1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 95 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor eu bod wedi gofyn i gael cysylltu â Phrifysgol De Cymru er mwyn iddynt fynychu'r Pwyllgor Craffu, fodd bynnag, ni chafwyd cadarnhad o hyd a oedd hyn wedi cael sylw.

·       Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai'r mater yn cael sylw eto.

Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

4.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd a'r Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid Hinsawdd.

Cwestiynau:

Canmolodd y Pwyllgor yr adroddiad gan ofyn beth oedd y ffigwr go iawn ar gyfer pwyntiau gwefru yng Nghasnewydd.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod gwefan cyfrannu torfol yn ogystal â gwefan gan y llywodraeth a oedd yn tracio’r wybodaeth hon ond efallai bod anghysondebau rhwng y rheini.

·       Dwedodd Rheolwr y Gwasanaeth wrth y Pwyllgor fod y Cyngor hefyd yn cadw golwg drwy gyfrwng eu gwefan nhw.

Holodd y Pwyllgor ynghylch y wybodaeth yn yr adroddiad a amlygodd rentu ceir trydan fesul awr.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd nad yw hyn wedi cael sylw fel nod penodol o'r strategaeth ond i ystyried hyfywedd clybiau ceir trydan.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Swyddogion yn gwneud unrhyw beth i gael ateb pendant ar nifer y pwyntiau gwefru yng Nghasnewydd.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd y gellir cymryd hwn fel cam gweithredu.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd dyletswydd statudol i ddarparu pwyntiau gwefru trydan.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wrth y Pwyllgor nad oes gofyniad statudol.

Gofynnodd y Pwyllgor a oes dyletswydd ar gwmnïau preifat i ddarparu pwyntiau gwefru trydan.

·       Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd fod cyfanswm nifer y pwyntiau gwefru hefyd yn cynnwys pwyntiau preifat a oedd wedi'u gosod a nododd fod y cwmnïau preifat yn gweithio gyda siopau manwerthu.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd hefyd nad yw'r sector preifat wedi teimlo'r angen i symud i mewn i'r parth cyhoeddus, yn enwedig gyda chodi tâl ar y stryd.

Holodd y Pwyllgor ynghylch y broses lle mae trigolion yn gofyn am bwynt gwefru trydan ar eu stryd.

·       Dwedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn cadw cofnod o unrhyw un ofynnodd am bwynt gwefru ac yn defnyddio'r wybodaeth honno i weld lle mae'r galw.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd nad ydynt yn delio ag eiddo penodol ac amlygodd na all preswylwyr osod eu gwefrydd eu hunain y tu allan i'w heiddo pe byddai wedyn yn disgyn ar ffordd gyhoeddus neu briffordd.

Gofynnodd y Pwyllgor pa integreiddiad oedd wedi digwydd rhwng pwyntiau gwefru trydan a'r diwydiant trydan.

·       Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd y cysylltir â'r grid lleol gyda phob pwynt gwefru a gaiff ei osod, er mwyn gweld a yw'r lleoliad yn ddichonadwy neu a oes rhaid iddo fod yn wefru arafach er mwyn peidio ag achosi unrhyw broblemau.

Holodd y Pwyllgor sut fydd Swyddogion yn sicrhau y byddai'r ymgynghoriad yn cyrraedd cynulleidfa eang yn ogystal â'r metrigau ar gyfer mesur pa mor llwyddiannus y bydd.

·       Nododd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod amrywiaeth o fforymau yn cael eu defnyddio i ledaenu cyrhaeddiad yr ymgynghoriad fel cyfryngau cymdeithasol, trwy'r Wi-Fi bws am ddim. Yna  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad ar yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai‘r eitem yma’n cael sylw yn gynharach yn yr agenda. 

Cwestiynau:

Holodd y Pwyllgor am y ddemograffeg a'r ymatebion a gasglwyd gan yr arolwg gan fod ymatebion yn amrywiol ar bynciau fel Oaklands.

·       Amlygodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod gan ymatebion fwy o ffocws ar faterion a oedd yn effeithio ar bawb yn hytrach na chael effaith ar nifer lai o bobl. Roedd y tueddiadau ymateb ar gyfer Oaklands yn debyg ar draws eitemau gwasanaethau cymdeithasol a oedd ar yr ymgynghoriad.

·       Amlygodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth bod ymatebion y tu allan i arolwg yr ymgynghoriad o ran y materion a grybwyllwyd, gan yr eglurwyd ymhellach nad oedd yr arolwg yn adlewyrchu'r holl ymatebion ar bynciau'r ymgynghoriad.

·       Gofynnodd y Pwyllgor i bob ymateb gael ei adlewyrchu yng nghyfanswm yr ymatebion a gafwyd yn hytrach nag ymatebion arolwg yr ymgynghoriad yn unig.

Amlygodd y Pwyllgor nad oedd opsiwn i ychwanegu cyfeiriad e-bost yn yr arolwg fel y gellid anfon arolygon eraill at yr ymatebydd.

·       Nododd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y gellid edrych ar hyn

Gofynnodd y Pwyllgor sut oedd Swyddogion am gael cronfa fwy o ymateb ar gyfer yr ymgynghoriad nesaf.

·       Hysbysodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y Pwyllgor bod sut i gynyddu'r ystod, yr ymatebion a'r ffocws i arolygon bob amser yn cael eu hadolygu.

·       Nododd y Pennaeth Polisi, Pobl a Thrawsnewid hefyd fod cydbwysedd i'w daro rhwng ennill ystod eang o ymatebion a chaniatáu i'r cyhoedd ddewis a ddylid ymateb ai peidio.

·       Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth y gallai rhoi rhybudd cyn digwyddiadau yn y ddinas ochr yn ochr â chyfarfodydd ward, helpu i gael mwy o ymatebion yn enwedig wyneb yn wyneb.

·       Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod angen cydbwysedd rhwng ymatebion ac ansawdd yr ymatebion, a allai fod yn werth eu rhoi yn y rhaglen waith.

Nododd y Pwyllgor fod ansawdd yr ymatebion yn bwysig megis yn yr ymgynghoriad diweddar hwn ar y gyllideb, roedd llais yr undebau a'r comisiwn tegwch yn bwysig.

Roedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymgynghoriad yn welliant eleni. 

Byddai'r Pwyllgor yn hoffi cael "ymatebion eraill" gan gynnwys negeseuon e-bost, cyfarfodydd a galwadau ac ati i gael eu cynnwys yn y cyfrif o ymatebion.

Amlygodd y Pwyllgor nad oes opsiwn i adael cyfeiriad e-bost ar gyfer arolygon yn y dyfodol.

6.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol. pdf icon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pennaeth Diogelu Corfforaethol. 

Cwestiynau:

Gofynnodd y Pwyllgor beth fyddai'n cael ei wneud gyda'r data amser real yr oedd y Swyddogion wedi'i gasglu.

·       Dwedodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol wrth y Pwyllgor y gellir defnyddio'r data i gadw golwg well ar gynnydd trwy daenlenni unigol a chyfredol.

Roedd y Pwyllgor yn teimlo bod cael dwy system o fesur data yn ddryslyd a gofyn am gael gwared ar un.

Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd diogelu.  Amlygodd y Pwyllgor nad oedd y platfform hyfforddi yn hawdd ei ddefnyddio a holi a oedd y system hon yn dal i gael ei defnyddio.

·       Dwedodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol wrth y Pwyllgor y byddai gweithdrefnau hyfforddi gan Ddiogelu Cymru yn gwneud pethau'n fwy syml ond dim ond ym mis Tachwedd 2022 y cafodd ei gyflwyno.

Gofynnodd y Pwyllgor i'r llwyfan hyfforddi gael ei wella i fod yn fwy gweithredol.

·       Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod hyfforddiant yn eang yn dibynnu ar y rôl

·       Amlygodd y Cyfarwyddwr Strategol y gall yr hyfforddiant meta- gydymffurfio nawr nodi pryd nad yw hyfforddiant wedi'i wneud

Amlygodd y Pwyllgor fod yr Heddlu Metropolitan yn camu i ffwrdd o waith iechyd meddwl a gofyn a fyddai unrhyw effaith ar wasanaethau Casnewydd o ganlyniad.

·       Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y gwaith y mae'r tîm Iechyd Meddwl Argyfwng yn ei wneud a nododd fod Gwent yn gallu delio’n well â sefyllfaoedd o safbwynt gwasanaethau oedolion a gwasanaethau iechyd meddwl.

·       Ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ymhellach y byddai Casnewydd yn iawn pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd.

·       Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr heddlu wedi eu hintegreiddio i'r gwasanaeth er enghraifft trwy wasanaethau ar y cyd a'u bod yn ymwneud â'r gwaith diogelu.

Sylwadau ac Argymhellion:

Hoffai'r Pwyllgor i'r data fod yn glir gan fod y wybodaeth mewn un adran yn gamarweiniol 

Argymhellodd y Pwyllgor fod Swyddogion a darparwyr hyfforddiant yn symleiddio cyrsiau hyfforddi er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch.

Teimlai'r Pwyllgor y byddai'n fuddiol i faterion a godwyd mewn adroddiadau gael eu hamlygu yn adroddiad y flwyddyn ganlynol i roi adborth ar gynnydd a phenderfyniadau. 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y gwaith ond byddent am weld canolbwyntio ar ganlyniadau.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 145 KB

a)      Camau Gweithredu'n Codi (Atodiad 1)

b)      Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (Atodiad 2)

c)      Atgyfeirio Pwnc Craffu (Atodiad 3)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Taflen Weithredu

Cytunodd yr Ymgynghorydd Craffu i fynd ar ôl mater y brifysgol.

Y Flaenraglen Waith

Nododd y Pwyllgor i edrych ar ymgynghoriad ar y gyllideb fel eitem agenda ar gyfer cyfarfod ym mis Hydref.

Cytunodd yr Ymgynghorydd Craffu i holi a ellid dod â'r Adroddiad Ansawdd Aer i'r cyfarfod nesaf er mwyn gwneud yr agenda yn agenda dwy eitem.

Atgyfeiriad Pwnc Craffu

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu yr eitem hon ac esboniodd y broses i'r Pwyllgor. 

Mynegodd yr atgyfeirydd siom nad oedd Swyddogion yn bresennol.

Nododd yr atgyfeirydd nifer o geisiadau aflwyddiannus am godi’r gwastad yn ogystal â thynnu sylw at y ffaith bod Cynghorau eraill wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau lle nad oedd Casnewydd wedi bod, ac felly roeddent am i hyn gael ei gyflwyno i Graffu i gael sylwadau ac argymhellion i gynyddu'r siawns o lwyddo.

Nododd yr atgyfeirydd ei fod yn cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer Pwyllgorau Craffu gan mai'r ffocws oedd sut i wella cyflwyniadau a cheisiadau.

Roedd yr atgyfeirydd yn teimlo nad oedd hwn yn fater gwleidyddol.

Gofynnodd yr atgyfeirydd a gafodd y ceisiadau aflwyddiannus unrhyw adborth.

·       Nododd y Cyfarwyddwr Strategol y gellir edrych ar hyn, a phwysleisiodd hefyd mai penderfyniad Pwyllgor yw'r penderfyniad.

Rhoddodd Aelodau'r Pwyllgor eu sylwadau ar yr atgyfeiriad arfaethedig.

Gofynnodd yr atgyfeirydd am fframwaith ar gyfer sut mae cynigion yn cael eu creu o'r cychwyn.

Gofynnodd yr atgyfeirydd i'r adroddiad gynnwys y ceisiadau a'r adborth a ffyrdd o gynorthwyo i wneud cynigion yn fwy tebygol o lwyddo.

Nid oedd yr atgyfeirydd am i’r adroddiad fod yn wybodaeth yn unig.

Cynigiodd yr atgyfeirydd i’r adroddiad ddod ger bron y Pwyllgor nesaf ar fater ceisiadau "codi'r gwastad" aflwyddiannus.

Eglurodd y Pwyllgor y gallai'r Pwyllgor wneud y penderfyniad i gynnig yr eitem a chadarnhau mai dyma oeddent am ei weld.

·       Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol y sefyllfa y gall y Pwyllgor benderfynu a ydyn nhw eisiau'r cynnig ai peidio ac y bydd yn cadarnhau'r broses gyfreithiol ar ôl y cyfarfod.

Pleidleisiodd y Pwyllgor i ganfod a fyddai'r eitem yn cael ei chyflwyno i Graffu.

Ni chafodd y bleidlais ei chario i ddod â’r eitem ger bron y Pwyllgor Craffu gyda thair pleidlais yn erbyn, dwy bleidlais o blaid, a dwy bleidlais yn ymatal.

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Craffu mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai 23 Mehefin 2023 am 10am.

 

8.

Digwyddiad Byw

Cofnodion: