Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 26ain Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyng. P Bright

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022 eu derbyn fel cofnod cywir.

4.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Plant pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sally-Anne Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Amlygoddyr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol waith cyson y staff, a diolchodd iddynt.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad.

Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod rhan o’r flwyddyn wedi bod dan gyfyngiadau’r pandemig, ond bod y staff wedi parhau i gyflwyno pob gwasanaeth, bron. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at ymrwymiad ac ymroddiad y staff i bobl fregus.

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal gwiriad sicrwydd, a bod eu sylwadau’n dangos fod gwasanaethau wedi eu cyflwyno’n ddiogel ac effeithiol. Teimlai’r Cyfarwyddwr Strategol fod yr adroddiad yn dangos fod staff y Gwasanaethau Plant yn parhau i weithio’n greadigol ac arloesol, ar waethaf yr heriau cyson.

Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol am y datblygu cyson mewn gofal preswyl, a phwysleisiodd fod ganddynt ymrwymiad cryf i ddatblygu gwell darpariaeth i blant Casnewydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod Cyngor Dinas Casnewydd o flaen awdurdodau lleol eraill o ran rhoi’r gorau i elw mewn gofal plant, am eu bod wedi datblygu eu darpariaeth eu hunain.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y dylai Fferm Windmill fod ar agor yn fuan, a bod disgwyl i’r adeiladwyr drosglwyddo i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymhen pythefnos.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor eu bod wedi llwyddo i gefnogi plant oedd yn ceisio lloches nid yn unig yng Nghasnewydd ond yn y rhanbarth oherwydd lefel eu harbenigedd.

Roedd y Cyfarwyddwr Strategol yn cydnabod y bu tanwariant, ond dywedodd wrth y pwyllgor nad arwydd oedd hyn nad oedd ar y meysydd gwasanaeth angen yr adnoddau. Dywedodd eu bod wedi derbyn cyllid a grantiau gan Lywodraeth Cymru, a bod hyn wedi helpu’r gyllideb ond ei fod yn dod i ben.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn awyddus i fwrw ymlaen â bod yn Rhiant Corfforaethol, ond y bu oedi yn genedlaethol. Ategodd y Cyfarwyddwr Strategol ddiolchiadau’r Aelod Cabinet,  a llongyfarchodd staff y maes gwasanaeth.

Diolchodd y pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Strategol a’i thimau am eu gwaeth yn wyneb yr heriau, gan ychwanegu eu gwerthfawrogiad o’r fideos.

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweld unrhyw heriau yn deillio o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i adawyr gofal?

·       Cydnabu’rCyfarwyddwr Strategol y pryder am ddiogelwch pobl ifanc yn y  peilot ac unrhyw heriau fyddai’n dod yn ei sgil. Sicrhaodd y pwyllgor mai’r prif ganolbwynt fyddai ar gefnogi pobl ifanc yn y cynllun i aros yn ddiogel. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi llwyddo i argyhoeddi Llywodraeth Cymru i newid taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos, ac y byddai rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor eu bod eisoes wedi nodi’r 43 plentyn yng Nghasnewydd fyddai’n gymwys am y cynllun peilot  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Oedolion pdf icon PDF 542 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

 

Mary Ryan – Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion

Cynghorydd Stephen Marshall – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd Jason Hughes – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad. Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y staff am eu gwaith a’u gwytnwch.

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad.

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn teimlo’n bositif ar waetha’r pwysau cynyddol. Hysbysodd y pwyllgor fod problemau gyda staffio, ac roedd yn bwysig felly cadw hyn mewn cof wrth gyflwyno gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y mwyaf bregus yn cael help.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod yn bwysig sicrhau fod pobl yn cael eu cadw allan o’r ysbytai yn ystod y gaeaf lle bo modd, a’u bod yn ddiogel ac yn derbyn gofal yn eu cartrefi. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor fod hyn yn cael ei wneud trwy ddefnyddio arian i ganolbwyntio ar ofalwyr sy’n cefnogi pobl yn y gymuned.

Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor am yr achrediad a enillodd Casnewydd fel Dinas Pobl H?n.

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor a oedd dyddiad ar gyfer cychwyn datblygu gwasanaeth penodi rhanbarthol.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor y buont yn cydweithio’n agos gyda Chaerffili, a bod y gwasanaeth penodi bron yn talu amdano’i hun. Mae cynllun dirprwyon ar gael hefyd sy’n helpu i wneud yn si?r fod arian yn cael ei ddefnyddio’n ddoeth, a bod y rhai sydd angen dirprwyon wedi cael eu rheoli gan Gaerffili, a’r penodi fyddai’r cam nesaf. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eu bod yn fodlon gyda’r bartneriaeth gyda Chaerffili, a bod angen i’r cynllun dyfu. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion nad oedd amserlen o ran cael gwasanaeth rhanbarthol oherwydd bod y gwaith yn dal ymlaen. 
 

Gofynnodd y pwyllgor am esboniad o benodi ac o ddirprwyo.

·       Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod gwasanaeth penodi yn wasanaeth a gyflenwir gan y cyngor i helpu’r sawl nad oedd yn gallu rheoli eu harian eu hunain trwy roi lwfansau iddynt a’u cefnogi i reoli eu harian eu hunain. Esboniodd fod gwasanaeth dirprwyo yn ymdrin â’r sawl oedd â chryn swm o arian er mwyn sicrhau eu bod yn edrych ar ei ôl yn gywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol fel ffurf ar ddiogelu.

Holodd y pwyllgor beth oedd yn cael ei wneud i ymdrin â phrinder staff a llai o allu mewn gofal cartref.

·       Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y pwyllgor y cymerwyd rhan mewn grwpiau panel oedd yn edrych i weld beth ellid ei wneud ar bob lefel. Hysbysodd y pwyllgor fod Casnewydd yn rhoi ei gwasanaethau cartref allan i ddarparwyr eraill, a’u bod mewn sefyllfa dda, yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr. Mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion bryder am y dyfodol oherwydd bod llawer o ofalwyr yn gadael y proffesiwn, a hyn yn creu prinder, heb sôn am yr angen i sicrhau cysondeb i bobl sy’n derbyn gofal 

Holodd y pwyllgor am grantiau a chyllid i ofalwyr megis grantiau i helpu gyda gwersi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Teimlai’rpwyllgor fod yr adroddiadau yn gynhwysfawr, a diolchwyd i’r Swyddogion a’u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth.

Gofynnodd y pwyllgor am i gopi o’r llythyr a ddarparwyd i’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc am ganfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru gael ei ddosbarthu iddynt er gwybodaeth.

Gofynnodd y pwyllgor am ddadansoddiad o’r tanwariant yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc er gwybodaeth.

Gofynnodd y pwyllgor, unwaith i ddyddiad gael ei gadarnhau i drosglwyddo Fferm Windmill, i ymweliad safle gael ei drefnu i’r pwyllgor.

Gofynnodd y pwyllgor am i sesiynau gwybodaeth gael eu trefnu iddynt hwy a’r Penaethiaid Gwasanaeth /Cyfarwyddwyr Strategol i roi manylion am y gwahaniaethau rhwng CDAR a CDGRh ac i fynd trwy’r mesuriadau perfformiad cenedlaethol yn fanylach.

Gofynnodd y pwyllgor am i wybodaeth am fenter Gartref yn Gyntaf oedd yn benodol i ardal Casnewydd.

Cododd y pwyllgor rai sylwadau am gyflwyniadau:

·       Nodwydfod modd cyflwyno graff a thabl Ardaloedd Risg y Gwasanaeth ar dudalen ar wahan, gyda’r cyd-destun yn cael ei ddarparu i’r ddau adroddiad er mwyn eglurder.

 

·       Nodwydei bod yn gamarweiniol pan oedd ardaloedd a) wedi eu marcio fel rhai wedi eu cwblhau ond lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen a b) fod D/G yn cael ei ddangos lle’r oedd gwaith yn dal i fynd ymlaen.

Croesawodd y pwyllgor y bartneriaeth rhwng Aelodau Cabinet a Chyfarwyddwyr/Penaethiaid Gwasanaeth.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 136 KB

a)      Actions Arising (Appendix 1)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddoddyr Ymgynghorydd Craffu wrth y pwyllgor nad oedd Blaen-Raglen Waith ar y pryd, ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r pwyllgor cyn gynted ag y bo modd.

 

8.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf:

13 Medi 2022 am 10am.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13 Medi 2022 am 10am.