Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 25ain Mehefin, 2019 10.00 am

Lleoliad: Canolfan Dinesig

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

2.

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn y Cynllun Gwasanaeth pdf icon PDF 116 KB

a)    Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

b)    Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Yn Bresennol:

- Y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

- James Harris, Cyfarwyddwr Strategol, Pobl

- Sally Anne Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc drosolwg bras i’r 

Pwyllgor gan dynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried. Roedd Gwasanaethau Plant yn dal i gynnig yr ystod lawn o wasanaethau statudol oedd eu hangen. Roedd eleni wedi bod yn flwyddyn aruthrol o brysur eto. Tua diwedd y flwyddyn roedd tîm rheoli wedi’i staffio’n llawn wedi gwella’r capasiti i ymgymryd â shifftiau pwysig i wella ymarfer ac ailstrwythuro yn unol â newidiadau allanol. Byddai’r newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu ar y cyfan erbyn diwedd 2019. Ymhlith llwyddiannau 2018/19 roedd morâl cadarnhaol ac ychydig iawn o swyddi gwag er gwaethaf y cefndir o alw uchel a nifer fawr o achosion cymhleth, sefydlu’r tîm Teulu a Ffrindiau, lansio gwasanaeth cynadledda’r Gr?p Teulu, agor Rose Cottage a’r gwasanaethau cynyddol yn yr adran Atal. Gofynnodd yr Aelodau’r canlynol:

 

·                Mynegodd un Aelod bryderon am sefyllfa ariannol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, gan ofyn am gyllideb y gwasanaeth ac a fyddai yna bwynt pan na ellid dod o hyd i gyllid i ariannu gwasanaethau. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod y gyllideb yn heriol ac na ellid osgoi gorwariant ar y gyllideb weithiau. Ar hyn o bryd dyw’r gwasanaeth ddim yn gallu gwneud cais am unrhyw  gymorth ariannol ychwanegol. Mae’r Adran yn rheoli’r gyllideb yn gyfrifol a lle mae’n bosibl mae’n cydweithio ag eraill ledled yr Awdurdod.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol fod cyfarfodydd misol gyda’r tîm Cyllid a’r Uwch-dîm Rheoli i drafod ymrwymiadau ariannol ac unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl yr oedd angen mynd i’r afael â nhw. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’r awdurdod wedi gallu ymdopi ag unrhyw orwario.

 

·                Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor i’r Swyddogion os oedd lleoliadau y tu allan i’r sir yn dod o dan y pennawd adnoddau yn nhabl Tîm y Gwasanaeth. Esboniodd y Swyddogion mai dim ond fel dewis olaf y caiff plant eu lleoli y tu allan i’r sir, ac mai’r nod yw i blant Casnewydd gael eu gofalu amdanynt yng Nghasnewydd. Roedd pob un o gartrefi plant yr Awdurdod yn llawn a’r nifer o rieni maeth yn gyfyngedig.  Roedd pob cam wedi’i gymryd i atal lleoliadau y tu allan i’r ardal, ond os nad oedd modd osgoi’r sefyllfa, gofalwyd y byddai hyn ond am gyfnod cyfyngedig. Yn achos plant anabl ag anghenion na ellir eu diwallu gan yr Awdurdod, byddai wedi bod yn anochel bod rhaid mynd y tu allan i’r sir i chwilio am lety addas. Roedd yr Awdurdod yn edrych i weithredu mesurau fel prynu eiddo newydd, cynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghasnewydd a chwilio am gymorth ychwanegol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer plant yng Nghasnewydd, yn arbennig y rheiny gydag anghenion penodol. Roedd Rose Cottage yn enghraifft dda gydag arbediad ariannol drwy ddod â phlant yn ôl i mewn i Gasnewydd o leoliadau y tu allan  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Yn dilyn cwblhau adroddiadau’r Pwllgor, gofynnir I’r Pwllgor ffurfioli ei gasgliadau, argymhellion a sylwadau ar eitemau blaenorol ar gyfer gweithredu.

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr Adolygiad Diwedd Blwyddyn o’r Cynllun Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc gan gytuno i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

Gofynnodd y Pwyllgor i’r sylwadau wnaed yngl?n â’r adroddiadau ar y cynllun gwasanaeth cyffredinol ar 11 Mehefin 2019 gael eu hailadrodd. Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol i’r Cabinet:

 

·         Roedd y Pwyllgor am longyfarch a diolch i’r Swyddogion a’r Staff am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn cefnogi plant a phobl ifanc Casnewydd yn aml drwy gyfnodau anodd.

·      Roedd yr Aelodau’n falch i glywed bod y rhestr aros am y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, CAMHS wedi gwella’n aruthrol ac nad oedd bellach restr aros o fisoedd i blant a glasoed gael eu gweld.

·      Roedd y Pwyllgor am gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ar nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal sydd wedi leoliadau. Nododd y Pwyllgor yr Adolygiad Diwedd Blwyddyn o’r Cynllun Gwasanaeth Addysg gan gytuno i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol i’r Cabinet:

·      Roedd yn gadarnhaol gweld y Swyddogion yn adolygu’n barhaus anghenion addysgol pobl ifanc Casnewydd ac yn rhagweld anghenion pobl ifanc yn y dyfodol yn ogystal, yn arbennig y rhai hynny fyddai angen cymorth ychwanegol.

·      Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad ar Ganolfan Gyflawni’r Bridge a’r ddarpariaeth loeren ledled y ddinas, ac am wybodaeth ar sut oedd y darpariaethau hyn yn cefnogi anghenion y bobl ifanc.

 

Gofynnoddyr Aelodau am adroddiad i’r Pwyllgor yn rhoi gwybodaeth am

blantoedran cynradd sydd gyda’r darparwr Catch 22.