Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 22ain Mawrth, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cynghorwyr M Al-Nuaimi, M Kellaway ac M Linton

 

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 551 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Gorfodi Cyfyngiadau Busnes COVID pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Presennol:

-       Mathew Cridland (Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol - Safonau Masnachol)

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol drosolwg byr i'r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried. Roedd hyn yn cynnwys Crynodeb o Allbynnau'r Adran, a nododd nifer yr archwiliadau, yr hysbysiadau a gyhoeddwyd a chyfanswm nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod Safonau Masnach a Thrwyddedu wedi rhoi cyngor i fusnesau ar dros 2,000 o achlysuron ers diwedd mis Mawrth 2020, wedi cwblhau 3,000 o archwiliadau ac wedi asesu cydymffurfiaeth ar 4,000 o achlysuron.  Roedd 74% o'r archwiliadau hyn yn cydymffurfio a chydymffurfiodd 16% tra bod swyddogion yn y safle, yn dilyn cyngor. Roedd angen ymchwilio ymhellach i 10%. Rhoddwyd 45 o hysbysiadau gwella safleoedd ynghyd â 7 hysbysiad cau a gofynnwyd am 3 adolygiad trwydded.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gwaith a wnaed yn ystod y cyfyngiadau clo cychwynnol pan orchmynnwyd llawer o fusnesau i gau a dim ond busnesau hanfodol oedd yn parhau i fod ar agor i gwsmeriaid. Roedd yn rhaid i'r rhai a ganiatawyd i aros ar agor sicrhau bod popeth yn ddiogel drwy reoli ciwiau a niferoedd, sicrhau cadw pellter cymdeithasol a gosod arwyddion hylendid ac ati. Cysylltodd y timau perthnasol â phob busnes unigol ar eu cronfa ddata, gan sicrhau eu bod yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt a bod llinell ar ddyletswydd wedi'i sefydlu'n gyflym i roi cyngor. Cynhaliwyd patrolau hefyd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau.  Y mathau o faterion a gododd oedd adeiladau megis tafarndai lle'r oedd gerddi cwrw agored yn cael eu defnyddio, yr oedd y perchennog yn credu eu bod yn ddiogel, ond a oedd, mewn gwirionedd, yn torri'r rheoliadau ar y pryd. Hefyd trinwyr gwallt a barbwyr yn gweithredu yng nghartrefi pobl.

 

Wrth gynnal y gwiriadau hyn, bu cynnydd hefyd mewn sgamiau a materion safon masnachu i ddelio â hwy megis codi prisiau am nwyddau a gwasanaethau, gwrthod ad-daliadau am wyliau a ganslwyd ac offer amddiffynnol personol a diheintydd dwylo anniogel.

 

Wrth i'r gyfradd achosion leihau yn y gwanwyn, cynhaliodd y staff wiriadau ar archfarchnadoedd i sicrhau bod yr arwyddion, y cyfarwyddiadau i symud o amgylch y siopau ac ati yn ddigonol. Cysylltwyd â'r holl Reolwyr siopau a rhoi cyngor iddynt fel eu bod yn gwybod yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ganddynt yn y cyswllt hwn. Gweithiodd y Gwasanaeth yn agos gyda'r Heddlu yn ystod y pandemig a hefyd gyda Phriffyrdd Gwasanaethau'r Ddinas er mwyn trefnu mannau bwyta awyr agored yng Nghanol y Ddinas i alluogi cwsmeriaid i gyrchu gwasanaethau yn ddiogel ac yn unol â chyfyngiadau a rheoliadau Covid-19.  Ymchwiliwyd yn drylwyr i anwybyddu amlwg neu ddiffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau gan 2 safle trwyddedig yng Nghanol y Ddinas ac ataliwyd eu trwyddedau.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn defnyddio’ dull YEAG tuag at orfodi, sef 'Ymgysylltu, Esbonio, ac Annog', ac fel dewis olaf, 'Gorfodi'. Dangosodd y ffigurau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad fod y lefelau cydymffurfio yn uchel drwy ymgysylltu ac annog, a bod yr angen  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Teithio Llesol pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Mynychwyr:

-       Joanne Gossage (Rheolwr Gwasanaeth - Amgylchedd a Hamdden)

-       Leah Young (Swyddog Prosiectau Teithio Llesol)

-       Luke Stacey – Swyddog Datblygu Mynediad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus

-       Paul Jones - Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas

 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth ac aelodau'r Tîm drosolwg i'r Pwyllgor o'r Cynllun Teithio Llesol, gan dynnu sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried.  Gosododd y brif Ddeddf nifer o ddyletswyddau ar yr awdurdod lleol i hwyluso teithio llesol.  Roedd hyn yn bennaf drwy greu, uwchraddio, mapio a hyrwyddo'r llwybrau a'r gweithgarwch yn gyffredinol er mwyn gallu nodi'r cynlluniau yr oedd y Cyngor am eu datblygu.

 

Dangoswyd ffilm animeiddio fer i'r Pwyllgor a eglurodd y gwaith a wnaed gan yr adran, a rhoddodd hwn drosolwg sylfaenol o gynigion Teithio Llesol.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, roedd yr Adran wedi bod yn gweithio'n galed i wella'r llwybrau cerdded a beicio heb fawr o darfu o amgylch y ddinas ar ôl eu cwblhau. Nid yn unig y byddai'r llwybrau'n well, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb, ond hefyd byddent yn cyflymu amser teithio. Drwy adeiladu teithio llesol i mewn i deithiau bob dydd, byddai'n gwella iechyd corfforol, yn cefnogi lles meddyliol, yn helpu'r amgylchedd ac yn gwella'r gymuned leol a'r economi.

 

Roedd yr Adran wedi ymchwilio i ddichonoldeb a hygyrchedd llwybrau.

Bu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori dros y pum mlynedd diwethaf.  Roedd y cyntaf o'r rhain yn 2015 pan nodwyd y rhwydwaith llwybrau presennol a'r ail yn 2017, lle nodwyd y map rhwydwaith integredig ar gyfer y llwybrau arfaethedig. O ganlyniad i'r ymgynghoriadau hyn, roedd y cyhoedd wedi awgrymu lle roeddent am gael llwybrau ac yna ymchwiliwyd i ddichonoldeb y llwybrau awgrymedig hynny. Dangoswyd sleidiau'n nodi’r llwybrau teithio presennol ac yn awgrymu rhwydweithiau beicio integredig. Ers 2015 roedd rhai llwybrau wedi'u cwblhau a byddai'r map yn cael ei ddiweddaru fel rhan o'r Adolygiad Map Rhwydwaith sydd ar y gweill.

 

Fel rhan o ymgynghoriad Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, roedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgysylltu â phartneriaid, y cyhoedd, pobl â nodweddion gwarchodedig a phlant i annog mwy o bobl i gerdded a beicio.  Yn ystod y cam cychwynnol (Chwefror / Mawrth 2021) ceisiwyd adborth gan yr holl randdeiliaid a'r cyhoedd ar y rhwystrau a oedd yn cadw pobl rhag cerdded a beicio yn eu hardal.   Byddai drafft cyntaf o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Casnewydd yn cael ei baratoi yn seiliedig ar yr adborth hwn.  Yna, byddai'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol cymeradwy yn mynd at Lywodraeth Cymru yn yr hydref 2021 er mwyn ymgynghori’n statudol arno a throsglwyddir yr MRhTLl terfynol i Lywodraeth Cymru erbyn 31/12/2021.

 

Dangoswyd fideo byr yn hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd ar gyfer y prosiectau, y llwybrau presennol a pha welliannau y gellid eu gwneud.  Hysbyswyd y Pwyllgor ar faint o ymwelwyr, cyfraniadau, sylwadau a chytundebau a wnaed.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Soniodd aelod yn gadarnhaol am y goleuadau ar hyd llwybr troed Coed Melyn a gofynnodd am ddarparu biniau gwastraff ychwanegol ar gyfer baw c?n.

Atebodd y Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 291 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynychwyr:

·                Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

a)         Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dwedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod pwyllgor nesaf:

 

Dydd Llun 7 Mehefin 2021 am 4pm, eitemau'r agenda;

·               Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2021-22 ar gyfer;

-    Y Gyfraith a Rheoleiddio

-    Pobl a Newid Busnes

 

·               Blaenraglen Waith Flynyddol 2021-22, Fersiwn Ddrafft

 

 

Dydd Llun 21 Mehefin 2021 am 4pm, eitemau'r agenda;

·               Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2021-22

-    Gwasanaethau’r Ddinas

-    Cyllid

-    Adfywio, Buddsoddi a Thai