1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Connor Hall  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyng. L Lacey

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  22 Mehefin 2021 fel rhai cywir.

 

4.

Gofal Preswyl Plant Mewnol pdf icon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant yr adroddiad a dweud fod hanes maith o blant yn gorfod gadael ardal eu hawdurdod lleol i gael gofal preswyl, ond ein bod yng Nghasnewydd ein bod yn ceisio mynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o lefydd gofal a chadw ein plant mor agos at gartref ag sydd modd. Yr oedd gennym ein portffolio ein hunain a buom yn cynnal ein cartrefi ein hunain am nifer o flynyddoedd, ac ymrwymo i ddarparu gofal preswyl o ansawdd dda.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor mai hwn oedd un o’r cynlluniau mwyaf gwerthfawr y bu’n ymwneud a hwy, a bod yr adroddiad yn adlewyrchu ymroddiad pawb oedd yn rhan. Dywedodd ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru, a bod eraill yn edrych ar ein llwyddiant fel esiampl o sut i wneud pethau’n dda. Yr oedd y ffordd newydd o weithio trwy Project Perthyn yn golygu nad oedd yr un drws ar glo ac nad oedd swyddfeydd am ein bod yn darparu awyrgylch gartrefol oedd mor agos i gartref teuluol ag oedd modd. Mae gennym agweddcwtsh’, gan ddeall angen plant i dderbyn cwtsh a dysgu yn eu tro am gyffwrdd corfforol priodol. Nod Project Perthyn yw ennyn a chynnal ymddiriedaeth ein plant. Yr oedd y cyfleusterau hyn yngartrefi’ go-iawn i’r plant ac y mae sylwadau’r plant eu hunain yn arwydd o ymrwymiad y staff ac yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi’r dull o ofalu amdanynt.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

 -A oedd y ddarpariaeth ar gael yn ddigonol i nifer ein plant sy’n derbyn gofal a pha ddarpariaeth sydd ar gael i anghenion amrywiol y plant hyn?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai 368 o blant sydd gennym ar hyn o bryd, a bod y ffigwr hwn yn gyson. Yr oedd y mwyafrif helaeth o’r rhain mewn gofal maeth, a bu ymgyrch fawr i recriwtio gofalwyr maeth. Yr oedd nifer y rhai sy’n gorfod bod mewn gofal preswyl yn gymharol fach. Yr oedd gr?p bychan o blant gydag anghenion cymhleth iawn ac unedau mam a’i baban nad oes modd i ni wneud darpariaeth ar eu cyfer, ac sydd wedi gorfod cael eu gosod y tu allan i’r awdurdod lleol. Yr ydym yn agos iawn at fod yn llawn gyda’r hyn sydd ei angen o ran gofal preswyl yng Nghasnewydd heb ddim lleoliadau argyfwng ar hyn o bryd. Yr oedd lleoliadau brys mewn argyfwng yn her fawr i ni, ac yn faes y byddwn yn dal i edrych arno.  

 

-   Beth oedd y ddarpariaeth am ofal seibiant?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y byddwn yn parhau i fod â phlant mewn gofal ac felly yn parhau i geisio’r ffyrdd gorau o ddarparu hynny. Cafodd T? Oaklands drafferth yn ystod y pandemig i ddarparu gofal seibiant. Yr oedd 2 o blant  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 20/12 pdf icon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad byr i’r adroddiad.  Yr oedd ynddo wybodaeth am sut y llwyddwyd i gynnal gwasanaethau trwy gyfnod hynod heriol 2020/21. Er bod gwybodaeth am berfformiad yn yr adroddiad, yr oedd y system o adrodd am berfformiad yn newid wedi ei atal dros y cyfnod hwnnw oherwydd y pandemig, sy’n golygu nad oedd yr holl fanylion ar gael yn llawn. Felly ni fu modd cynnwys rhai  o’r mesuriadau hanesyddol, ond byddai modd eu rhoi ar lafar yn y cyfarfod hwn, petai angen.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-  Gyda’r gofynion adrodd wedi newid, sut mae modd i ni wneud cymariaethau heb ffigyrau meincnodi?

Ateb y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion oedd bod yr holl fframwaith adrodd am berfformiad wedi newid oherwydd i Lywodraeth Cymru sylweddoli nad oedd y mesuriadau blaenorol yn rhoi iddynt y wybodaeth oedd arnynt ei angen. Nid oes unrhyw dargedau wedi eu gosod eto gan y bydd angen blwyddyn lawn o ddata i sefydlu meincnod am berfformiad y dyfodol. Yr oedd y fframwaith perfformiad wedi newid, felly byddai cymharu yn erbyn y flwyddyn flaenorol yn broblemus. Byddai’n synhwyrol felly trin y cyfnod hwn fel set waelodlin o ffigyrau i adeiladu setiau data’r dyfodol arnynt ac i gynnal tystiolaeth am lwyddiant, arferion da a phwysau ar y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

-Cafwyd cynnydd mewn asesiadau – pa fath o asesiadau oeddynt? Yr oedd tua 30-40% yn asesiadau am therapi galwedigaethol, a’r garfan fawr arall o bobl oedd y rhai oedd eisiau asesiad am ofal a chefnogaeth. Yn aml, nid oedd y teuluoedd yn sicr am ba fath o gefnogaeth fyddai ei angen, felly byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda hwy a’u teuluoedd i bennu pa fath o gefnogaeth oedd ei angen, boed yn ofal yn y cartref, yn y gymuned, gofal seibiant neu ofal preswyl. Er mai pobl h?n oedd y rhan fwyaf o bobl fyddai’n destun asesiad, yr oedd hefyd oedolion o oedran gwaith, oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol, neu iechyd meddwl. Yr oedd nifer y bobl a aseswyd gydag anawsterau iechyd meddwl wedi cynyddu o ryw draean yn ystod y cyfnod hwn, ac yr oedd peth o hynny i’w briodoli i’r pandemig a’r dirywiad yn lles meddyliol pobl. Cafwyd hefyd nifer sylweddol o bobl gyda dementia cynnar a dementia yr oedd modd ei reoli o’r blaen, ond fod cyfuniad o ffactorau cysylltiedig â’r pandemig ac ynysu cymdeithasol wedi golygu nad oedd hyn bellach yn wir.  

Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai aelod o’r teulu yn aml fyddai’n cyfeirio pobl yr amheuwyd fod dementia arnynt i’w hasesu. Yr oedd pobl wedi dod ymlaen yn hwyrach oherwydd y pandemig ac felly, am fod eu cyflwr wedi dirywio, yr oedd eu hanghenion yn fwy cymhleth. Er ein bod yn ymdopi yng Nghasnewydd ac  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

Yroedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau canlynol wrth y Cabinet:

Adroddiad Gofal Preswyl

       Hoffai’rPwyllgor gael cyfle i ymweld â Fferm Windmill cyn yr ail-agor i weld y newidiadau a wnaed ers eu hymweliad gwreiddiol.

  Hoffai’rPwyllgor ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr oedd wedi ei osod allan yn dda.

 

Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

       Hoffai’rPwyllgor fwy o gyd-destun am rai o’r ystadegau digartrefedd yn yr adroddiad, sef:

o   Pam fod y rhai y cynigiwyd llety iddynt wedi dewis ei adael?

o   Eglurhad am nifer y digartref a’r digartref ar y stryd yng Nghasnewydd, a sut y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn diffinio digartrefedd.

  Hoffai’rPwyllgor nodi fod yr adroddiad cyffredinol a’u hymateb iddo yn gadarnhaol.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 149 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

Public attendees can join by clicking this link.

 

 

Cofnodion:

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu newidiadau i’r Blaen-Raglen Waith - sef newid dyddiadau’r cyfarfodydd i ddod. Cytunodd y Pwyllgor i newid y dyddiadau a’r amseroedd.