Agenda and minutes

Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu - Dydd Gwener, 29ain Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Connor Hall  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 117 KB

Cofnodion:

Nododd aelod o'r pwyllgor fod rhywun wedi'i restru'n bresennol nad oedd yn bresennol, ac nad oedd yr argymhelliad a ddeilliai o'r bleidlais wedi'i nodi'n gywir.

Yn amodol ar y newidiadau hyn, derbyniwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021 yn gywir.

 

3.

Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas yr adroddiad a rhoi cyflwyniad. Nododd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas mai adroddiad drafft ydoedd ar gyfer ymgynghoriad. Amlygodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas mai strategaeth y Cyngor ydoedd, ac y byddai strategaeth i Gasnewydd gyfan yn cael ei datblygu'n ddiweddarach. Roedd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas yn cydnabod rôl ddylanwadol allweddol y Cyngor, ac yn cydnabod bod cynlluniau'n datblygu i fod yn fwy cadarn gan fod y terfyn amser yn gymharol agos.

 

Nododd y Rheolwr Lleihau Carbon fod cyfanswm yr allyriadau carbon blynyddol yn y pedair blynedd diwethaf wedi gostwng yn sgil cynllun rheoli carbon. Nododd y Rheolwr Lleihau Carbon y cafwyd ymateb afreolaidd yn sgil Covid, ond gobeithiai y byddai'r cynnydd yn parhau. Cyflwynodd y Rheolwr Lleihau Carbon drosolwg o’r prosiectau sydd ar y gweill, gan gynnwys cyflwyno PV solar ar raddfa eang, gorsafoedd gwefru trydan, cael cerbydau fflyd newydd gan gynnwys lorïau sbwriel, ceir a faniau ysgafn, a fyddai i gyd yn cael eu trosglwyddo i drydan erbyn 2022. Yn ogystal â hynny, cyfeiriodd y Rheolwr Lleihau Carbon weithgareddau ymgysylltu gyda phlant ysgol lleol, ynghyd â thynnu hen oleuadau i osod goleuadau LED mwy effeithlon yn eu lle, yn benodol yn y Felodrom, a nododd fod

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

y Cyngor wedi llofnodi Siarter Teithio'n Iach Gwent a lansiwyd yn 2020, ac wedi cymeradwyo 2 gynllun tai carbon isel. 

 

Tynnodd y Rheolwr Lleihau Carbon sylw at y ffaith mai prif wahaniaeth y strategaeth hinsawdd oedd gorfod rhoi cyfrif am holl allyriadau carbon y sefydliad, ac y byddai'r tîm yn mabwysiadu safbwynt ehangach yn yr adroddiad newydd, gyda ffocws allweddol ar effaith caffael. 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod cynnydd wedi'i wneud, ond bod llawer ar ôl i'w wneud o hyd fel Cyngor. Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth wrth y pwyllgor eu bod yn bwriadu creu cynllun o amgylch chwe thema, yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru. 

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor-

       A fyddai disgwyliad cytundebol i gyflenwyr gyrraedd Sero Net, a sut y gallai'r Cyngor orfodi hynny?

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod gwaith eisoes ar y gweill i'r perwyl hwn, a nododd yr her o ran technoleg a chostau yn gysylltiedig ag allyriadau o adeiladau a cherbydau. Sicrhaodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth y pwyllgor y byddai'r fframwaith newydd ar gyfer asesu contractau newydd i'w caffael yn trafod materion fel gwerthoedd cymdeithasol ac allyriadau carbon. Dywedodd y Rheolwr Lleihau Carbon fod angen mireinio canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, a sicrhaodd y Pwyllgor fod hyn yn broblem i'r holl sector cyhoeddus yng Nghymru, a allai arwain at gadwynau cyflenwi cyffredin mwy rhwng cynghorau.

       A fyddai fframwaith yn cael ei greu i'r rhai a fyddai ei angen? 

Cadarnhaodd y Rheolwr Lleihau Carbon y byddai hynny'n digwydd, y byddai hefyd yn rhoi cefnogaeth i asesu'r effaith o ran carbon ac adnoddau, ac y byddai'n rhaid ei ddatblygu'n fewnol.

       A fyddai'r Maer yn cael cerbyd sy'n rhedeg yn llwyr ar drydan yn lle'r car presennol,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Cofnodion:

 

Cytunodd y pwyllgor eu bod yn fodlon â’r adroddiad fel yr oedd, ac mai'r prif bryder oedd yr ymgynghoriad a’r ymatebion, ond derbyniwyd ei bod yn ymddangos bod hwn wedi’i gynllunio’n dda. 

 

Gofynnodd aelod pwyllgor a fyddent yn gallu cyfieithu'r ymgynghoriad i ieithoedd eraill, gyda'r awgrym y gallai defnyddio fideo fod yn gyfrwng mwy cynhwysol ar gyfer cymunedau BAME. 

Awgrymodd y pwyllgor y dylid ystyried y ddwy iaith arall a siaredir yn fwyaf cyffredin yng Nghasnewydd.

 

5.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 142 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a) Diweddariad ynghylch y Flaenraglen Waith (Atodiad 1)

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Craffu y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 10 Rhagfyr, pan fyddai'r Strategaeth y Gymraeg yn cael ei chyflwyno. 

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu, gan fod y pwyllgor yn anfodlon â'r ymgynghoriad blaenorol, fod argymhelliad wedi'i anfon i'r Adran Bolisi a Phartneriaethau, gan fod ganddynt reolaeth rannol ar y gyllideb i fynd i'r afael â'r mater yn well.  

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.33 am