Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 15fed Ionawr, 2024 12.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Linton

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2023 a 11 Rhagfyr 2023 yn gofnod gwir a chywir, gyda'r diwygiad canlynol:

 

27 Tachwedd 2023 – tudalen 8, pwynt 6 – "Nododd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai sicrhau bod yr holl ffyrdd heb eu mabwysiadu’n bodloni'r safon ofynnol yn costio £12 miliwn, nad yw'n ymarferol o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol." Roedd y Pwyllgor yn dymuno cynnwys mwy o fanylion o'r drafodaeth yn y cofnodion fel bod trigolion yn ymwybodol o'r broses o fabwysiadu ffyrdd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei ddiwygio.

 

 

4.

Cyllideb 2024-25 a Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Paul Jones – Cyfarwyddwr Strategol – Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

-       Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol – Y Ganolfan Gorfforaethol a Thrawsnewid

-       Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid

-       David Walton – Pennaeth Tai a Chymunedau

-       Silvia Gonzalez-Lopez – Pennaeth yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd

-       Stephen Jarrett – Pennaeth Seilwaith

-       Elizabeth Bryant – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

-       Tracey Brooks – Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd

-        Tracy McKim - Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid drosolwg byr o broses y gyllideb.

 

Buddsoddiadau a Phwysau Cyllidebol

Trafodwyd y canlynol:

 

Tai a Chymunedau

Diffyg yn y cymhorthdal Budd-dal Tai sy'n deillio o'r galw cynyddol am lety dros dro

·   Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y gostyngiad yn y grantiau Cymunedau am Waith gan Lywodraeth Cymru a'i effaith ar wasanaethau digartrefedd. Gofynnodd a fyddai'r cyllid ychwanegol arfaethedig o £600,000 yn ddigonol, o ystyried y gorwariant o £1 miliwn o'r flwyddyn flaenorol. Gwnaeth hefyd ofyn am fuddsoddiad asedau strategol i fynd i'r afael â'r ddibyniaeth ar lety gwely a brecwast ar gyfer llety dros dro a digartrefedd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod gwaith parhaus gyda phartneriaid sy’n Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu mwy o lety cymdeithasol a phontio a phwysleisiodd y ffocws ar atal digartrefedd. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Strategol y pwysau cynyddol a'r angen am gynllun hirdymor i fynd i'r afael â digartrefedd, gan dynnu sylw hefyd at yr angen i fonitro effaith newidiadau grant a mireinio'r sefyllfa ariannol yn unol â hynny.

 

Yr Amgylchedd a Diogelu’r Cyhoedd

Costau sy'n gysylltiedig â’r angen cynyddol i gynnal a chadw coed

·   Esboniodd Pennaeth yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd fod y costau parhaus sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw coed, gan gynnwys yr angen am ymyrraeth ar gyfer gwahanol rywogaethau o goed, ar wahân i'r prosiect penodol sy'n mynd i'r afael â chlefyd coed ynn. Priodolir y costau cynnal a chadw i'r angen parhaus i reoli a chynnal a chadw coed ar dir cyhoeddus, priffyrdd mabwysiedig, ysgolion ac ardaloedd eraill oherwydd materion sy'n achosi difrod adeileddol a'r angen i gynyddu gorchudd coed. Mae'r gwaith cynnal a chadw parhaus hwn yn eithaf costus o ran adnoddau.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am y costau a ragwelir ar gyfer cynnal a chadw coed yn ystod y blynyddoedd nesaf, a chadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y ffigurau. Dywedodd y Pwyllgor fod angen cyfathrebu cliriach ynghylch eitemau’r gyllideb o'r fath. Cydnabu'r Pennaeth Cyllid yr awgrym o alinio adroddiadau cyllidebol er mwyn cael gwell eglurder.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am offer a galluoedd y Cyngor ar gyfer cynnal a chadw coed mewn perthynas â chlefyd coed ynn ac a fyddai unrhyw ran o'r £115,000 a ddyrannwyd yn mynd tuag at offer a pheiriannau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y rhan fwyaf o'r gwaith cynnal a chadw coed yn cael ei roi i gontractwyr allanol oherwydd yr angen am beiriannau arbenigol, fel craeniau, na fyddai'n gost-effeithiol i'r Cyngor fod yn berchen arnynt.

·   Gofynnodd y Pwyllgor a allai'r gyllideb a ddyrannwyd o £115,000 ar gyfer cynnal a chadw  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 135 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Gwahoddedigion:

·   Neil Barnett – Ymgynghorydd Craffu

 

a)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yng nghyfarfod y pwyllgor:

 

Dydd Llun 19 Chwefror 2024, yr eitem ar yr agenda;

·   Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

·   Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd

 

b)    Taflen Weithredu

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y daflen weithredu i'r Pwyllgor a rhoddodd wybod am y camau gweithredu wedi’u cwblhau a'r camau gweithredu sydd dal heb eu cwblhau. 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.10pm