Lleoliad: Cyfarfod hybrid
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn y Gwasanaethau Addysg 2021-22 PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Davies gyflwyniad byr i'r adroddiad a gofynnodd i'r adroddiad gael ei ystyried yn ei gyd-destun yn ôl perfformiad yr ysgolion yn ystod y pandemig. Rhoddodd y Cynghorydd Davies ganmoliaeth i waith caled a chyflawniadau'r maes gwasanaeth gydol yr adroddiad. Cwestiynau:
Gofynnodd y pwyllgor pam fod dangosydd Risg y Maes Gwasanaeth sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn oren.
- Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod yn aros am gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru parthed ADY. - Ychwanegodd y Pennaeth Addysg bod hyfforddiant a gwaith wedi bod yn mynd rhagddo o fewn y grwpiau clwstwr a oedd wedi'i anelu at ymyrraeth gynnar. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod yn diogelu at y dyfodol.
Dywedodd aelod o'r pwyllgor y gellid cyflwyno'r graffiau a ddangosir ar dudalen 6 o'r adroddiad yn well.
Roedd aelod o'r pwyllgor yn falch o weld fod tanwariant net wedi bod, a gofynnodd sut y cyflawnwyd hyn a ph'un a oeddynt wedi bwriadu tanwario.
- Eglurodd y Pennaeth Addysg fod y tanwariant o £800,000yn gysylltiedig â'r lleoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir o ganlyniad i'r pandemig. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg y bu ysgolion ar gau am gyfnod yn ystod y pandemig ac nad oedd achosion plant ag anghenion dwys yn symud yn eu blaenau drwy'r system, ac felly nid oeddynt wedi'u nodi i fynd i leoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir, a oedd yn gostus iawn i'r Cyngor. Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor mai'r nod oedd sicrhau'r gwerth gorau am arian, a chyflawnwyd hyn trwy ddod o hyd i ddarpariaeth leol yn hytrach nag anfon plant i leoliadau y tu hwnt i ffiniau'r sir, a oedd hefyd yn profi i fod yn fwy buddiol i'r plant dan sylw. - Hysbysodd y Pennaeth Addysg y pwyllgor y byddai'r tanwariant yn cael ei drosglwyddo i gronfa gyffredinol Cyngor Dinas Casnewydd i gael ei ddefnyddio lle bo angen.
Gofynnodd aelod o’r pwyllgor am ddiweddariad ar y cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif.
- Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor eu bod ar y trywydd iawn gyda phrosiect Ysgol Basaleg ac y byddant wedi cwblhau'r gwaith ymhen oddeutu 18 mis. - Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod prosiect Ysgol Gyfun Gwent Iscoed hefyd yn cyflawni’r holl derfynau amser ar hyn o bryd. # - Nododd y Pennaeth Addysg fod oedi wedi bod yn yr ysgol newydd yn Whitehead. Nid oedd hwn yn fater lleol, ond yn hytrach yn fater a oedd yn ymwneud â throsglwyddo tir, a oedd yn golygu bod y dyddiad cwblhau a ragwelwyd bellach wedi'i symud i dymor yr hydref 2023.
Holodd aelod o’r pwyllgor am y sylw a wnaed nad oedd unrhyw gamau pellach y gellid eu cymryd o ran Llwybrau Cerdded Diogel i’r Ysgol.
- Eglurodd y Pennaeth Addysg nad y Maes Gwasanaeth Addysg fyddai'n arwain ar y mater bellach ac mai Gwasanaethau'r Ddinas fyddai'n gyfrifol am y gwaith cynllunio yn ymwneud â theithio llesol yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y pwyllgor fod ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: - Teimlai'r pwyllgor fod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac yn llawn gwybodaeth. - Nododd y pwyllgor y gellid addasu’r graff a’r tabl ar dudalen 6 o’r adroddiad er eglurder. - Awgrymodd y pwyllgor y gellid addasu'r wybodaeth am gamau “cyflawn” amherffaith i adlewyrchu’r sefyllfa’n fwy cywir. - Awgrymodd y pwyllgor y dylid darparu esboniad yn yr adroddiad pan fydd mesurau perfformiad ar goll yn y dyfodol. - Nododd y pwyllgor y dylid ymchwilio i'r gwaith partneriaeth gyda Norse Casnewydd ac y dylid darparu diweddariad am gefnogaeth Norse i waith atgyweirio ac uwchraddio. - Awgrymodd y pwyllgor y dylid crynhoi camau gweithredu sy’n ymwneud ag argymhellion Estyn gyda’i gilydd er eglurder.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y pwyllgor y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Gorffennaf 2022 am 10am. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf 26 Gorffennaf 2022 am 10am. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 26 Gorffennaf 2022 am 10am |