Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorwyr Chris Evans, Charles Ferris a Martyn Kellaway |
|
Datgan diddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21 PDF 324 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adfywio, Buddsoddi a Thai Gwahoddedigion: - Tracey Brooks - Pennaeth Dros Dro, Adfywio, Buddsoddi a Thai - Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddi
Cyflwynwyd trosolwg cryno i'r pwyllgor o'r adroddiad gan y Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai dros dro i dynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd allweddol a wynebodd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Tynnodd y Swyddog Arweiniol sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o fewnwelediad i heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod cyfnod y pandemig a gafodd effaith sylweddol ar y gwasanaeth, er enghraifft, roedd yn golygu delio llawer â thrigolion sy'n agored i niwed ond hefyd darparu gwasanaethau fel arfer yn sgil y ffordd newydd o weithio.
Hysbyswyd y pwyllgor o’r modd yr ymatebodd y gwasanaeth i'r her drwy barhau i gefnogi'r hybiau cymdogaeth. Awgrymwyd ei bod mewn gwirionedd yn flwyddyn dda i'r canolfannau cymunedol gan mai dim ond ychydig cyn Covid-19 y lansiwyd y model gweithredu. Dangosodd hyn sut y llwyddodd cydweithwyr yr Hybiau Cymunedol a gwasanaethau partner ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd a gwasanaethau hanfodol iawn naill wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau rhithwir. Nodwyd hefyd i ardaloedd Dechrau'n Deg barhau i gadw’i fynd oherwydd cefnogaeth y tîm a bod parseli bwyd yn dal i gael eu danfon i'r rhai a oedd yn gorfod hunan-warchod. Roedd bwndeli babanod hefyd yn cael eu hanfon at lawer o famau newydd mewn angen.
Pwysleisiodd y swyddog wrth yr aelodau fod effaith sylweddol ar y gwaith datblygu economaidd. Ond er gwaethaf hyn, sicrhawyd y pwyllgor nad oedd yn atal dyheadau'r tîm i dyfu Casnewydd fel Dinas ac nad yw hyn wedi atal gwaith adnewyddu ac adfywio yn y ddinas. Er enghraifft, mae'r gwaith yn parhau ar gyfer yr Arcêd Canolog a hefyd ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd a fyddai'n datgloi safle i Goleg Gwent gael campws newydd. Esboniodd y swyddog fod hyn yn dangos sut roedd y tîm yn gweithio'n dda o dan bwysau i ymateb i'r pandemig yn unol â hynny, ond bu'n rhaid i’r tîm hefyd yrru'r gwasanaeth yn ei flaen gyda chyfleusterau a chyfleoedd pellach.
Eglurwyd i'r pwyllgor mai maes mwyaf heriol y gwasanaeth oedd yr effaith ar ddigartrefedd yn sgil y pandemig. Ceisiodd y tîm yn galed iawn ddarparu ar gyfer pobl a oedd yn ei chael hi'n anodd yn wyneb colli 300 a mwy o unedau, a oedd fel arfer yn cael eu defnyddio i gartrefu'r bobl hynny. Dwedwyd wrth y pwyllgor fod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig ond awgrymodd fod galw mawr wedi bod am lety dros dro oherwydd nad oedd llawer o westyau'n gweithredu a’u bod fel arfer yn defnyddio gwestyau ar gyfer anghenion llety'r tîm. Ond er gwaethaf hyn, camodd y tîm i’r adwy a chyflawni yn wyneb heriau sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd Arweinydd y Cyngor yn cytuno â'r Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai.
Agorodd y cadeirydd ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 375 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddedigion: · Neil Barnett – Ymgynghorydd Craffu
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dwedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau a oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod pwyllgor nesaf:
Dydd Llun 6 Medi 2021 · Cymorth i Staff · Strategaeth Twf Economaidd a Chynllun Adfer Economaidd – ArgymhellionMonitro
Dydd Llun 1 Tachwedd 2021 · Adolygiadau Canol Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2021-22 ar gyfer: - Y Gyfraith a Rheoleiddio - Pobl a Newid Busnes
Daeth y cyfarfod i ben am 5.20pm
- People and Business Change
|