1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Connor Hall  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Andrew Powles.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 126 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel rhai cywir.

 

4.

Adolygiadau Canol Blwyddyn Addysg pdf icon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad a dweud fod y Gwasanaeth Addysg yn dal i ddatblygu, hyd yn oed yn erbyn cefndir ymateb y gwasanaeth i bandemig COVID-19.

Dangosodd yr adroddiad, o’r camau y rhoddwyd manylion amdanynt, fod 76 ar hyn o bryd yn debyg o gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a’u mesur fel rhaigwyrdd’, gyda dim ond 4 yngoch’. Ers cyhoeddi’r adroddiad, gwnaed mwy o gynnydd ac yr oedd y Gwasanaeth mewn sefyllfa well fyth.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-Pam fod tanwariant o 5% yn cael ei ragweld?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg fod y ffigwr hwn yn £1 miliwn, a’i fod yn bennaf gysylltiedig â lleoliadau allsirol. Yn erbyn cefndir y pandemig, bu’n anodd adnabod y plant oedd angen y ddarpariaeth hon. Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wedi ceisio cadw plant ag anghenion cymhleth yn nes at adref ar gyfer eu haddysg, ac yr oedd hyn yn lleihau costau. At y dyfodol, byddai mwy o angen cefnogaeth ar y plant hyn, felly nid oedd y tanwariant yn duedd fyddai’n debygol o barhau.

 

-  Pa mor aml mae’r map risg yn cael ei adolygu?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg fod cyfarfodydd yr uwch-dîm rheoli yn cael eu cynnal yn wythnosol, a bod cynyddu risg yn bwnc rheolaidd, ond fod y map risg yn benodol yn cael ei drafod ddwywaith y flwyddyn. Er bod modd rhagweld rhai risgiau fel cefnogaeth ADY a’r galw amdano, yr oedd rhai wedi lleihau, er enghraifft, gwariant GEMS oherwydd bod sgiliau ac arbenigedd yn yr ysgolion i barhau â’r gefnogaeth hon. Yr oedd y risgiau ynghylch Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau oherwydd cynnydd mewn prisiau, ac er bod gan Gyngor Dinas Casnewydd ddigon o lefydd gwag yn ein hysgolion, nid oedd y rhain ym mhob cymuned, sy’n golygu na allai Cyngor Dinas Casnewydd o raid gynnig llefydd o fewn cylch o 2 filltir, a byddai hyn yn risg cost am y tro. 

 

-  Pa fesurau a gymerir i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg fod y Gwasanaeth, ar ddechrau’r cyfnod clo, wedi gweithio gyda’r holl ysgolion i gynnal asesiadau risg ar ddisgyblion bregus er mwyn gofalu eu bod yn cael eu holrhain a’u cefnogi. Yr oedd cefnogaeth ADY yn cael ei asesu yn ôl graddiant yn dibynnu ar anghenion y plentyn. Pan fyddai anghenion ychwanegol yn cael eu nodi, gallai Cyngor Dinas Casnewydd ddarparu ystod o gefnogaeth, weithiau ar lefel ysgol, yn amrywio o amser ychwanegol neu waith ychwanegol, neu ei ddarparu mewn canolfan adnoddau leol. Gallai Cyngor Dinas Casnewydd ystyried darpariaeth y tu allan i’r dref, ac yr oedd mapio darpariaeth ar gael yn ein holl ysgolion, oedd yn gwneud yn si?r fod gan bob plentyn mewn addysg brif-ffrwd hawl  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

Yr oedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau a ganlyn:

 

Sylwadau ac Argymhellion

       Llwybraucerdded diogel i’r ysgol (tudalen 24): Nodwyd fod Addysg wedi mynd a hyn mor bell ag y gallent, a bod y cyfrifoldeb am fwrw ymlaen â hyn yn awr yn gorwedd gyda Gwasanaethau’r Ddinas. Carai’r Aelodau i’r fenter gael ei hychwanegu at Gynllun Gwasanaeth Gwasanaethau’r Ddinas at y dyfodol er mwyn craffu ymhellach arno.

       Yroedd yr Aelodau am fwy o wybodaeth am nifer y plant sy’n cael eu gwahardd o ysgolion.

       Rhannoddyr Aelodau eu pryderon am nifer y plant sy’n cael eu gwahardd.

       Yroedd yr Aelodau yn pryderu fod unrhyw faterion am ADY a phlant bregus yn dueddol o fod mewn mesurau coch/oren. Nodwyd fod hyn yn rhywbeth y carent gael ei ychwanegu at y Blaen-Raglen Waith yn y dyfodol.

       Mynegoddyr Aelodau bryder am yr amcangyfrif o ddyddiad cwblhau archwiliadau’r ystafelloedd tawelu, a hoffent gael diweddariad am gynnydd yn y dyfodol.

       Diolchodd y Pwyllgor i’r swyddogion am eu gwaith caled mewn Addysg.

 

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 148 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

c)      Information Reports (Appendix 3)

Click here to view the meeting as an attendee.

 

 

Cofnodion:

Rhannoddyr Ymgynghorydd Craffu y Blaen-Raglen waith gyda’r Pwyllgor, gyda’r caveat y gellir gwneud rhai newidiadau, yn ogystal â diweddariadau am y camau o’r cyfarfod blaenorol.