1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Connor Hall  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Cynghorydd Craffu i ddatrys y dryswch ynghylch presenoldeb y Cyng Evans yng nghofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

Gofynnodd aelod o'r pwyllgor am y newyddion diweddaraf ynghylch y Strategaeth Datblygu Economaidd a grybwyllir ar dudalen 8. 

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2022 yn gywir.

 

4.

Cyllideb 2022-23 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig pdf icon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr adroddiad. 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor fod y cynigion manwl yn cael eu hailwampio yn y ddau Bwyllgor Craffu a oedd yn seiliedig ar wasanaethau. 

Nododd y Pennaeth Cyllid y bu proses wahanol eleni gan nad oedd unrhyw arbedion yn y gyllideb. Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at y farn optimistaidd a fabwysiadwyd yn y cynnig, yn seiliedig ar setliadau cyllideb y flwyddyn flaenorol. Nododd y Pennaeth Cyllid eu bod wedi parhau'n ofalus er gwaethaf yr optimistiaeth hon a'u bod am fod yn realistig wrth fod yn optimistaidd, a chael cynlluniau amgen pe bai'r setliad yn is na'r disgwyl. 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y ffaith bod setliad drafft y gyllideb wedi'i dderbyn yn hwyrach na'r arfer gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pennaeth Cyllid y bu'n setliad mawr ar draws y sector, a'i fod yn uwch na rhagdybiaethau optimistaidd.

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i'r setliad dalu am y cynnydd yng nghyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol i'r cyflog byw cenedlaethol, ac na fyddai Cronfa Galedi o hyn allan. 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu setliad tymor canolig. 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor fod yr ymgynghoriad yn parhau. 

Ategodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol eu bod mewn sefyllfa wahanol i'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y dyraniad uwch a'r setliad da. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod yr ymgynghoriad wedi'i

gynnal ar ffurf wahanol yn sgil hyn, gan nad oedd unrhyw arbedion penodol, ac yn lle hynny canolbwyntiwyd ar y cynnydd arfaethedig i'r dreth gyngor, cynigion buddsoddi a ffioedd a thaliadau. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor eu bod hefyd wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn ynghylch eu blaenoriaethau o ran gwasanaethau. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi derbyn bron i 1000 o ymatebion cyn y setliad cyllidebol a oedd yn dynodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyffredinol i ysgolion, gwasanaethau plant ac oedolion, gwasanaethau'r ddinas a chymorth i bobl ddigartref.  Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod yr ymgynghoriad cyfredol yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. 

Cododd y Cyfarwyddwr Strategol sylwadau a wnaed gan y pwyllgor y flwyddyn gynt: 

  • Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Strategol at y ffaith bod defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu a'u bod bellach yn cael eu defnyddio'n rheolaidd i hyrwyddo'r ymgyngoriadau. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol nad oeddent yn defnyddio hysbysebion naid gan fod yr ymateb iddynt yn negyddol. 
  • Nododd y Cyfarwyddwr fod y sylw ynghylch ymgysylltu â'r ysgolion yn y flwyddyn gynt, a'r negeseuon o'r ymgynghoriad, wedi'u hanfon i holl ysgolion Casnewydd. 
  • Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod y timau Cymunedau Cysylltiedig yn gweithio gyda chymunedau "anodd eu cyrraedd" i sicrhau eu bod yn weladwy, a sicrhau yr ymgysylltir â nhw, yn unol â chais y pwyllgor y flwyddyn gynt. 

 

Cododd y Cynghorydd Forsey y pwyntiau canlynol, gan adrodd yn ôl ar ôl bod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Cofnodion:

Hoffai’r pwyllgor dderbyn data ymgynghori ynghynt fel bo modd iddynt wneud argymhellion a sylwadau mwy adeiladol. 

Gofynnodd aelod pwyllgor a oedd y cynnydd i'r dreth gyngor wedi'i drafod yn y cyfarfodydd Craffu y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol. 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Forsey y rhoddwyd sylw i hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Lle a Materion Corfforaethol. 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Craffu fod hyn wedi'i grybwyll yn yr adroddiad dan sylw, ac er nad oedd cyfeiriad ato yn ystod y cyflwyniad, gellid trosglwyddo cwestiynau i'r Swyddogion perthnasol.

 

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 140 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

c)      Information Reports (Appendix 3)

Click here to join as an attendee.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y pwyllgor fod yr argymhelliad i wneud y cwestiynau yn holiadur Strategaeth y Gymraeg yn fwy eglur wedi'u cwblhau, ac y byddai'r strategaeth lawn yn cael ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y pwyllgor y byddai diweddariad ynghylch y Strategaeth Datblygu Economaidd yn cael ei roi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Lle a Materion Corfforaethol ar 28 Chwefror 2022. 

       Gofynnodd aelod o'r pwyllgor pam bod y strategaeth wedi'i thynnu o'r pwyllgor hwn a'i rhoi i'r pwyllgor Lle a Materion Corfforaethol.

       Sicrhaodd y Cynghorydd Craffu y pwyllgor y byddai'n gofyn am eglurhad ynghylch hyn. 

 

7.

Digwyddiad Byw