Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 26ain Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod Microsoft Teams / Ystafell Bwyllgor 1

Cyswllt: Samantha Herritty  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 yn gofnod gwir a chywir.

 

3.

Adroddiadau Canol Blwyddyn 24-25 - Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 151 KB

a)    Cyflwyniadgan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)     Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Strategol (CS) y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Plant (PGP) drosolwg o'r adroddiad i'r Pwyllgor. 

 

Holodd yr Aelodau y Swyddogion a'r Aelod Cabinet am gynnwys yr adroddiad - er mwyn cael mynediad at gofnod llawn o'r sylwadau a wnaed cyfeirier at sianel YouTube y Cyngor.    Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd.
 

Sylwadau ac Argymhellion:  

  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd gwaith ataliol gyda phlant a phobl ifanc.
  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid anfon papur briffio at yr Aelodau ar yr adroddiadau a ysgrifennwyd ynghylch arolygiadau cartrefi preswyl gan swyddogion cyfrifol.
  • Argymhellodd y Pwyllgor y dylid amlygu unrhyw faterion yn ymwneud â hyfforddiant mewn adolygiadau yn y dyfodol.

Gwasanaethau Oedolion

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion (PGO) drosolwg o'r adroddiad i'r Pwyllgor.


Holodd yr Aelodau y Swyddogion a'r Aelod Cabinet am gynnwys yr adroddiad - er mwyn cael mynediad at gofnod llawn o'r sylwadau a wnaed cyfeirier at sianel YouTube y Cyngor.    Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd..

Sylwadau ac Argymhellion:  

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am gael ei ddiweddaru ar dechnoleg gynorthwyol pan fydd darpariaethau newydd neu newidadau i ddarpariaethau yn codi.
  • Argymhellodd y Pwyllgor fod Swyddogion yn ystyried cymhlethdodau yng Nghasnewydd er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol ar gyfer anghenion y gymuned.


Atal a Chynhwysiant

 

Rhoddodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant (PAC) drosolwg i'r Pwyllgor.

 

Holodd yr Aelodau y Swyddogion a'r Aelod Cabinet am gynnwys yr adroddiad - er mwyn cael mynediad at gofnod llawn o'r sylwadau a wnaed cyfeirier at sianel YouTube y Cyngor.    Democratic meetings / Cyfarfodydd democrataidd.
 

Sylwadau ac Argymhellion:  

  • Argymhellodd y Pwyllgor eu bod yn cael gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â chyllid grant, a allai effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau.
  • Argymhellodd y Pwyllgor archwilio'r defnydd o apiau i gefnogi preswylwyr a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, yn enwedig ymhlith defnyddwyr gwasanaeth iau.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am unrhyw bwyntiau a amlygwyd/i'w gweithredu o'r adroddiad Track the Act.
  • the Act report.

 

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 139 KB

a)      Camau Gweithredu sy'n Codi (Atodiad 1)

b)      Blaenraglen Waith (Atodiad 2)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a.      Materion yn Codi   

Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor bod dyddiad ar gyfer ymweliad safle Technoleg Gynorthwyol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 3 Rhagfyr a bod y camau gweithredu parhaus bellach yn rhai tymor hwy ar y cyfan. 

b.     Blaenraglen Waith

Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor na fu unrhyw newidiadau i'r Flaenraglen Waith a'r cyfarfod nesaf oedd dydd Mawrth 10 Rhagfyr ar gyfer Adroddiad Canol Blwyddyn y Gwasanaethau Addysg 2024-25. 

 

 

5.

Recordiad o'r Cyfarfod

Cofnodion: