Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 120 KB Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2021 fel rhai cywir.
|
|
Y Normal Newydd - Model Gweithredol Cyngor Dinas Casnewydd PDF 181 KB Cofnodion: Gwahoddwyd; - Rhys Cornwall, Pennaeth Pobl a Newid Busnes
Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes drosolwg o’r adroddiad, gan ymdrin yn gyntaf â’r rhan sy’n delio â Theithio Llesol. Mae Casnewydd ar hyn o bryd yn rhan o Rwydwaith Teithio Llesol Gwent, a chyn y pandemig, yr oedd arolwg wedi’i anfon at weithwyr ynghylch y modd maent yn cyrraedd y gwaith. Rhestrwyd y rhwystrau i deithio llesol yn yr adroddiad, ac y maent yn debyg i ymatebion o fannau eraill, fel y disgwyl am gerdded a beicio. Aiff yr adroddiad i’r Cabinet ar 7 Gorffennaf 2021, gyda chyfres o argymhellion, ac yna bydd angen ymgynghori â’r staff. Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes ddiweddariadau am y sefyllfa bresennol:
Menter Gweithio o Bell Cymru Llywodraeth Cymru Dywedwydfod Llywodraeth Cymru (LlC) yn sefydlu hybiau gweithio o bell ledled Cymru. Mae Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) yn gweithio gyda LlC ar y fenter hon, a’r nod yw i 30% o’r gweithlu weithio o bell gartref neu’n agos at gartref. Mae’r fenter yn anelu at gynyddu gallu staff i gymudo am bellter byr at eu hwb gweithio, o ddewis trwy deithio llesol. Yn ddelfrydol hefyd, bydd yr hybiau hyn yng nghanol trefi.
Newid Hinsawdd Fel dinas ar yr M4, mae ansawdd aer yn bwnc o bwys mawr. Gorau po leiaf o gerbydau fydd yn teithio i Gasnewydd, gan fod traffig yn cyfrannu llawer at lygredd aer yng Nghasnewydd.
Staff O ran technoleg, mae llawer o waith yn digwydd i wella Strategaeth Ddigidol Casnewydd, ond ni fydd yn rhaid i’r Cabinet wneud unrhyw benderfyniadau am hyn. Buddsoddwyd dros y blynyddoedd diwethaf i wella agwedd ddigidol Casnewydd. Bydd lles, tâl a datblygiad personol yn faterion allweddol. Mae’r Cyngor wedi cynnal arolygon am les staff sy’n gweithio o gartref, ac y mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion yn awgrymu y bu gweithio o gartref yn fanteisiol i unigolion. Y sefyllfa gyffredinol yw bod yn rhaid i ni fel cyngor edrych ar y ffordd yr ydym yn cefnogi lles staff yn y byd gwaith. O ran tâl, mae cynllun hawlio treth ar gael sy’n caniatáu i weithwyr beidio â chael eu trethu ar yr arian a gânt am weithio o gartref. Mae’r Cyngor eisiau sicrhau bod hyn ar gael i weithwyr. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad dweud y mae’r cyngor fod unrhyw staff yn gorfod gweithio o gartref yn unig. Yr elfennau allweddol yw lles a datblygiad personol, ac y mae’n bwysig fod staff yn teimlo eu bod yn rhan o’r sefydliad.
Esboniodd y Rheolwr AD a DS fod y Cyngor yn ystyried sut i helpu pobl i weithio o bell, yn enwedig o ran hyfforddi a datblygu. Mae ei thîm am roi pecyn o gefnogaeth at ei gilydd fel y gall pobl weithio o bell dros y tymor hir, i gynnal eu ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 138 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Actions Arising (Appendix 2)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd; - Neil Barnett – Ymgynghorydd Craffu
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y blaen-raglen waith, a hysbysu’r Pwyllgor o’r pynciau i’w trafod yn y ddau gyfarfod nesaf:
9 Gorffennaf 2021 - Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2020/21 - Adroddiad Blynyddol Gwybodaeth am Risg - Adroddiad Digidol Blynyddol
30 Gorffennaf 2021 - GGMC Parciau
Dywedoddyr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y gofynnwyd am gyfarfod arall ym mis Gorffennaf er mwyn craffu ar y GGMC Parciau am ei fod i’w adnewyddu. Cytunwyd i’r cyfarfod ychwanegol hwn gyda Chadeirydd y Pwyllgor.
|