Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 16eg Tachwedd, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Connor Hall  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiadau o ddiddordeb

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 655 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 yn gywir.

4.

Adolygiad Canol Blwyddyn - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol pdf icon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion nad oedd yr adroddiad ond yn adlewyrchu'r chwe mis diwethaf, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn dal i ddelio â'r pandemig. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod yr adroddiad wedi galluogi iddynt ganolbwyntio o'r newydd a threfnu ffrydiau gwaith yn ôl blaenoriaeth i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion yn sgil y pandemig.

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod nifer yr atgyfeiriadau wedi parhau'n gyson, ond bod natur yr atgyfeiriadau'n fwy cymhleth. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw at gynnydd yng ngweithgarwch y Gwasanaethau Oedolion ar safleoedd ysbyty, yn benodol yn Ysbyty Prifysgol y Faenor, ac at y ffaith bod nifer y staff sydd ar gael yn yr ysbytai ac mewn gofal cymdeithasol yn gyffredinol wedi gostwng, a bod diffyg gofal cartref wedi arafu prosesau.

Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw at gynaliadwyedd ariannol cartrefi gofal lle'r oedd perygl i ddarparwyr eraill gau, a pherygl o brinder staff. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sicrwydd i'r pwyllgor eu bod wedi ymroi i gydweithio'n greadigol â darparwyr i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i allu aros ar agor.

 

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor:

·         Sut mae'r Gwasanaethau Oedolion wedi defnyddio llais y defnyddiwr gwasanaeth, ac a welwyd unrhyw newidiadau yn y llais hwnnw?

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sylw at enghraifft lle'r oedd pobl ifanc ag anableddau dysgu a chorfforol yn byw'n annibynnol, a'r gwaith a wnaed i glywed eu lleisiau er mwyn gwella eu profiad wrth ddysgu a meithrin sgiliau. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod hi'n bwysig ymgynghori ag unigolion ym mhob cam er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau ar eu cyfer, waeth beth fo'r canlyniad hwnnw.

 

·         Aoes cynllun B os bydd unrhyw ddarparwyr pellach yn cau?

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y gallai problemau staffio o fewn gofal cartref effeithio ar y pecynnau y gall darparwyr eu cynnig, ac roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod gan bawb yr isafswm a oedd yn angenrheidiol er mwyn parhau i weithio, ac i atal unrhyw broblemau yn y dyfodol.

·         Arôl i'r darparydd gau ac ailgartrefu'r preswylwyr, a gaiff teuluoedd eu cynnwys yn y trafodaethau hyn?

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod teuluoedd yn cael eu cynnwys, a'u bod yn gweld hynny fel cyfle i ailystyried yr hyn a fyddai orau i'r unigolyn dan sylw. Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod hi'n ffodus bod pob un o'r 27 o breswylwyr wedi gallu cael eu symud i leoliad newydd a oedd yn ffafriol iddynt hwy a'u teuluoedd.

 

·         Ayw cwmnïau'n gallu helpu pobl ag anableddau i gael mynediad i'r gweithlu?

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod cyfleoedd dydd ar gael a oedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio gofal i unigolion, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw'r rhain i bobl ag anableddau dysgu a chorfforol. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn - Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 618 KB

Cofnodion:

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at yr heriau a wynebir yn y ddau faes gwasanaeth gan weithluoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus, iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd y pandemig. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at yr heriau o flaen gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac er nad oedd yr heriau hynny'n unigryw, roedd eu maint yn aruthrol ar drothwy'r gaeaf. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth aelodau'r pwyllgor am y pwysau ar y staff, a'r her o gadw a recriwtio staff, gan sicrhau'r aelodau mai problem drwy'r DU oedd hon, nid yng Nghasnewydd yn unig. Sicrhaodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y tanwariant a ragwelwyd yn yr adroddiadau gan esbonio mai amgylchiadau anarferol o fewn gofal cymdeithasol oedd wrth wraidd hyn. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod rhai materion ynghudd yn yr adroddiadau ar y gyllideb, fel problemau'n gysylltiedig â'r gweithlu gan fod llai o wariant ar staff, yn ogystal â'r ffaith nad oedd gofal cymdeithasol oedolion yn gallu cyflenwi rhai pecynnau gofal oherwydd y prinder hwnnw o staff. Byddai'r staff wedi costio swm sylweddol, gan olygu bod yr arbedion yn "drist ac anffodus". Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod amryw o grantiau Covid wedi cael eu derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda rhywfaint o'r gwariant hwnnw'n cael ei gymhwyso'n uniongyrchol yn ôl i Lywodraeth Cymru fesul mis, a chynlluniau i wario £3.5 miliwn o grantiau yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n cuddio problemau cyllidebu a chyllido.

Canolbwyntiodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adroddiad Plant, gan nodi cynnydd yn y cysylltiadau â'r Gwasanaethau Plant, a oedd yn adlewyrchu'r anawsterau y mae pobl wedi'u profi yn y pandemig. Esboniodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnydd hwn mewn atgyfeiriadau yn rhoi mwy o bwysau ar y staff, a nododd fod natur yr atgyfeiriadau a wneir o natur fwyfwy cymhleth.

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y gwaith a oedd yn cael ei wneud gyda phlant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain, gan weithio mewn partneriaeth â Chaerdydd i ailgartrefu'r rhai a oedd yn cyrraedd Caint ac yn cael eu trosglwyddo o borthladdoedd, y darn o waith a oedd yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yfory. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod opsiynau gwirioneddol ar gael i Gasnewydd er mwyn gofalu am y gr?p hwn, ac y gallai gynnig gwasanaethau cadarnhaol i roi gofal da a chadarn ac ystyried amgylchiadau'r plant wrth gyrraedd.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y llwyddiant a welwyd gyda rhaglen MYST.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwaith adeiladu Fferm y Felin yn mynd rhagddo, gyda dyddiad cwblhau ym mis Ebrill, ac y byddai'r staff wedi'u hyfforddi'n llawn cyn yr agoriad.

Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

Argymhellodd y pwyllgor:

o   Seminar i'r Aelodau er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf iddynt ynghylch 'argyfwng' y gwasanaethau oedolion.

o   Cynnal ymweliad â Fferm y Felin.

Rhoi'r newyddion diweddaraf am Anecs Rosendale.

 

Dywedodd y pwyllgor eu bod ar y cyfan yn fodlon â'r adroddiad a'r atebion a roddwyd gan y rhai a oedd yn bresennol.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 389 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

 

Join Microsoft Teams meeting as an attendee.

 

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Craffu y byddai cyfarfod nesaf y pwyllgor hwn yn dechrau am 10am ar 30 Tachwedd 2021.