1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd Linton.

 

2.

Datgan diddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

2023-24 Cynigion Drafft y Gyllideb a Chynllun Ariannol Tymor Canol pdf icon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

-       Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid

-       David Walton – Pennaeth Tai a Chymunedau

-       Silvia Gonzalez-Lopez – Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd

-       Stephen Jarrett – Pennaeth Seilwaith

-       Elizabeth Bryant – Pennaeth Cyfraith a Safonau

-       Tracey Brooks – Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd

-       Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Alastair Hopkins - Uwchbartner Busnes Cyllid

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg byr o broses y gyllideb, a dweud y bu newid ar hyn o bryd i adlewyrchu lefel yr arbedion. Roedd bwlch o £2 filiwn yn y gyllideb llynedd. Ym mis Chwefror 2022 roedd y CATC yn dangos bwlch o £2 filiwn yn y gyllideb, ac yng Ngwanwyn 2022 cynyddodd chwyddiant, a chafwyd cynnydd yn ogystal mewn costau bwyd a thanwydd, ynghyd â heriau i’r gyllideb megis Tai a Digartrefedd, gyda Gofal Cymdeithasol hefyd yn fater o bwys, a newidiodd y sefyllfa.

 

Yr  oedd adroddiad yr Aelod Cabinet yn dangos y symudiadau, gyda chyflogau yn cynyddu o £6 miliwn. Roedd cynnydd o £18 miliwn o ran chwyddiant contractau, gydag ynni yn rhan fawr o hynny; cododd prisiau nwy, ac roedd chwyddiant hefyd mewn contractau Gofal Cymdeithasol. Roedd pwysau ar y gyllideb Gofal Cymdeithasol, ac angen £3.5 miliwn am Faes Tai a Digartrefedd. Roedd targedau cyllideb am bob maes, a chyflwynwyd gwerth £12miliwn o arbedion mewn cyllidebau yma i’r Pwyllgor. Cadarnhawyd y Grant Cymorth Refeniw (GCR) ym mis Rhagfyr 2022 ac roedd bwlch y gyllideb yn £16 miliwn, gyda’r cynnydd yn y GCR tua 9%. Ymgynghorwyd ar 50% o gynigion y gyllideb, a gwnaed y 50% oedd weddill dan Awdurdod Dirprwyedig.

 

HC2324/01 – Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu Cymunedol Oedolion

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg gryno o’r cynnig i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys newid i’r gwasanaethau gydag arbediad o £110,000 am y flwyddyn ariannol gyntaf, a £15,000 yn y flwyddyn ddilynol. Bwriedir hefyd gwtogi ar oriau agor llyfrgelloedd, gyda Llyfrgelloedd y T?-Du a Betts yn cau am ddiwrnod, gostyngiad yn oriau agor Llyfrgell Malpas, ac ail-lunio Llyfrgell Pilgwenlli gyda gofod llai. Byddid yn arbed mewn meysydd eraill hefyd, megis lleihau oriau staff a mwy o fuddsoddiad mewn benthyca digidol.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

·         Beth fydd swyddogaeth y Llyfrgell Ganolog, ac a fydd gwasanaethau eraill yn cael eu hintegreiddio?

 

Cadarnhawyd y byddai’r Llyfrgell Ganolog yn dod yn hwb cymunedol ac yn bwynt cydgordio, er bod y newidiadau ehangach hynny yn benderfyniadau blaenorol i newid gwasanaethau, heb gysylltiad â’r cynigion hyn.

 

·         Beth fydd yn digwydd i’r staff yr effeithir arnynt, ac a fyddant yn dod yn rhan o wasanaethau eraill?

 

Cadarnhawyd mai cynnig oedd hwn i newid y ffordd y defnyddir yr adeilad, a defnyddio’r staff yn fwy hyblyg.

 

·         Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 10 lle’r oedd arbediad o £110,000 ym mlwyddyn 1, a gwerth £88,000 o gostau yn yr arbediad hwnnw. Beth yw’r swm net?

 

Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod arbediad cylchol yn holl gynigion y gyllideb, felly byddai’r gost unwaith-am-byth yn erbyn yr arbediad cylchol o £110,000 bob blwyddyn.  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 134 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

-       Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y flaen-raglen waith, a hysbysu’r Pwyllgor am yr hyn sydd i’w drafod yn y cyfarfod:

 

Llun 20 Mawrth 2023

-       Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 a 5 Rhagfyr 2022

 

5.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 a 5 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir, gyda’r gwelliannau a’r sylwadau isod:

 

28 Tachwedd 2022

-        Tudalen 116 yr agenda - • Holwyd am y rheoliad parcio ar balmentydd ac a fyddai hyn yn digwydd ledled y ddinas. Nodwyd hefyd fod parcio ar balmentydd wedi ei ganiatáu er mwyn rhoi lle i gerbydau brys.

 

-        Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod hyn wedi dod o Lywodraeth Cymru, a byddant yn ei orfodi er mwyn rhoi blaenoriaeth i gerddwyr. Nododd aelod o’r pwyllgor fod problem gyda pharcio ar balmentydd yn ystod amseroedd codi a gollwng wrth ysgolion, sy’n rhwystro cerbydau brys rhag mynd heibio. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod ganddynt rai pwerau gorfodi gyda hyn, ond ei fod yn anodd gan ei fod yn digwydd dros ardal mor eang ar yr un adegau. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod yn aros am gyfarwyddyd am sut i’w weithredu.

 

Holodd yr Aelodau a ddaeth cyfarwyddyd eto am weithredu hyn? Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y bydd yn mynd ar ôl hyn.

 

Tudalen 116 yr agenda - • Holodd aelod o’r pwyllgor am amserlenni digidol mewn arosfannau bysus a bod y dyddiad targed eisoes wedi mynd heibio.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth ei bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Casnewydd i roi gwybodaeth ddigidol mewn cysgodfannau.

 

Holoddyr Aelodau a oedd unrhyw wybodaeth newydd am yr ymholiad hwn. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd yn mynd ar ôl hyn.

 

 

-        Tudalen 118 – Casgliadau ar y Cynllun Gwasanaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd 2022-24. Gwnaeth y Pwyllgor y sylw y dylid cael targed o ran clirio’r archwiliadau tai aml-drigiannaeth a achoswyd oherwydd y pandemig.

Holodd yr Aelodau a oes unrhyw wybodaeth fwy diweddar am hyn. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd yn mynd ar ôl hyn.

 

 

5 Rhagfyr 2022

-        Tudalen 123 – Cyfeiriwyd yn y cofnodion am geisio cael Casnewydd i fod yn ddinas “Marmot”. Roedd yr Aelodau eisiau gwybodaeth am hyn. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod cyfeiriad at hyn hefyd mewn cyfarfod diweddar o’r PGC – Partneriaethau, a bod dogfen wedi ei hanfon at y Pwyllgor hwnnw yn esbonio egwyddorion Marmot. Byddai’n cael ei anfon hefyd at y Pwyllgor Lle fel mater o gyfeirio.

 

-        Tudalen 125 - Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ar y sefyllfa reoli gyda’r Crwneriaid a’r Heddlu. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd yn mynd ar ôl hyn.

 

-        Tudalen 127 - Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am yr amseroedd aros gyda galwadau yng Nghanolfan Gyswllt y Ddinas. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd yn mynd ar ôl hyn.

 

-        Tudalen 127 – Mae’r un ateb i Bwyntiau 4 a 5. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai’r cofnodion yn cael eu newid.

 

-        Tudalen 129 – Mae angen cyfoesi’r Cynllun Gweithredu, gyda chais y Pwyllgor Cyfraith  ...  view the full Cofnodion text for item 5.