1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Scrutiny Team  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020 yn gofnod gwir a chywir.

 

3.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 2019/20 pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion

       Y Cynghorydd David Mayer - yr Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau

       Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

       Tracy McKim - Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys

       Rachael Davies - Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Rhoddodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes drosolwg o'r adroddiad. Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), mae angen i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a gynhwysir o fewn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gofyn i Awdurdodau Lleol gyhoeddi data cydraddoldeb staff, sydd yn yr adroddiad hwn hefyd.

 

Yr adroddiad hwn yw'r pedwerydd Adroddiad Blynyddol terfynol ar y cynnydd a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol

2016-2020 a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2016. Derbyniodd y Cabinet Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor a chytunwyd arno yn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf ac mae bellach wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan.

Ers gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol yn ôl yn 2016, rydym wedi adeiladu ar ein hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth ac wedi ymgysylltu â staff, wedi ymgynghori â 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

rhanddeiliaid allanol ac wedi cynyddu ein hymgysylltiad â'r gymuned. Galluogodd y cynllun blaenorol i ni greu sail i fesurau ac amcanion, a sut yr effeithiodd y rhain ar ein dinasyddion. Defnyddiwyd y mesurau a roddwyd ar waith gennym drwy'r 9 Amcan Cydraddoldeb i ddangos ein llwyddiannau yn ogystal â nodi lle'r oedd lle i wella. Mae'r newidiadau a wnaed a'r llwybr sydd o'n blaenau yn galonogol; drwy fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r strategaeth hon, symudwn ymlaen gyda phwrpas a gyda chyfeiriad clir o wella bywydau pawb yng Nghasnewydd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o'r flwyddyn ddiwethaf y mae’r canlynol:-

        Cyflwynwyd y Cynllun Prentisiaeth yn llwyddiannus ac roedd CDC wedi cyrraedd rownd derfynol

gwobr Cyflogwr Hyfforddiant y Flwyddyn ACT 2019

        Sefydlwyd 'Cyfarfod Dinasyddion yr UE' a buom yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector yn ogystal â chymunedau lleol yr UE i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn

        Gweithredu ein Rhwydwaith B.A.M.E. yn llwyddiannus, yr ydym yn parhau i adeiladu arno a'i wella er mwyn sicrhau bod lleisiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu clywed wrth wneud penderfyniadau

        Mae'r 'Academi Dysgu yn y Gwaith' wedi creu clybiau swyddi, cyrsiau hyfforddi a darpariaethau hyfforddi 13 wythnos pwrpasol i gefnogi pobl ifanc sy'n chwilio am waith.

        Cymryd rhan yn 'Rhaglen Dinasoedd Cynhwysol' Prifysgol Rhydychen – cyfnewid gwybodaeth mewn perthynas â chymunedau mudol

        Dathlodd y cynllun Goleudy 55+ ar gyfer pobl h?n ei ben-blwydd cyntaf a chefnogodd dros 250 o bobl yn ystod y flwyddyn (mae atgyfeiriadau i'r cynllun cymorth yn ôl yr angen bellach yn cael eu blaenoriaethu i sicrhau yr ymdrinnir ag atgyfeiriadau argyfwng/brys cyn gynted ac effeithlon â phosibl)

        Mae 9 teulu arall (40 o bobl) wedi cael eu hadsefydlu, dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed

        Roedd y gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion

-          Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

-          Chris Humphreys – Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

-          Mary Ryan – Pennaeth Diogelu Corfforaethol

Rhoddodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol drosolwg o'r adroddiad. Roedd yr adroddiad hwn i fod i gael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ym mis Mawrth 2020, oherwydd mesurau Covid nid oedd hyn yn bosibl.

Sicrwydd i'r Cyngor bod pob maes sy'n peri pryder wedi'i adolygu o fis Mawrth. Mae'r meysydd blaenoriaeth wedi newid ychydig oherwydd newid mewn gwelliannau deddfwriaethol oedd yn ddyledus ym mis Hydref 2020, ond sydd bellach yn ddyledus ym mis Mawrth 2022 ar gyfer y gwaith Amddifadu o Ryddid. Adroddir ar gynnydd o fewn holl feysydd y Cyngor yn adroddiad 20/21

Dywedodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol fod yr adroddiad yn gyfuniad o geisiadau craffu i leihau adrodd a chyfarwyddeb Swyddfa Archwilio Cymru ar yr hyn y mae angen ei rannu â Chraffu. Wrth symud ymlaen, mae'r gwasanaeth yn cwblhau pecyn cymorth hunanasesu i holl wasanaethau’r Cyngor ei gwblhau a bydd hyn yn sail i adroddiadau craffu yn y dyfodol. Mae swyddogion CDC yn parhau’n aelodau gweithgar ar bob lefel o Fwrdd diogelu Gwent, ar gyfer plant ac oedolion a hefyd yn parhau i gynnal tîm rhanbarthol VAWDASV ac yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd partneriaeth VAWDASV. Yn ystod 2019/20 cynhaliodd y Cyngor 2 ddigwyddiad rhwydwaith diogelu lleol a fynychwyd gan wasanaethau statudol, arbenigol, gwirfoddolwyr ac Aelodau sy'n gweithio yn Ninas Casnewydd. 

Nododd archwiliad mewnol OEDOLION SY’N WYNEBU RISG wasanaeth da gydag un gwendid wedi'i nodi, yr oedi yng nghyfarfodydd y Strategaeth gyda'r heddlu. Mae hyn bellach yn mynd rhagddo gyda datblygu'r hyb DIOGELU sydd wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ddinesig.

Adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru fod y Cyngor yn ystyried Diogelu yn rhan bwysig o'i weithgareddau corfforaethol, a'i foeseg yw bod Diogelu yn cynnwys pob un ohonom

AGC: 1.Gwasanaethau oedolion â phwyslais penodol - cadarnhaol

         2. Cyngor, cymorth a gwybodaeth â phwyslais penodol - ar gyfer plant ac oedolion. nodwyd bod y broses glir ar gyfer dinasyddion ac o gyd-leoli gwasanaethau'r heddlu a MU yn gadarnhaol iawn.

JICPA: AROLYGIAD CYNTAF AR Y CYD O'R HOLL AROLYGIAETHAU YNG Nghymru, a dreialwyd yng Nghasnewydd o fewn y gwasanaethau plant ym mis Rhagfyr 2019. Adroddiad cadarnhaol, trefniadau cydweithio effeithiol a datblygu'r offeryn asesu risg ar gyfer camfanteisio'n droseddol ar blant, maes tystiolaeth o weithio'n gryf mewn partneriaeth.

Yna rhoddodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol wybod i'r pwyllgor am y datblygiadau diweddaraf 

-

1.Lansiwyd yr hyrwyddwyr diogelu ym mis Ionawr 2020 gan barhau drwy gydol y cyfnod cloi drwy ddulliau rhithwir i gefnogi pob gwasanaeth o fewn y Cyngor.

2.Gohiriwyd E-ddysgu Gorfodol ar gyfer yr holl staff, gwirfoddolwyr ac aelodau newydd oherwydd gofynion covid, ond fe'i lansiwyd ym mis Awst 2020 ac anogwyd yr holl staff a gwasanaethau i'w cwblhau. Bydd y perfformiad hwn yn rhan o adrodd i graffu.

3.Mae'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant haenog gan gyfeirio at ddiogelu ar gyfer yr holl staff, gwirfoddolwyr ac Aelodau yn parhau a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu

a) Diweddariad Rhaglen Waith

b) Camau Gweithredu sy'n Codi

c) Adroddiadau Gwybodaeth

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

                   - Gareth Price - Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wybod i’r Pwyllgor am y pynciau a fyddai’n cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor:

29 Ionawr 2021, yr eitemau ar yr agenda yw:

                   -       Cyllideb 2021-22 ac Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig