Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 26ain Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd P. Bright

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth atodol gan y Swyddogion ynghylch yr ymateb a roddwyd ar y Gwasanaeth Ieuenctid, gan nodi faint o amser sy'n cael ei dreulio’n gweithio wyneb yn wyneb o’i gymharu â gwaith gweinyddol.

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Adroddiad Deilliannau Arolygon Estyn 2022-23 pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad. Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad.

·       Nododd y Pwyllgor y thema ynghylch yr angen am welliannau Cymraeg ail iaith ar draws argymhellion yr adroddiad a theimlai ei bod yn bwysig i blant feddu ar fwy o Gymraeg. Gofynnodd y Pwyllgor pa ystyriaeth a oedd wedi'i rhoi i'r gwelliannau oedd eu hangen. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor fod cefnogaeth ar gyfer ysgolion i fynd i'r afael â’r argymhellion. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd a oedd yn gysylltiedig â gwella Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac a ddarparai becynnau cymorth i ysgolion. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y cyfleoedd i athrawon fynychu ystod o gyrsiau i wella sgiliau Cymraeg. Nodon nhw fod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn gallu mynd i ysgolion a gweithio gydag athrawon i wella cynlluniau gwersi a’u cyflwyno nhw. Tynnodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg sylw at y ffaith mai dyma'r arolygiadau cyntaf ers Covid, a bod y pandemig wedi effeithio ar ddatblygiad y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o ysgolion yn cymryd rhan yn Cymraeg Campus.

·       Nododd y Pwyllgor y gwelliant mewn Safonau Cymraeg ond gofynwyd a allai Cyngor Dinas Casnewydd wneud mwy i sicrhau gwelliannau. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg sicrwydd i'r Pwyllgor ei fod yn hyderus ynghylch y cyfleoedd am gefnogaeth ar gyfer sgiliau Cymraeg. Nododd fod gwella sgiliau Cymraeg yn thema genedlaethol mewn ardaloedd tebyg. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor y byddent yn parhau i fonitro lefelau ymgysylltu.

·       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr argymhelliad ynghylch bwyta'n iach wedi'i adnabod cyn yr arolygiad ac os felly, beth oedd wedi'i wneud i fynd i'r afael ag ef ac a oedd ysgolion tebyg yn cael eu hystyried o ran arfer gorau i gefnogi Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor fod cynllun datblygu wedi’i greu a'i gymeradwyo, gyda'r ysgol yn cael ei monitro bob hanner tymor. Fe ddwedon nhw wrth y Pwyllgor y byddai ymweliad â'r ysgol i adolygu prosesau monitro/gwerthuso a rhoi cymorth a chyngor pellach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y byddent yn gallu rhoi diweddariadau i ddangos cynnydd. Dwedodd y Pwyllgor y byddent fel arfer yn cyfarfod ag ysgolion i drafod blaenoriaethau a chynlluniau datblygu a sicrhau polisïau monitro cadarn ond nad oedd yn gallu gwneud hyn gydag ysgolion cynradd ar hyn o bryd oherwydd gweithredu sy'n brin o streic. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y byddai’r GCA yn ymweld ac yn adolygu’r un dystiolaeth â'r awdurdod i weld a yw'r un casgliadau yn gyffredin, a bod y GCA wedi ymweld â'r ysgol ac nad oedd wedi canfod unrhyw broblem o ran yr agwedd bwyta'n iach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor, nawr bod yr ysgol bellach yn cael ei hadolygu, y gallent ymweld â'r ysgol a'i monitro er mwyn dangos hyder i Estyn. Fe ddwedoon nhw wrth y Pwyllgor, os oedd pryder am  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

·       Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion a’r ysgolion am eu gwaith caled parhaus. 

·       Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar yr adroddiad. 

·       Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd dilyniant a gwelliant yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli yn dilyn ei adroddiad arolygu.

·       Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd y gwaith parhaus i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion a gofyn am fwy o wybodaeth am ba adnoddau sydd ar gael ac a ddefnyddir mewn ysgolion i hyrwyddo hyn.

·       Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad gwybodaeth ar ba waith allgymorth sy'n cael ei wneud gyda disgyblion a theuluoedd sy'n cael trafferth dychwelyd i'r ysgol ar ôl Covid, y rhai sy'n cael trafferth gyda phresenoldeb a phlant nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 140 KB

a)      Actions Arising (Appendix 1)

b)      Forward Work Programme Update (Appendix 2)

c)      Information Reports (Appendix 3)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)    Camau Gweithredu sy'n Codi (Atodiad 1)

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y ddalen ar gamau gweithredu.

b)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith (Atodiad 2)

Dwedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor na fu unrhyw newidiadau i'r Flaenraglen Waith.

c)     Adroddiadau Gwybodaeth (Atodiad 3)

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y bu un adroddiad gwybodaeth y mis hwn ynghylch Camfanteisio ar Blant. Dwedodd yr Ymgynghorydd Craffu nad oedd unrhyw gwestiynau wedi eu hanfon ymlaen yngl?n â hyn, a bod y Cadeirydd wedi diolch ar ran y Pwyllgor i’r Swyddogion a chymeradwyo eu gwaith.

 

7.

Live Event

Cofnodion: