Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 29ain Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd Paul Bright 

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir. 

 

Gwnaeth aelod o’r pwyllgor sylw ar gofnodion y cyfarfod blaenorol a dweud eu bod wedi cofnodi dan y teitlpwyllgoryn hytrach nag ‘aelod pwyllgor’ a holodd beth oedd y fformat y cytunwyd arni. 

 

-                      Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd aelodau unigol yn cael eu henwi ac nad oedd problem gyda hyn. 

-                      Dywedodd y Swyddog Craffu fod y fformat yn nodi’n unig na ddylid enwi aelodau, ac nad oedd y cofnodion yn gwneud hyn. 

-                      Dywedoddyr aelod pwyllgor nad oedd yn deall y fformat hwn oherwydd bod Aelodau Cabinet a Swyddogion yn cael eu henwi, felly pan nad enwyd yr Aelodau? 

-                      Dywedodd y Swyddog Craffu wrth y pwyllgor y cyfeirir at Swyddogion ac Aelodau Cabinet yn y cofnodion yn ôl eu teitlau, a chadarnhaodd nad newid sydyn oedd y fformat hwn i Bwyllgorau Craffu, gan mai dyma fu’r drefn ers peth amser. 

-                      Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gellid cyflwyno her i’r Pennaeth Cyfraith a Safonau ar y mater hwn yn hytrach na’i drafod yn y Pwyllgor. 

 

4.

Cynlluniau Meysydd Gwasanaeth 22-24 pdf icon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwasanaethau Addysg 

 

Gwahoddwyd: 

 

Sarah Morgan - Pennaeth Addysg  Cyng.Deborah Davies - Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad. 

 

Cwestiynau: 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad am Ysgol Gynradd Millbrook. 

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg y bydd yn cysylltu â’r aelod pwyllgor y tu allan i’r cyfarfod ar y pwnc hwn gan nad oedd yn rhan o’r Cynllun Gwasanaeth oedd yn cael ei drafod heddiw. 

Gwnaeth y Pwyllgor sylw am Gyfeiriad 1 ar dudalen 31 lle dywedwyd mai’r deilliant oedd i’r ALl fod wedi datblygu gweledigaeth gydlynus o gynhwysiant gyda rhanddeiliaid allweddol, ac mai’r bwriad oedd cwblhau erbyn 2024; gofynnwyd am ehangu ar y pwynt hwn. 

 

       Dywedodd y Pennaeth Addysg fod gweithio ar y cyd gyda Phenaethiaid ac ymarferwyr yn cynyddu llwyddiant i ysgolion. Roedd yn bwysig iddynt ddeall gweithdrefnau rhedeg bywyd ysgol. Enghraifft o hyn oedd gr?p strategaeth TGCh i Benaethiaid oedd yn edrych ar faterion o bwys. Y gobaith oedd y gellid gwneud yr un peth gyda chynhwysiant. 

       Roedd llwyddiannau allweddol oedd angen eu rhannu, megis sicrhau bod staff wedi eu hyfforddi am ysgolion oedd yn gwybod am drawma er mwyn cefnogi plant. Roedd rhaglen Thrive yn sicrhau bod plant yn cael eu meithrin yn briodol, ac roedd hyn yn gweithio’n dda. 

       Cydnabuwyd yr hyn oedd yn gweithio’n dda mewn plant oedd yn cael eu meithrin ac mewn darpariaeth gyffredinol, a holwyd sut y gellid dwyn hyn ymlaen. Nodwyd, pan ddychwelodd plant i’r ysgol wedi’r pandemig, eu bod wedi cael anawsterau wrth setlo i’r ysgol am nifer o resymau, ac roedd hyn yn mynd ochr yn ochr â heriau cymhleth ym mywydau pobl. 

       Esboniodd y Pennaeth Addysg y gwaith oedd yn digwydd yn y cefndir a’r amcanion allweddol oedd ar ffurf drafft fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet  am sylwadau. 

       Wedi’r Nadolig, byddai gr?p yn cael ei sefydlu i Benaethiaid gymryd rhan ynddo. Cafwyd rhai enghreifftiau da o ysgolion heb ganolfannau dysgu ffurfiol wedi ffurfio eu hardaloedd meithrin eu hunain gyda gweithgareddau mewn grwpiau bychain, fel bod y disgyblion yn ffynnu. 

Gofynnodd y Pwyllgor sut roeddem yn recriwtio athrawon. 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod cryn broblem cael Cymorthyddion Dysgu oherwydd ei bod yn farchnad gystadleuol o ran cyflogau. Roedd prinder penodol o athrawon mewn meysydd pwnc allweddol megis athrawon yn y cyfrwng Saesneg oedd yn rhugl eu Cymraeg, ac athrawon Gwyddoniaeth a Mathemateg. Roedd y cyfrwng Cymraeg hefyd yn gryn her. 

Gofynnodd y Pwyllgor am y gwaith trwsio oedd yn dal i ddisgwyl mewn sawl ysgol, ac oherwydd bod rhai disgyblion yn cael eu cludo i leoliadau eraill, a oedd hyn yn effeithio ar ansawdd eu haddysg? 

 

       Dywedodd y Pennaeth Addysg fod cynlluniau wrth gefn yn rhan o’r cynllun parhad busnes yn ei gyfanrwydd, felly petai angen i ddisgyblion fynd i Gynllun B, y byddai hyn yn ddiogel. Pan fyddai’n rhaid i ddisgyblion symud i adeiladau eraill, roedd safon yr adeiladau hynny yn ardderchog. Fodd bynnag, roedd hyn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwasanaethau Addysg: 

 

Croesawodd y pwyllgor yr adroddiad; nid oedd unrhyw sylwadau nac argymhellion penodol.

 

Gwasanaethau Atal a Chynhwysiant: 

 

Croesawodd y pwyllgor yr adroddiad. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiadau dilynol am gynlluniau a phrosiectau yn 2023, sut y byddai prosiectau cymunedol yn cael eu cydgordio gyda grwpiau penodol, a sut roedd y gwaith hwn yn cael ei hyrwyddo yn y gymuned yn ehangach. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw Ganolfannau Cymunedol newydd ar y gweill. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad am yr Academi Ieuenctid, pa gymwysterau a gafwyd ac am ba hyd yr oeddent yn yr academi. 

 

Holodd y Pwyllgor am y risgiau coch a grybwyllwyd yn flaenorol, gan i’r Aelod Cabinet ddweud nad oedd unrhyw risgiau coch, ond eu bod yn ymddangos yn goch i’r aelod Pwyllgor.

 

-           Dywedodd y Swyddog Craffu fod dau fath o liw oren, nid coch, ond y byddid yn ceisio esboniad am hyn.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 140 KB

a)      Actions Arising (Appendix 1)

b)      Forward Work Programme (Appendix 2)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y Daflen Weithredu a’r Blaen-Raglen Waith.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu fod rhai camau ar y Cynllun Gweithredu ar dudalen 59 oedd eto heb eu cyflawni. Holwyd y Cyfarwyddwr Strategol am y rhain, a chadarnhaodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd y pwyllgor yn cael diweddariad am yr amserlen ar gyfer y camau hyn. 

 

7.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

 

6 Rhagfyr 2022 am 10am 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6 Rhagfyr 2022 am 10am 

 

8.

Digwyddiad Byw

Gallwch wylio recordiad o’r cyfarfod yma.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gallwch wylio recordiad o’r cyfarfod yma.