet a’r Swyddogion am y ffordd y rheolon nhw’r gyllideb Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol. Roedd cadw cyllideb o dros 40 miliwn o fewn un y cant yn llwyddiant mawr, yn arbennig o gofio’r cefndir o alw cynyddol a newidiadau parhaus. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi bod o gymorth mawr wrth ganiatáu i’r Cyngor reoli cystal. Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiynau canlynol;

 

·                A oedd ‘Cam Gweithredu 1.03 – Sefydlu fforwm darparwr IAA iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i rannu 

gwybodaeth ac arfer da’ wedi dechrau? Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor fod y gwaith tuag at gwblhau’r cam gweithredu hwn wedi dechrau.

 

·                Roedd y camau gweithredu a restrwyd rhwng tudalennau 18 a 23 yn y pecyn agenda ar y cyfan ‘Yn Mynd Rhagddynt’ ac eithrio un. Roedd rhai o’r Camau Gweithredu hyn ar gyfer  oes pum mlynedd y Cynllun Corfforaethol. Hoffai’r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth ar faint o gynnydd a wnaed ymhob un o’r Camau Gweithredu. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod hyn yn rhywbeth a gafodd ei drafod gyda’r Tîm Perfformiad a gynhyrchodd y Cynlluniau Gwasanaeth. Mae’n bosib y byddai’r Camau Gweithredu yn newid yn y dyfodol i rai oedd yn achlysurol, a ddim yn gamau gweithredu arferol  ...  view the full Cofnodion text for item 3.