Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol - Dydd Llun, 29ain Gorffennaf, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Committee Room 1 / Microsoft Teams

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Councillors Linton, Alex Pimm and Bright

2.

Datgan diddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Adroddiadau Diwedd Blwyddyn 2023-24 pdf icon PDF 148 KB

a)    Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)    Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pobl, Polisi a Thrawsnewid

Gwahoddedigion:

-          Y Cynghorydd Dimitri Batrouni (Arweinydd y Cyngor)

-          Y Cynghorydd Rhian Howells (yr Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith)

-          Y Cynghorydd Pat Drewett (yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Lleihau Tlodi)

-          Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol - Corfforaethol a Thrawsnewid)

-          Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)

-          Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)

-          Mark Bleazard (Rheolwr y Gwasanaethau Digidol)

-          Kevin Howells (Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol)

-          Shaun Powell (Rheolwr Trawsnewid a Gwybodaeth)

 

Rhoddodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid (PPPTh) drosolwg o’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

  • Trafododd y Pwyllgor effaith materion amgylcheddol, fel effeithiau ôl-Covid-19, ar ddiwrnodau salwch. Esboniodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol (RhADDS) fod cynnydd mewn salwch tuag at ddiwedd y flwyddyn yn gyffredin ar draws diwydiannau oherwydd ffactorau fel problemau iechyd meddwl.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai rhannu arferion gorau yn gallu cynyddu gwiriadau ar draws y Cyngor. Dywedodd y RhADDS fod mwy o ymgysylltiad a chyflwyno ymddygiadau a gwerthoedd newydd o'r Cynllun Pobl wedi arwain at gyfraddau gwirio uwch.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am lunio rhestr asedau gynhwysfawr. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Cynllun Rheoli Asedau Strategol ar y gweill, gyda'r nod o adolygu a gwneud y gorau o asedau'r Cyngor ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol, a nododd hefyd gymhlethdod asedau oherwydd graddau amrywiol a phrydlesi gyda phartïon allanol.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am fewnwelediadau o weithdy seiberddiogelwch diweddar. Rhannodd y PPPTh fod y gweithdy yn ddefnyddiol wrth adolygu safonau'r diwydiant a hyfforddiant adfer, gyda chamgymeriad dynol yn ffactor risg sylweddol.

 

  • Awgrymodd y Pwyllgor gynnwys fideos tiwtorial ar gyfer gweithredu gwasanaethau ar-lein yn unig Casnewydd. Dywedodd y PPPTh y bu adolygiad o wasanaeth cwsmeriaid ar draws y Cyngor a oedd â'r nod o wneud y wefan yn fwy hawdd ei defnyddio, gyda chynlluniau i edrych ar dudalennau datrys problemau a chwestiynau cyffredin. Gwnaeth egluro hefyd fod hyn yn dod dan y gwasanaeth Cyllid.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y mesur arbed cyllideb gan arwain at ddiwrnodau cau ychwanegol y Ganolfan Ddinesig. Nododd y PPPTh waith parhaus i reoli'r newid hwn yn effeithiol.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a gysylltwyd ag ymgeiswyr nad oeddent wedi llwyddo mewn cyfweliad. Cadarnhaodd y RhADDS y cysylltir ag ymgeiswyr sy'n methu yn y cam cyfweld os ydynt yn fodlon rhannu gwybodaeth.

 

  • Nododd y Pwyllgor ddryswch ynghylch ffigur ar dudalen 37, gan nodi bod cam gweithredu a oedd i fod i ddod i ben yn 2027 wedi'u nodi fel un wedi’i gwblhau. Eglurodd y PPPTh fod cam o'r gwaith wedi'i gwblhau, nid y darn cyfan.

 

  • Awgrymodd y Pwyllgor welliannau i'r broses adrodd er eglurder ac i fynd i'r afael â dryswch. Cytunodd yr Arweinydd, gan bwysleisio'r angen am adroddiadau cliriach.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynlluniau i ymgorffori rhinweddau o'r Cynllun Pobl. Dywedodd y PPPTh mai'r flaenoriaeth ar gyfer 2024/25 yw cyflawni'r Cynllun Pobl a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â staff.

 

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 153 KB

a)      Camau Gweithredu sy'n Codi (Atodiad 1)

b)      Blaenraglen Waith (Atodiad 2)

c)      Monitro Canlyniadau (Atodiad 3)

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedig:

-          Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

a)    Camau Gweithredu sy’n Codi

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y camau gweithredu sy'n codi.

 

b)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith Flynyddol Ddrafft

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y Flaenraglen Waith Flynyddol ddrafft. Derbyniodd y Pwyllgor y dyddiadau a'r eitemau agenda. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol pe bai'r Pwyllgor yn trafod blaenraglen waith y Pwyllgor yn fanylach yn y cyfarfod nesaf.

 

c)      Monitro Canlyniadau

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y canlyniadau diweddaraf.