Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Bright a'r Cynghorydd Harvey fel yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Adroddiad Canol Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2023-24 - Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atal a Chynhwysiant

 

Gwahoddedigion:

Mandy Shide - Rheolwr Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant

Rhianydd Williams – Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd

 

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd (CID) a Rheolwr y Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant (ACh) yr adroddiad.

 

·       Llongyfarchodd y Pwyllgor y Gwasanaeth Ieuenctid am ei nod o gyflawni'r Marc Ansawdd Arian.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor pwy a oedd yn rhoi cymorth y tu allan i oriau i'r Gwasanaethau Ieuenctid. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) fod y rhan fwyaf o gymorth yn cael ei roi'n fewnol ond bod rhai contractau gyda sefydliadau cymunedol sydd â sgiliau arbenigol.

 

·       Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r astudiaethau achos wedi’u cynnwys.

 

·       Mynegodd y Pwyllgor bryder bod camau gweithredu anghyflawn yn cael eu hadrodd fel rhai gwyrdd a thynnodd sylw at y cam gweithredu ar gyfer Darpariaeth Wirfoddoli Gadarn. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) y Pwyllgor am waith parhaus gyda Chyfathrebu ac Adnoddau Dynol a rhagwelodd y byddai'r camau gweithredu wedi'u cwblhau erbyn y dyddiad cau, a dyna pam yr oeddent wedi’u nodi'n wyrdd. Nododd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion y gallai camau gweithredu gael eu dylanwadu gan bartïon allanol ac yn destun oedi a allai newid eu sgôr COG ond tynnodd sylw at y ffaith bod sgoriau gwyrdd yn dangos bod camau gweithredu ar y trywydd iawn. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y byddai'r sylwebaeth ar gyfer camau gweithredu'n cynnig cyd-destun ac yn tynnu sylw at unrhyw anawsterau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw risgiau wedi'u nodi ynghylch y prosiect gwirfoddoli.

 

 

 

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Gwahoddedigion:

Y Cynghorydd Stephen Marshall - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant

Sally Ann Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

Mary Ryan - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

Rhian Brook – Rheolwr Gwasanaeth Timau Plant

 

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Timau Plant (TP) yr adroddiad.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am y materion yn ymwneud â chadw staff. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod yn fater cenedlaethol a bod anawsterau o fewn gwasanaethau preswyl yn benodol. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion mai ychydig iawn o Weithwyr Cymdeithasol mewn hyfforddiant a oedd yn creu diffyg a thynnodd sylw at bwysigrwydd cadw a hyfforddiant a oedd yn cael ei gynnig gan Gyngor Dinas Casnewydd trwy'r Brifysgol Agored.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd cynlluniau wrth gefn yngl?n â'r prosiect Dielw/Dileu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod wedi ceisio mynd i'r afael â'r pwysau cost uchaf fel lleihau'r defnydd o staff asiantaeth trwy ddod â staff mewnol i mewn ac adeiladu ar y portffolio presennol, gan nodi Cambridge House yr oedd disgwyl iddo fod yn barod ym mis Gorffennaf 2024.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor beth y gellid ei wneud i gydweithio’n fwy â'r GIG. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant wybod i'r Pwyllgor am y berthynas agos â'r Gwasanaeth Iechyd a oedd yn ymdrin â sbectrwm  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

·       Gwnaeth y Pwyllgor ddiolch i staff am eu gwaith caled a’u llongyfarch hefyd. 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad gwybodaeth ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, gan gynnwys tai.

·       Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd cyllid ar gyfer y gwasanaeth VAWDASV.

·       Argymhellodd y Pwyllgor edrych ar ddarpariaeth fewnol amgen ar gyfer Canolfan Ddementia Casnewydd.

 

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 140 KB

a)      Actions Arising (Appendix 1)

b)      Forward Work Programme Update (Appendix 2)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)    Materion yn Codi  

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Craffu ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

b)    Blaenraglen Waith

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod dyddiad cyfarfod y Gyllideb wedi'i aildrefnu i 16 Ionawr i sicrhau ei fod o fewn y cyfnod ymgynghori.

 

7.

Digwyddiad Byw

Cofnodion: