Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 17eg Medi, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Cooke  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

a)    11 Mehefin 2019

b)    25 Mehefin 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr 11eg Mehefin a’r 25ain Mehefin 2019 fel rhai gwir a chywir.

 

3.

Adroddiad Plant sy ' n Derbyn Gofal pdf icon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

-           James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

-           Sally Jenkins Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc drosolwg byr i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried. Dechreuodd Pennaeth y Gwasanaeth trwy esbonio disgwyliad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghasnewydd a’r posibilrwydd o wneud hynny, yn ogystal â’r cynllun roedd y Swyddogion wedi’i roi ar waith i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·                Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddogion gadarnhau diffinad Plant sy’n Derbyn Gofal, gan holi a oedd hynny wedi cynnwys plant sy’n byw gyda rhieni a theulu, nid yn unig y rhain yn y system ofal. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant i’r Pwyllgor gan esbonio y gallai’r term Plant sy’n Derbyn Gofal gynnwys plant gyda gorchymyn gofal, a phlant sy’n byw gyda neiniau a theidiau neu’r rhwydwaith teulu ehangach, yn ogystal â phlant sy’n byw mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi preswyl.

 

·                Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor i’r Swyddogion gadarnhau a yw’r cynnig a wnaethpwyd i’r maniffesto gan Brif Weinidog Cymru i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ledled Cymru, yn dod â chosb os nad yw’r targed wedi’i gynnig yn cael ei fwrw.  Esboniodd y Swyddogion i aelodau’r Pwyllgor na fyddai goblygiadau o ran cyllideb neu staffio o fewn y cynigion wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru; ond mae angen newid diwylliant er mwyn rheoli lefelau mwy o risg a gallai hynny o bosibl greu heriau ym mhob rhan o’r Cyngor.

Rhoddodd y swyddogion sicrwydd i’r aelodau na fyddai’r targedau wedi’u gosod yn dylanwadu ar broses gwneud penderfyniadau y gwasanaeth, pe bai plentyn yn agored i niwed yng nghartref y teulu, byddai angen i’r plentyn gael ei symud.

 

·                Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor i’r Swyddogion esbonio rhesymau Llywodraeth Cymru dros ofyn i Awdurdodau Lleol gwblhau’r templedi yn yr adroddiad.  Esboniodd y swyddogion fod pryderon ynghylch y ffaith bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn sylweddol uwch nag y mae yn Lloegr. Gellir canfod bod y rheswm dros hyn yw bod pobl Cymru’n llai tebygol o gymryd risgiau, gyda goblygiadau y byddai’n fwy tebygol y byddai plant Cymru’n cael eu symud o ofal eu teulu a’u magu o fewn gofal cyhoeddus. Yr ysgogiad arall ar gyfer cwblhau’r templedi oedd lleihau’r pwysau costau ar y gwasanaeth.

 

·                Holodd y aelodau am gost lleoliadau allan o’r sir, gan ofyn am eglurdeb am pam mae hyn yn digwydd. Cadarnhaodd y swyddogion fod lleoliadau allan o’r sir ond yn digwydd pan nad oes darpariaeth gan Gasnewydd ar gyfer plentyn gyda gofalwyr maeth neu mewn cartref preswyl. Cadarnhaodd y swyddogion fod costau wedi’u lleihau ers agor y cartref preswyl newydd ac y byddent yn parhau i ostwng. Hefyd cadarnhawyd bod yr Awdurdod yn recriwtio gofalwyr maeth ar sail barhaol.

 

·                Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion esbonio pa risgiau sy’n dderbyniol cyn i blentyn ddechrau derbyn gofal.  Ymatebodd y swyddogion fod gan y gymdeithas farn wahanol i’r Awdurdod. Byddai risgiau’n cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol y Tu Allan i ' r Sir pdf icon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

-       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

-       Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg

-       Katy Rees - Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant drosolwg byr i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried.

 

Gallai fod angen ar blant sy’n derbyn gofal lleoliadau preswyl allan o’r sir y penderfynir arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn aml roedd gan y disgyblion hynny becynnau addysg a phreswyl ar y cyd. Weithiau roedd angen gwneud y lleoliadau hynny’n gyflym i sicrhau diogelwch y disgybl, ond byddai’r pecyn addysg yn cael ei adolygu ymhen chwe wythnos i sicrhau ei fod yn addas i anghenion y disgybl. Hefyd roedd disgyblion gyda Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig oedd wedi’u dosbarthu’n ddisgyblion Allan o’r Sir gan eu bod yn mynychu Ysgol brif-ffrwd leol mewn awdurdod arall. Mae’r tabl isod yn dangos mathau’r lleoliadai ynghyd â nifer y disgyblion sydd â lleoliadau:

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·                Dywedodd Aelod o’r Pwyllgor, gan mai tua £30,000 yw cyfartaledd cost lleoli plentyn Allan o’r Sir, a fyddai’r Awdurdod yn gallu cynnig lleoedd i Awdurdodau cyfagos i greu incwm? Gellir wedyn defnyddio’r arian hwn i wneud iawn am gostau anfon pobl ifanc Casnewydd allan o’r sir. Ymatebodd Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant gan esbonio bod yr ALI wedi gwneud llai o leoliadau Allan o’r Sir dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf, a rhagwelwyd gostyngiad pellach ar gyfer 2019-20. Roedd cyfuniad o ffactorau sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn lleoliadau Allan o’r Sir, a fyddai’r cynnwys gweithio gyda Casnewydd Fyw a Catch 22. Roedd cysylltiadau agos wedi’u datblygu rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Addysg i sicrhau cymorth wedi’i gydlynu ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Trwy’r Paneli Dyfodol Disgleiriach ac Anghenion Cymhleth misol, trafodwyd disgyblion, yr oedd perygl y gallai eu lleoliadau chwalu, yn fanwl ac ystyriwyd cydatebion i geisio lleihau’r angen am leoliad Allan o’r Sir.

 

·                Gofynnodd Aelod am adborth ar broject Casnewydd Fyw, Catch 22.  Ymatebodd y Swyddog gan gadarnhau fod adborth gan y bobl ifanc yn ogystal â Casnewydd Fyw yn gadarnhaol. Roeddent yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn cael dadansoddiad cyfredol o ddigwyddiadau a throseddau ailadroddus gan staff mewnol i’r project a’r rheiny mewn ysgolion.

 

·                Mynegodd Aelod bryderon ynghylch y term ‘LAC’ ar gyfer ‘Looked After Children’, gofynnodd yr Aelod i Swyddogion a phawb dan sylw fyrhau ‘Looked AFter Children’ i ‘LAC’ o ganlyniad i’r stigma o blant yn cael eu labelu’n plant ‘LAC’.  Ymatebodd y Swyddog gan gadarnhau y byddai’r byrfodd yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn dogfennau addysg mwyach.

 

·                Mynegodd Aelod ddiddordeb yn y cysylltiadau gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Comisiynu a Chontractau.  Ymatebodd y Swyddogion gan esbonio bod cysylltiadau agos wedi’u datblygu rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Addysg i sicrhau cymorth wedi’i gydlynu ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Trwy’r Panel Dyfodol Disgleiriach ac Anghenion Cymhleth misol, trafodwyd yn fanwl y disgyblion a oedd mewn perygl y gallai eu lleoliadau chwalu, ac ystyriwyd cydatebion i geisio  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 89 KB

a)    Diweddariad o’r Flaenraglen Waith – (Atodiad 1)

b)    Camau Gweithredu Sy ' n Codi -  (Atodiad 2)

c)    Adroddiadau Gwybodaeth -  (Atodiad 3)

 

a)    Cynnig i adolygu ' r trefniadau goruchwylio gan Aelodau ar gyfer cartrefi preswyl

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn Bresennol:

·                Daniel Cooke - Ymgynghorydd Craffu

 

a)         Diweddariad ar y Blaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Blaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod Pwyllgor nesaf:

 

5 Tachwedd 2019,  yr eitemau agenda;

·      Addysg - Adolygiad Canol Blwyddyn o’r Cynllun Gwasanaeth 

 

DYDDIAD, yr eitem agenda;

·      Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc - Adolygiad Canol Blwyddyn o’r Cynllun Gwasanaeth

·      Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a’r Gymuned - Adolygiad Canol Blwyddyn o’r Cynllun Gwasanaeth

 

 

b)        Materion yn Codi

 

Esboniodd y Swyddog fod ymatebion ynghylch camau gweithredu heb eu cyflawni yn cael eu dilyn i fyny.