Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Gwener, 26ain Ebrill, 2024 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Samantha Schanzer  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Davies fuddiant gan fod ei merch yn weithiwr cymdeithasol.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 130 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ynghylch adroddiad Ymgynghoriad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ers y cyfarfod blaenorol. Gofynnodd y Pwyllgor am newid "gallai" i "byddai" ar dudalen 4. Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2024 eu cadarnhau yn gofnod gwir.

 

3.

Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Corfforaethol 2023-24 pdf icon PDF 121 KB

a)      Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)     Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol (DC) drosolwg o'r adroddiad.

Gofynnwyd y cwestiynau canlynol:

·       Gofynnodd y Pwyllgor am ddiagram sgematig o'r strwythur diogelu i gynorthwyo hygyrchedd yr adroddiad. Cytunodd y Pennaeth DC i wneud hyn.

 

·       Teimlai'r Pwyllgor fod angen rhagor o eglurhad ar y tablau ar dudalen 18 yn ymwneud â VAWDASV mewnol a data hyfforddiant penodol ychwanegol. Cytunodd y Pennaeth DC i wneud hyn.

·       Holodd y Pwyllgor a oedd presenoldeb hyfforddiant ar dudalen 18 yn cynnwys gweithwyr Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) yn unig. Cadarnhaodd y Pennaeth DC ei fod, a bod yr hyfforddiant hwn yn anstatudol. Roedd y Pwyllgor yn fodlon â chwmpas yr hyfforddiant ychwanegol a gynigir. Tynnodd y Pennaeth DC sylw at y gwahaniaeth rhwng hyfforddiant newydd-ddyfodiaid a hyfforddiant gloywi i weithwyr gofal cymdeithasol sefydledig. Holodd y Pwyllgor pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant. Cadarnhaodd y Pennaeth DC mai CDC oedd hwn. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd cynlluniau ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol a chadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion (GO) fod cynllun i ddyfeisio hyfforddiant yn y dyfodol. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at gyfrifoldeb Aelodau Etholedig i fynychu hyfforddiant diogelu er mwyn arwain drwy esiampl.

·       Holodd y Pwyllgor effeithiolrwydd e-ddysgu a'r amrywio yn y niferoedd sy’n ymgymryd â hyfforddiant diogelu rhwng meysydd gwasanaeth. Nododd Pennaeth DC fod hyfforddiant y Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiogelu ar lefel uwch na'r e-ddysgu gorfodol y mae'n ofynnol i holl staff CDC ei gwblhau. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anoddach sicrhau bod staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwblhau'r hyfforddiant gorfodol oherwydd eu llwyth gwaith prysur. Nododd Aelodau Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol fod gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn gwneud hyfforddiant proffesiynol parhaus. Teimlai'r Pwyllgor y gellid cyflwyno hyn yn well yn yr adroddiad a gofynnodd am wahanu data ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a staff corfforaethol.

 

·       Holodd y Pwyllgor pa hyfforddiant a chymorth yr oedd Personau Diogelu Dynodedig (PDD) wedi’i dderbyn gan nad oedd hyn yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y Pennaeth GO fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer Pencampwyr Diogelu, a oedd yn gweithredu fel fforwm i godi pryderon neu ofyn am ragor o hyfforddiant neu gymorth. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys adran sy'n tynnu sylw at PDD mewn adroddiadau yn y dyfodol.

·       Nododd y Pwyllgor nad oedd cyd-destun i’r canrannau cwblhau hyfforddiant ar dudalen 17 a gofynnodd i hyn gael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol. Nododd y Pennaeth DC fod yr adroddiad wedi casglu ymatebion a gafwyd ynghylch hygyrchedd e-ddysgu ar draws meysydd gwasanaeth ond cytunodd y byddai hyn yn cael ei gyflwyno'n wahanol mewn adroddiadau yn y dyfodol. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y cafwyd trafodaethau rhwng rhanbarthau/portffolios, ac y dylid gwella cyflwyniad data mewn adroddiadau yn y dyfodol o ganlyniad i hynny.

·       Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch data hyfforddi'r Aelodau Etholedig ac yn holi a oedd cofrestr yn bodoli. Cadarnhaodd y Pennaeth DC fodolaeth cofrestr a nododd fod CLlLC yn dweud ar hyn o bryd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 136 KB

a)      Camau Gweithredusy'n Codi (Atodiad 1)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)    Camau Gweithredu

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu nad oedd unrhyw gamau gweithredu. Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y camau gweithredu o’r cyfarfod hwn a chytunodd i anfon yr adroddiad Recriwtio a Chadw i'r Pwyllgor.