Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Iau, 5ed Tachwedd, 2020 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Scrutiny Team  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd K Critchley a Gareth Price

 

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 74 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

2020/21 Adolygiadau Canol Blwyddyn y Cynllun pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Gyfraith a Rheoleiddio

Gwahoddedigion

-          Y Cynghorydd Ray Truman - yr Aelod Cabinet dros y Gyfraith a Rheoleiddio

-          Mathew Cridland - Rheolwr y Gwasanaethau Rheoliadol - Safonau Masnachol)

-          Jonathan Keen - Rheolwr y Gwasanaethau Rheoliadol - Yr Amgylchedd a'r Gymuned

 

Ymddiheurodd yr Aelod Cabinet ar ran Bennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd salwch. Rhoddodd y Cadeirydd a'r pwyllgor eu dymuniadau gorau am wellhad cyflym. Rhoddwyd trosolwg o'r adroddiad i'r pwyllgor. Dywedwyd bod gwaith y chwe mis cyntaf wedi canolbwyntio ar Covid-19, gan fod portffolio'r Aelod Cabinet yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwaith Covid-19 sy'n cael ei wneud. Mae tua 19 o staff wedi'u symud o’u gwaith arferol a'u dargyfeirio i wneud gwaith ar gyfer y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu rhanbarthol. Ond o ystyried yr heriau y mae'r gwasanaeth wedi'u hwynebu, bu cyflawniadau mawr.

 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoliadol wrth y pwyllgor fod mwyafrif helaeth o waith Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd wedi bod yn gysylltiedig â gorfodi Covid-19, yn enwedig o ran busnesau a sicrhau bod yr holl fesurau rhesymol a gofynion ymbellhau cymdeithasol wedi'u bodloni. Mae gwaith gwyliadwriaeth wedi'i ohirio, ond mae'r gwaith twyll fasnachwyr risg uwch wedi parhau ac wedi cael ei reoli i'w gynnal.

 

Rhoddwyd rhai ffeithiau a ffigurau i'r pwyllgor yngl?n â’r gwaith a oedd wedi digwydd. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, mae timau Trwyddedu a Safonau Masnach wedi rhoi cyngor ar gydymffurfiaeth Covid-19 ar 1451 o achlysuron, wedi cwblhau 1008 o arolygiadau cydymffurfiaeth Covid-19 ac wedi cynnal 1993 o asesiadau cydymffurfiaeth. Roedd modd cwblhau asesiadau o bell hefyd, a arweiniodd at gyfradd gydymffurfio o 93%. Roedd hon yn gyfradd ymateb ragorol ond mae'r 7% yn ymwneud â diffyg cydymffurfio, felly roedd yn rhaid gorfodi mewn rhai ardaloedd. Roedd 26 o rybuddion gwella safle wedi'u cyflwyno am ofynion Tracio ac Olrhain a fethwyd yn flaenorol. Mae 3 safle wedi'u cau o ganlyniad i waith gorfodi cudd ac ataliwyd trwydded safle 1 clwb nos am dri mis gan yr oedd yn gweithredu fel clwb nos yn ystod y cyfnod clo.

 

Cwblhawyd llawer o waith partneriaeth ac amlasiantaeth gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill y Cyngor, gan gynnwys adrannau eraill yn y Cyngor. Trosglwyddodd cydweithwyr yn adran Iechyd yr Amgylchedd broblemau yr oeddent wedi dod o hyd iddynt mewn safleoedd busnes, a alluogodd y Tîm Safonau Masnach i ymweld â'r safleoedd hynny a gwneud gwaith gorfodi a rhoi rhybuddion. Roedd y Tîm Safonau Masnach hefyd wedi gweithio ar ymchwiliadau ymyrraeth a rhybuddion yn y cyfryngau o dwyll fasnachwyr. Mae hyn wedi rhoi pwysau ar waith arferol yr awdurdod lleol, felly mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i bum swyddog i gefnogi gwaith gorfodi ac amddiffyn defnyddwyr.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoliadol - yr Amgylchedd a'r Economi drosolwg o'i adran. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am rai o'r mesurau Ambr a Choch. -

 

Pwynt 6 ar dudalen 25 – Rheoli Ansawdd Aer Lleol - Mae rheolwr bellach wedi bod yn ei  ...  view the full Cofnodion text for item 4.