Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Paul Bright, Miqdad Al-Nuaimi a Matthew Pimm
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedodd y Swyddog Craffu wrth y Pwyllgor y byddid yn cytuno ar gofnodion y cyfarfod blaenorol yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2023.
|
|
Cynlluniau Meysydd Gwasanaeth 2022-24 PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwasanaethau Plant
Gwahoddwyd: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol- Sally Jenkins Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc- Natalie Poyner
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.
Cwestiynau:
Gofynnodd y Pwyllgor am y Tîm Rhyngwladol gan nad oedd unrhyw amcanion lles na dyddiad a ragwelwyd ar gyfer cwblhau. • Yroedd y tîm hwn yn cael ei ddatblygu oherwydd y nifer fawr o geiswyr lloches sy’n cyrraedd y porthladd, yn aros mewn gwestai, ac yn symud ymlaen. Mae eraill yn cyrraedd ar hap. Yr oedd rhai teuluoedd Heb Allu Cyrchu Arian Cyhoeddus, ac y mae gan yr awdurdod ddyletswydd i’w cynnal. Felly, roedd angen tîm i gefnogi’r anghenion hyn, ond ni fyddai hyn yn costio’n ychwanegol oherwydd bod y Swyddfa Gartref yn darparu arian ar gyfer pob plentyn sy’n ceisio lloches. • Cadarnhawydfod fformat gwahanol i’r adroddiad yn cael ei anfon i’r Pwyllgor a bod y Tîm Rhyngwladol yn dod dan Amcan Lles 3. Llongyfarchodd y Pwyllgor y gwasanaethau cymdeithasol am y modd maent yn cefnogi teuluoedd o Wcrain mew ffordd ardderchog.
Gofynnodd y Pwyllgor am ail-strwythuro’r Timau Amddiffyn Plant.
• Yroedd 4 tîm Amddiffyn Plant o’r blaen, ond yr oedd galw cynyddol am gefnogi rhai yn eu harddegau, a rhai pobl ifanc yn rhan o Gam-fanteisio ar Blant. Yr oedd Tîm newydd yn cael ei ddatblygu fyddai’n fwy dwys ac yn gweithio gyda phlant 10 oed a h?n, gyda llai o faich achosion i atal y plant hynny rhag mynd i ofal. Yr oedd Rheolwr Tîm eisoes yno, a byddai gweithwyr cymdeithasol sy’n uwch-ymarferwyr yn symud drosodd i’r tîm hwnnw. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd llawer o ymwneud rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a Phenaethiaid ysgolion.
• Gwnaeth tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ymchwil yn ddiweddar oed dyn edrych ar batrymau ymddygiad trwy olrhain rhai pobl ifanc, ac yr oedd clwstwr yn Llanwern oedd yn gweithio gyda phlant bregus. Y canlyniad oed dy gwelwyd fod gan y bobl ifanc anawsterau iaith a lleferydd oedd yn heriol yn y blynyddoedd trosiannol. Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd canran y plant oedd yn aildroseddu
• Nifer fach iawn o blant oedd yn cael eu cefnogi ar orchmynion yng Nghasnewydd – yr oedd 17 i 18% yn gwneud gwaith ataliol gyda llawer o weithgareddau. Yng Nghasnewydd, mae proses o’r enw Mecanwaith Cyfeirio Cenedlaethol sy’n mynd â’r plant hyn i Banel i’w hatal rhag cael eu masnachu, etc., a’u rheoli mewn ffordd fyddai’n eu hatal rhag aildroseddu. Yr oedd y pecyn cymorth hefyd yn cael ei adolygu gan y rheolwr gwasanaeth. • Cadarnhawyd y byddai’r tîm, wedi ei ailstrwythuro, yn gyflawn erbyn Mawrth 2023. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd llawer o blant anabl mewn gofal.
• Ychydigoedd mewn lleoliadau gofal. Mae gan y system 20-30 mewn gofal. Yr oedd rhai o’r rhain yno gyda chydsyniad ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22 PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr yr adroddiad i’r Pwyllgor.
Cwestiynau:
Gofynnodd y Pwyllgor am y Gwasanaeth Ymateb Sydyn i deuluoedd: a oedd arian ar gael yn awr, a pha effaith a gaiff.
• Defnyddiwyd arian adfer o Covid i ehangu’r gwasanaeth, ond yr oedd arian arall ar gael, a chyfeiriwyd at grantiau eraill. • Yrarwyddion cynnar oedd y byddai’r ceisiadau yn llwyddiannus, ond yr oeddem yn disgwyl am gadarnhad. Gofynnodd y Pwyllgor am gefnogaeth addysgol ychwanegol ac a oedd TG yn rhan o hyn.
• Y mae hyn yn digwydd eisoes ac y mae’r tîm yn rhagweithio gyda TG ac yn defnyddio’r offer iawn lle’r oedd llawer o blant yn cwblhau cyrsiau a sesiynau ar-lein, a bod hyn yn gadarnhaol. Yr oedd Cynadleddau Amddiffyn Plant yn rhedeg yn well, a mwy o gydweithwyr o Iechyd yn bresennol. • Yroedd technoleg i weithio gyda phobl h?n hefyd yn bwysig. Byddai cleifion dementia yn derbyn babanod electronig i’w dal, ac yr oedd hyn yn llesol iawn iddynt. Byddai newidiadau mawr iawn yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gofynnodd y Pwyllgor am adnoddau ariannol a chynlluniau’r gwasanaeth at y dyfodol.
• Nid oedd 2021-2022 yn flwyddyn nodweddiadol oherwydd derbyn grantiau adfer o Covid. • Bu tanwario oherwydd y grantiau, felly nid yw hyn yn cynrychioli’r gyllideb i mewn i 2022-23. Bu peth gorwario, megis y lleoliadau i famau a’u babanod, plant yn ceisio lloches, etc. Y gwir yw bod y gyllideb yn awr yn wahanol iawn. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Covid yn dal i greu pwysau ariannol.
• Yr oedd Covid yn dal i greu pwysau oherwydd y canlyniadau megis afiechyd meddwl ymysg oedolion. • Yr oedd staff yn absennol gyda Covid gan ei fod yn dal o gwmpas, ac yr oedd yn waith caled cadw staff. Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am staffio ac effaith salwch ar y staff.
• Nid oedd niferoedd mawr o staff yn absennol, ac yr oedd modd rheoli’r lefelau. Gofynnodd y Pwyllgor am swyddi gwag yn y gwasanaethau cymdeithasol
• Yr oedd 21% o swyddi gwag am weithwyr cymdeithasol yn y gwasanaethau plant • Tebyg oedd y graddfeydd mewn gofal preswyl.
|
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr oedd y Pwyllgor eisiau cyfoesiadau am y Rhaglen Dileu, Camu-Lan Camu Lawr, a landlordiaid cofrestredig yn ogystal â chyfoesiad am y plant heb eu cofrestru.
Byddidyn cytuno ar ddyddiad i’r Pwyllgor ym Mawrth 2023 ar gyfer y cyfoesi a’r cyflwyniad am y Rhaglen Dileu a chytunodd y Pwyllgor i gynnull cyfarfod ychwanegol ar gyfer y cyflwyniad hwn.
Byddaiaelodau yn cael deunyddiau diogelu i’w dosbarthu.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 140 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Actions Arising (Appendix 2)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai’r cyfarfod nesaf ar 24 Ionawr 2023 fyddai’n edrych ar y cynigion drafft am y gyllideb.
Hysbysodd yr Ymgynghorydd Craffu’r pwyllgor fod rhai camau wedi eu dwyn ymlaen.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf 24 Ionawr 2023 am 10am
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 24 Ionawr 2023 am 10am
|
|
Digwyddiad Byw Gallwch wylio recordiad o’r cyfarfod yma.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gallwch wylio recordiad o’r cyfarfod yma. |