Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Connor Hall Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 171 KB Cofnodion: Sylwer: Darllenwyd y cofnodion a chytunwyd arnynt ar ôl trafod PSPO canol y Ddinas.
Gofynnodd aelod o'r pwyllgor, ar dudalen 18 yng nghyswllt cynnwys cymunedau ym mhwynt bwled 3, a ellid nodi y dylid cynnwys cymunedau gwyn mewn unrhyw gyfarfodydd bord gron ac y dylid galw'r ford gron yn gr?p cydlyniant cymunedol.
Derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021 yn gywir.
|
|
PSPO Canol y Ddinas PDF 377 KB Cofnodion: Dechreuodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drwy esbonio'r broses ddemocrataidd hyd yma. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio wrth y pwyllgor y cafwyd 108 o ymatebion dienw i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor eu bod wedi nodi a bwrw ymlaen â'r egwyddorion yr oedd y pwyllgor wedi gofyn iddynt eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer y gwaith cymharol rhyngddo a'r ymgynghoriad ar PSPO Pillgwenlli. Amlygodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod wedi cadw'r arddull a'r cwestiwn a'r fformat wrth ddefnyddio PSPO Pillgwenlli ar gyfer y broses ymgynghori hon, gan gynnwys rhai o'r cwestiynau a'r arsylwadau a wnaed gan y pwyllgor hwn ynghylch y PSPO blaenorol; roedd y rhain yn cynnwys rhoi disgrifiad manylach o breswylwyr a busnesau a oedd yn ymateb, ac ychwanegu cwestiynau ynghylch profiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf. Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod yr ymgynghoriad wedyn yn parhau â'r fformat blaenorol, lle byddai'n mynd drwy gyfyngiadau gan gynnig opsiwn cytuno/anghytuno i ymatebwyr. Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor mai'r briff cyffredinol oedd fod cefnogaeth eang tuag at y PSPO hwn; cytunwyd y dylid cadw'r ardal dan sylw yr un peth, er bod nifer nodedig o ymatebwyr yn nodi y dylid ehangu'r ardal. Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod rhai ceisiadau penodol i'r pwyllgor ymgynghori mwy ar y cyfyngiadau ar gardota ymosodol o amgylch peiriannau codi arian, a diwygiwyd proses yr holiadur er mwyn ystyried hynny.
Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o natur yr ymatebion, er bod peth testun penodol o'r ymatebion wedi'i gynnwys.
Amlygodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yr argymhellion yn yr adroddiad: y dylai'r pwyllgor argymell i'r Cyngor y dylid gweithredu'r PSPO newydd, gyda mesurau rheoli ychwanegol yn gysylltiedig â defnydd anniogel a pheryglus o e-sgwteri a beiciau, yn ogystal â pheidio cynnwys rheolaeth ar droethi neu ymgarthu, er i'r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio atgoffa'r pwyllgor nad oedd hyn wedi'i ddiystyru'n llwyr, ac y gellid ei ychwanegu pe bai angen.
Mynegodd aelod o'r pwyllgor siom ynghylch nifer yr ymatebion a gafwyd, ac atgoffodd wahoddedigion a'r pwyllgor fod y pwyllgor wedi gofyn am gael hysbysebu'r ymgynghoriad yn fynych, a bod yr hysbyseb wedi'i gweld yn wythnosol, er bod y diffyg ymateb yn dal yn drueni. Teimlai aelod y pwyllgor fod yr ymatebion a gafwyd yn pegynnu i'r naill eithaf a'r llall. Cymeradwyodd aelod o'r pwyllgor fod e-feiciau wedi'u cynnwys yn yr arolwg, fel y gofynnwyd.
Nododd aelod o'r pwyllgor y gellid camddehongli cwestiwn 5C yn yr arolwg yn rhwydd, sef yn hytrach na holi a oedd gwahardd cardota o fewn 10 metr yn briodol, a fyddai gwaharddiad ehangach ar gardota yn briodol. Teimlai'r aelod o'r pwyllgor fod y cwestiwn hwn yn rhy amwys.
Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yr anhawster a gafwyd wrth eirio'r cwestiwn hwn ac ailadroddodd fod y cwestiwn yn gofyn a oedd y cyswllt rhwng gwaharddiadau ar gardota a mannau codi arian yn dal i ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 159 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Actions Arising (Appendix 2) c) Information Reports (Appendix 3) Click here to join the meeting as an attendee.
Cofnodion: Y Flaenraglen Waith:
Nododd aelod o'r pwyllgor fod Craffu yn dal i aros am wybodaeth yngl?n â'r adroddiad newid hinsawdd. Nododd y Cynghorydd Craffu mai dyma oedd y flaenoriaeth nesaf a sicrhaodd aelodau'r pwyllgor y byddent yn cael gwybod am unrhyw newidiadau.
Nododd y Cynghorydd Craffu fod cyfarfod wedi'i ychwanegu ar gyfer 10 Rhagfyr 2021 i edrych ar Strategaeth 5 Mlynedd y Gymraeg, a'i fod newydd dderbyn gwybodaeth bellach am hynny.
Daeth y cyfarfod hwn i ben am: 05:05pm
|