Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorydd P. Bright
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 108 KB Cofnodion: Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth atodol gan y Swyddogion ynghylch yr ymateb a roddwyd ar y Gwasanaeth Ieuenctid, gan nodi faint o amser sy'n cael ei dreulio’n gweithio wyneb yn wyneb o’i gymharu â gwaith gweinyddol. Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25
Gorffennaf 2023 yn gofnod gwir a chywir.
|
|
Adroddiad Deilliannau Arolygon Estyn 2022-23 PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd
Cynnar yr adroddiad. Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg
drosolwg o'r adroddiad.
·
Nododd y Pwyllgor y thema
ynghylch yr angen am welliannau Cymraeg ail iaith ar draws
argymhellion yr adroddiad a theimlai ei bod yn bwysig i blant feddu
ar fwy o Gymraeg. Gofynnodd y Pwyllgor pa ystyriaeth a oedd wedi'i
rhoi i'r gwelliannau oedd eu hangen. Sicrhaodd y Prif Swyddog
Addysg y Pwyllgor fod cefnogaeth ar gyfer ysgolion i fynd i'r afael
â’r argymhellion. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd a oedd yn
gysylltiedig â gwella Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng
Saesneg ac a ddarparai becynnau cymorth i ysgolion. Fe wnaethon nhw
dynnu sylw at y cyfleoedd i athrawon fynychu ystod o gyrsiau i
wella sgiliau Cymraeg. Nodon nhw fod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
(GCA) yn gallu mynd i ysgolion a gweithio gydag athrawon i wella
cynlluniau gwersi a’u cyflwyno nhw. Tynnodd y Dirprwy Brif
Swyddog Addysg sylw at y ffaith mai dyma'r arolygiadau cyntaf ers
Covid, a bod y pandemig wedi effeithio
ar ddatblygiad y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf
o ysgolion yn cymryd rhan yn Cymraeg Campus.
·
Nododd y Pwyllgor y
gwelliant mewn Safonau Cymraeg ond gofynwyd a allai Cyngor Dinas Casnewydd wneud mwy i
sicrhau gwelliannau. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg sicrwydd i'r
Pwyllgor ei fod yn hyderus ynghylch y cyfleoedd am gefnogaeth ar
gyfer sgiliau Cymraeg. Nododd fod gwella sgiliau Cymraeg yn thema
genedlaethol mewn ardaloedd tebyg. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg
y Pwyllgor y byddent yn parhau i fonitro lefelau
ymgysylltu. · Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr argymhelliad ynghylch bwyta'n iach wedi'i adnabod cyn yr arolygiad ac os felly, beth oedd wedi'i wneud i fynd i'r afael ag ef ac a oedd ysgolion tebyg yn cael eu hystyried o ran arfer gorau i gefnogi Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor fod cynllun datblygu wedi’i greu a'i gymeradwyo, gyda'r ysgol yn cael ei monitro bob hanner tymor. Fe ddwedon nhw wrth y Pwyllgor y byddai ymweliad â'r ysgol i adolygu prosesau monitro/gwerthuso a rhoi cymorth a chyngor pellach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y byddent yn gallu rhoi diweddariadau i ddangos cynnydd. Dwedodd y Pwyllgor y byddent fel arfer yn cyfarfod ag ysgolion i drafod blaenoriaethau a chynlluniau datblygu a sicrhau polisïau monitro cadarn ond nad oedd yn gallu gwneud hyn gydag ysgolion cynradd ar hyn o bryd oherwydd gweithredu sy'n brin o streic. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y byddai’r GCA yn ymweld ac yn adolygu’r un dystiolaeth â'r awdurdod i weld a yw'r un casgliadau yn gyffredin, a bod y GCA wedi ymweld â'r ysgol ac nad oedd wedi canfod unrhyw broblem o ran yr agwedd bwyta'n iach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor, nawr bod yr ysgol bellach yn cael ei hadolygu, y gallent ymweld â'r ysgol a'i monitro er mwyn dangos hyder i Estyn. Fe ddwedoon nhw wrth y Pwyllgor, os oedd pryder am ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Cofnodion: · Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion a’r ysgolion am eu gwaith caled parhaus. · Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar yr adroddiad. · Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd dilyniant a gwelliant yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli yn dilyn ei adroddiad arolygu. · Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd y gwaith parhaus i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion a gofyn am fwy o wybodaeth am ba adnoddau sydd ar gael ac a ddefnyddir mewn ysgolion i hyrwyddo hyn.
·
Gofynnodd y Pwyllgor am
adroddiad gwybodaeth ar ba waith allgymorth sy'n cael ei wneud gyda
disgyblion a theuluoedd sy'n cael trafferth dychwelyd i'r ysgol ar
ôl Covid, y rhai sy'n cael
trafferth gyda phresenoldeb a phlant nad ydynt mewn addysg,
hyfforddiant na chyflogaeth. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 140 KB a) Actions Arising (Appendix 1) b) Forward Work Programme Update (Appendix 2) c) Information Reports (Appendix 3)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a) Camau Gweithredu sy'n Codi (Atodiad 1) Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y ddalen ar gamau gweithredu. b) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith (Atodiad 2) Dwedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor na fu unrhyw newidiadau i'r Flaenraglen Waith. c) Adroddiadau Gwybodaeth (Atodiad 3) Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y bu un adroddiad gwybodaeth y mis hwn ynghylch Camfanteisio ar Blant. Dwedodd yr Ymgynghorydd Craffu nad oedd unrhyw gwestiynau wedi eu hanfon ymlaen yngl?n â hyn, a bod y Cadeirydd wedi diolch ar ran y Pwyllgor i’r Swyddogion a chymeradwyo eu gwaith.
|
|
Live Event Cofnodion: |