Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 22ain Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2020/21 pdf icon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.         AdolygiadDiwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 20/21 ar gyfer y Gwasanaethau Addysg  

         

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad gan ddweud fod mesurau perfformiad yn gysylltiedig â deilliannau disgyblion, gwaharddiadau a phresenoldeb wedi'u dal yn ôl oherwydd y pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dulliau newydd o ddyfarnu graddau i ddysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 felly nid oedd yn briodol cymharu â'r blynyddoedd cynt. Oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol a oedd yn weithredol oherwydd y pandemig roedd olrhain cyrchfannau dysgwyr ôl-16 yn heriol, ac roedd canran y bobl ifanc y tybiwyd eu bod wedi cyrraedd 'cyrchfan anhysbys' ar ôl gadael yr ysgol yn uwch nag yn y blynyddoedd cynt. Serch hynny, roedd data Casnewydd ar gyfer pobl ifanc h?n nag oedran ysgol gorfodol mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn dal i fod yn gryf a chyda'r gorau yng Nghymru.

 

Er gwaethaf y pandemig roedd gwaith sylweddol wedi parhau gan ysgolion ac addysg ganolog a bu cynnydd gyda'r rhan fwyaf o'r camau o fewn y cynllun gwasanaeth. Cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar yr ysgolion, fel y gwelwyd yn y cyfnodau pan fuont ar gau'n llawn, neu'n cynnig dysgu o bell yn unig, yn ogystal â'r ymgyrch fawr i gynnig dulliau dysgu cyfunol fel bo modd i ddisgyblion barhau i ddysgu wrth hunanynysu, naill ai fel unigolion neu fel cohortau o fewn ysgol.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

 

·         Aoedd y Maes Gwasanaeth ar y trywydd i gyrraedd y targed o ran ei gyllideb ac, os ddim, pa fesurau lliniarol oedd ar waith a beth oedd sefyllfa ysgolion unigol penodol?

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed eleni. Bu tanwariant sylweddol y llynedd o bron i ddwy filiwn, a hynny'n bennaf gan na chafodd gwasanaethau trafnidiaeth, lleoliadau y tu allan i'r Sir, clybiau brecwast ac ati, eu defnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddai'r taliadau hynny'n cael eu hailsefydlu eleni, felly rhagamcannwyd y byddai'r gyllideb yn gytbwys.

O ran sefyllfa ysgolion unigol, rhagamcannwyd y byddai gan 4 ysgol ddiffyg wrth gau, ond roedd hyn yn dal i fod yn welliant sylweddol. Roedd un o’r rhain i fod i gau ac uno ag ysgol arall ac roedd y tair arall yn ysgolion Uwchradd a oedd yn cael eu monitro’n agos ac ar y trywydd iawn i leihau eu lefelau gorwariant, Byddai'r rhain yn cael eu monitro'n agos yn rheolaidd i sicrhau bod eu trefniadau cynllunio ariannol yn gadarn heb unrhyw beryg iddynt lithro'n ôl i'r coch.

 

·         Wrthweithredu mewn ffordd wahanol, gofynnodd un o'r aelodau a oedd ysgolion wedi canfod ffyrdd i arbed arian, ac a ellid defnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn o hyn allan?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn archwilio cydweithrediad Ôl-16  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 375 KB

a)       Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)       Actions Arising (Appendix 2)

c)       Information Reports (Appendix 3)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

.       Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith

 

Gwahoddedigion;

-       Neil Barnett – Cynghorydd Craffu

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Craffu y Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor pa bynciau fyddai'n cael eu trafod yn nau gyfarfod nesaf y Pwyllgor:

 

Dydd Mawrth 21 Medi 2021

  • Gofal Preswyl Plant

 

Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2021

  • Adolygiad Canol Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2021-22 ar gyfer:

- Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

- Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol