1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cyng. Hussain a Jennie Judd.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 106 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y pwyllgor i’r Cyng. C Evans gael ei enwi ar d. 3 i osgoi dryswch. Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2021 fel rhai cywir.

 

4.

Strategaeth 5 Mlynedd yr Iaith Gymraeg pdf icon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol

Heather Powell – Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig

Hywel Jones – Swyddog Polisi’r Gymraeg

  

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad.  

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ond eu bod yn dal i gymryd sylwadau.  

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor mai amserlen yr adroddiad oedd iddo fynd at y Cabinet ym mis Chwefror a’r Cyngor  ym mis Mawrth.  

Nododd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig fod rhai rheoliadau penodol oedd eu hangen dan y safonau presennol, gan gynnwys targed twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd, oedd yn asio gyda’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg. Hysbysodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y pwyllgor fod y rhain yn canoli ynghylch 3 thema strategol - addysg, bod yn weladwy, ac ymwneud. Hysbysodd y pwyllgor fod hyn yn destun ymgynghori, ac yn cael ei anfon at bartneriaid yr iaith Gymraeg a gwefan Dinas Casnewydd ar ddydd Llun. Dywedodd hefyd fod arolwg derbyn hefyd wedi ei gynnal dros yr haf.  

  

Cwestiynau:  

Gwnaed sylw am y diffyg defnydd o’r Gymraeg yn yr adroddiad

A oedd y galw am ysgolion Cymraeg yn cyfateb â’r ddarpariaeth o lefydd?

       Hysbysodd Swyddog Polisi’r Gymraeg y pwyllgor y cynhaliwyd cyfarfod cynllunio llefydd ysgol y diwrnod blaenorol, a bod hyn yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ar hyn o bryd, yr oedd dim ond digon o lefydd yn yr ysgolion cynradd, ond byddai’r ddarpariaeth yno tan 2032, er bod hyn yn cael ei adolygu’n gyson.  

       Dywedodd Swyddog Polisi’r Gymraeg wrth y pwyllgor eu bod yn ceisio cynyddu’r niferoedd yn ysgol Gymraeg newydd Pilgwenlli.

Beth oedd y costau am gyfieithu a mentrau Cymraeg eraill?

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y byddai’n hapus i ddarparu ffigurau gwirioneddol ar gyfer hyn.

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor, pan gawsant Safonau’r iaith Gymraeg yn wreiddiol oedd yn gymwys i Gasnewydd, fod rhan o’r broses ymgynghori â’r awdurdod lleol yn ymwneud â chost gweithredu rhai o’r safonau, sef costau cyfieithu yn bennaf. Dywedodd wrth y pwyllgor mai’r gyllideb gyfredol ar gyfer cyfieithu oedd £101,100 y flwyddyn, sef cyfran fwyaf cost cwrdd â’r safonau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol nad yw hyn yn cynnwys unrhyw ddatblygu ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan fod hyn wedi ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf Addysg ar gyfer ysgolion. Ymysg costau eraill mae darpariaeth ar gyfer Swyddog Polisi’r Gymraeg a Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg.

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i recriwtio mwy o staff Cymraeg eu hiaith ac i annog staff i ddysgu Cymraeg.  

       Teimlai’r Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y gellid edrych eto ar eiriad y cwestiwn ynghylch ystadegau am siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd ac ymwneud y ganolfan gyswllt â siaradwyr Cymraeg.  

Pa gynlluniau oedd ar gael i gynyddu amlygrwydd, ymwneud a chyflogaeth i  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Parciau - Rheoli Cwn PSPO pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd:  

  

Joanne Gossage (Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden)

  

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr adroddiad, gan nodi ei fod wedi ei newid ac y bu ymwneud â rhanddeiliaid ynghylch yr adroddiad fel y’i diwygiwyd, ac y llwyddwyd i gynnal ymarferiad ymgynghori trylwyr. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod baneri a hysbysiadau wedi eu cynhyrchu, a bod yr ymarferiad ymgynghori wedi ei gysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor Dinas Casnewydd. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei ddangos i Aelodau’r Cabinet cyn cael ei ddwyn yn ôl i’r pwyllgor.

Yr oedd dros 3000 o bobl wedi gweld y dudalen GGMC, a bu ymwneud o holl wardiau’r ddinas.  

Nododdaelod o’r pwyllgor y bu nifer dda o ymatebion a chanmolodd y tîm am ddefnyddio agwedd mor amrywiol i gael ymateb i’r ymgynghoriad. 

 

 

Cwestiynau:

Sut byddai’r GGMC yn cael ei orfodi?

Aoes digon o finiau ar gael i’r sawl sy’n mynd â’u c?n am dro i roi gwastraff ynddynt?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad pwrpas y GGMC oedd bod yn rhy llym. Teimlai mai nod geiriad y gorchymyn fyddai troi pobl ymaith oddi wrth rai gweithgareddau, ac y buasent yn plismona eu hunain i ryw raddau. Teimlai y dylai’r mesurau fod yn gymesur a mynd yn llymach yn unig lle’r oedd yn rhaid.

       Holodd yr aelod pwyllgor a oedd staff ar gael i orfodi’r gorchymyn.

       Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor mai swyddogion y Cyngor fyddai’n gyfrifol am orfodi’r mesurau meddalach, tra gellid cyfeirio problemau mwy cyson at Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol, Wardeiniaid C?n neu’r Heddlu i’w monitro.

       Holodd yr aelod pwyllgor a fyddai dirwyon yn cael eu rhoi yn y fan a’r lle.  

       Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai hyn yn digwydd.  

  

Sut byddai’r maes gwasanaeth yn argymell i’r cyhoedd adrodd am achosion o dorri’r gorchymyn?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor, petai’r gorchymyn yn llwyddiannus, y byddai darpariaeth ar y wefan a’r ganolfan gyswllt i adrodd am faterion.  

A fydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu’r cyhoedd am y gorchymyn?

       Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hyn yn cael ei hysbysebu’n ffurfiol ar draws yr holl barciau.  

  

Sut y dylai trigolion roi gwybod am achosion o g?n yn brathu?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai mater i’r heddlu fyddai hyn.  

Fyddai mwy o finiau gwastraff yn cael eu darparu?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod wedi adolygu hyn ac wedi gosod mwy o finiau ar safleoedd oherwydd eu bod wedi derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Anogodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor i roi gwybod iddi os oedd unrhyw safleoedd penodol y carent i’r tîm eu hadolygu o ran darparu biniau.

  

Beth petai gormod o leiniau yn cael eu marcio?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod lleiniau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 166 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Arising (Appendix 2)

c)      Information Reports (Appendix 3)

Join Live Event as an attendee.

 

 

Cofnodion:

Strategaeth Iaith Gymraeg

       Hoffai’r Pwyllgor ffigyrau cost manwl am bob agwedd o Strategaeth yr Iaith Gymraeg.

       Hoffai’rpwyllgor ystadegau am nifer y siaradwyr Cymraeg a faint sy’n cysylltu â’r Ganolfan Gyswllt yn Gymraeg.

       Argymhellodd y Pwyllgor y dylai mwy o’r adroddiad fod yn Gymraeg i adlewyrchu ei gynnwys.

GGMC Parciau

       Canmolodd y Pwyllgor y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a nifer yr ymatebion.

  

Gyda’r naill adroddiad a’r llall, yr oedd y pwyllgor yn gyffredinol yn hapus gyda’r cynnwys, fformat ac eglurder.

 

7.

Adroddiad Cynghorydd Craffu

Cofnodion:

Ni nodwyd amser terfynu’r cyfarfod