Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror yn gywir . Materionyn Codi:
Dywedoddyr Aelodau eu bod eisiau derbyn y cofnodion drafft ymhen wythnos o’r cyfarfod. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y bydd hyn yn cael ei wneud ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.
|
|
Pill PSPO - 2021-2024 (Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus) Ar ôl Ymgynghori PDF 5 MB Cofnodion: Gwahoddwyd: - Rhys Thomas (Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio) - Gareth Price (Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio) - Cynghorydd Ray Truman (Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio) - Sarjant Mervyn Priest (Heddlu Gwent) - Cynghorydd Tracey Holyoake (Cynghorydd Ward Pilgwenlli – Cyngor Dinas Casnewydd)
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC). Mae’r adroddiad hwn yn rhoi casgliadau’r ymgynghoriad a wnaed o ganlyniad i adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor 2 fis yn ôl. Aeth y broses ymgynghori rhagddi, a derbyniwyd dros 150 o ymatebion. Y farn lethol o’r ymgynghoriad oedd fod cefnogaeth eang i gyfyngiadau’r GGMC.
Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:
Holodd yr Aelodau a oedd modd cyfoesi’r adroddiad i adlewyrchu union nifer y cyfranogwyr oedd o blaid neu yn erbyn yr eitemau, yn hytrach na dim ond canrannau.
Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad.
• Gofynnodd yr Aelodau am grynodeb o’r canlyniadau hyn o arolwg ymwneud y cyhoedd.
Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr adroddiad yn amlinellu rhai o’r themâu sy’n digwydd dro ar ôl tro gan yr ymatebwyr; er enghraifft, nodwyd sbwriel mewn nifer o sylwadau. Y farn gyffredinol yw bod cefnogaeth eang i’r GGMC hwn. Yr oedd rhan fwyaf yr ymatebwyr yn derbyn yr ardal gyfyngu, a’r rhan fwyaf ohonynt yn drigolion Pilgwenlli neu â busnesau yno.
• Holodd yr Aelodau a oes ymateb gan y Cynghorwyr Ward.
Esboniodd y Cynghorydd Holyoake ei bod yn cael diweddariadau rheolaidd am y GGMC, a’i bod yn pwyso am iddo gael ei basio, oherwydd cynnydd mawr mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) dros amser. Cyn hyn, yr oedd canol y dref wedi ei dargedu gan GGMC, sydd wedi cynyddu YG ym Mhilgwenlli. Yr oedd hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o’r tywydd twym oedd ar fin dod, gan mai dyma pryd y mae problemau yn cynyddu. Cadarnhaodd y Cynghorydd ei bod yn cynnal sgyrsiau yn gyson, a bod gan y GGMC gefnogaeth lawn cynghorwyr y ward.
• Dywedodd yr Aelodau fod dau le degol ar y canrannau ar y graff, a bod hyn efallai yn ormod.
Rhoddodd y Sarjant Mervyn Priest, cynrychiolydd o dîm Cymdogaeth Gorllewin Casnewydd yn Heddlu Gwent hefyd ddiweddariad. Dywedodd fod yr adborth cadarnhaol gan gymunedau wedi ei gofnodi, ac y mae’n amlwg yn bwysig i gymuned Pilgwenlli i gael hyn. Bu nifer o sgyrsiau gyda’r cyhoedd, busnesau a grwpiau ffydd yn yr ardal. Nid cyfle yw’r gorchymyn hwn i roi rhybuddion cosb penodol (RhCB); mae’n fater o addysgu’r gymuned a gwneud y disgwyliadau o ran ymddygiad derbyniol yn glir. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod hyn yn rhoi erfyn i’r Heddlu i ymdrin â phobl nad ydynt yn newid eu hymddygiad. Mae gwir angen gorchymyn fel hyn ar yr ardal hon, nid dim ond i’r heddlu, ond ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn bresennol:
- Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)
Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Drafft o Flaen-Raglen Waith Flynyddol am 2021-22 ac amlinellodd y pynciau drafft am y flwyddyn. Tynnwyd sylw’r Aelodau at restr arfaethedig y cyfarfodydd am y flwyddyn.
Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:
• Holoddyr Aelodau pam fod dau gyfarfod ar gyfer mis Medi. Atebodd yr Ymgynghorydd Craffu oherwydd bod angen i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus am ganol y ddinas ddod i’r Pwyllgor ym mis Medi, gallai un cyfarfod gyda thri phwnc o bwys fod yn rhy faith. O ganlyniad, gyda chaniatâd y Cadeirydd, cytunwyd i rannu’r cyfarfod yn ddau.
• Gofynnodd yr Aelodau a oes dogfen gyfeirio yn nodi pa wasanaethau sy’n dod dan ba bwyllgor. Atebodd yr Ymgynghorydd Craffu gan ddweud y byddai’n anfon cylch gorchwyl pob pwyllgor.
Cytunwyd:
Cymeradwyodd y Pwyllgor y Blaen-Raglen Waith Flynyddol a rhestr y cyfarfodydd am 2021-22.
|