Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Connor Hall Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 157 KB Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddwyd: Joanne Gossage Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden Jennie Judd Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) Diolchodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden i’r pwyllgor am ddarllen yr adroddiad a gwrando ar y cyflwyniad. Cyn 2015, yr oedd gorchmynion rheoli c?n fel arfer yn benodol i safleoedd, a byddai ystyriaethau’n cael eu gwneud wrth greu’r gorchmynion hyn o ran gwarchod bywyd gwyllt a da byw. Yr oedd y gorchmynion hyn yn rhedeg ar y cyd ag is-ddeddfau am barciau ffurfiol, mannau agored, a thir comin, etc.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod pob gorchymyn blaenorol wedi eu diddymu gan Ddeddf Ymddygiad Troseddol Gwrthgymdeithasol a’u crynhoi yn un gorchymyn; nododd y dylai’r GGMC hwn fod yn llesol i bawb yn y gymuned - perchenogion c?n a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod cyn hyn wedi edrych ar safleoedd a chynigiwyd cyfres o gyfyngiadau posib. Dywedodd hefyd eu bod cyn hyn wedi rhoi gorchmynion at ei gilydd ar gyfer mannau yng nghefn gwlad, a wrthodwyd gan y Kennel Club. Teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn hanfodol fod hyn yn mynd gerbron y pwyllgor ac i’r cynnig fynd i ymgynghori arno yn ehangach, gan y byddai’n gwneud yn si?r y gallai pawb gyfrannu, gan ei fod yn bwnc sy’n ennyn teimladau cryfion. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y gellid categoreiddio’r cynigion yn yr adroddiad fel dau gynnig cyfyngu a dau gynnig cyffredinol. Esboniodd fod y cynigion cyfyngu yn galw am gau c?n allan yn gyfan gwbl o fannau chwarae (ac eithrio am g?n cymorth) ac yn ail, rhaid cadw c?n ar dennyn dan rai amgylchiadau fel mewn mynwentydd a mannau lle mae buddiannau eraill i’w hystyried, fel cadwrfeydd bywyd gwyllt. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod y ddau gynnig cyffredinol yn gymwys ar draws safleoedd Cyngor Dinas Casnewydd lle nad oes llawer o reolaeth, a’r cyntaf oedd symud baw ci o dir, nid dim ond mannau agored ond hefyd ymylon priffyrdd a llwybrau at fannau agored, gan ddweud bod yn rhaid iddynt hefyd gael y modd i symud baw eu hunain. Yn ail, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod y cynnig yn cyfarwyddo perchenogion c?n fod yn rhaid i g?n fod ar dennyn pan fydd y gorfodwyr perthnasol yn dweud wrthynt er mwyn cadw’r anifail dof dan reolaeth.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y byddai un o’r mesurau eithrio yn eithrio tymhorol; yn ystod y tymor chwarae i gaeau chwarae, cynigiwyd eithrio c?n o’r mannau hynny. Esboniodd na fyddid yn eithrio c?n o barc cyfan na mannau agored lle gall y caeau hyn fod, mai dim ond atal y ci rhag mynd ar leiniau sydd wedi eu marcio.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden esiampl Parc Lysaghts, gydag enghreifftiau o ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
PSPO Canol y Ddinas PDF 514 KB Cofnodion: Gwahoddwyd: Gareth Price Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio Rhys Thomas Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio Michelle Tett Rheolwr Gwarchod Cymunedol Arolygydd Jodie Davies Heddlu Gwent Diolchodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i’r pwyllgor am wneud lle i eitemau ar yr agenda. Esboniodd fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn gofyn am barhad o’r GGMC sydd yn bod eisoes. Atgoffodd y pwyllgor fod y GGMC yn dod i ben ar 23 Awst 2021 a bod yr adroddiad hwn yn ymgynghori ar barhad yr angen am GGMC ac a yw cyfyngiadau GGMC y Ddinas yn dal yn berthnasol. Gorchymynlleol yw GGMC y Ddinas a wneir gan awdurdod lleol, ac y mae’n erfyn i ateb y problemau a osodir allan yn yr adroddiad; mae gan bartneriaid ar y bwrdd gwasanaeth brosesau eraill y gellir eu defnyddio hefyd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wrth y pwyllgor y gallant ddewis adnewyddu heb ymgynghori, ond y dylid ymgynghori â’r cyhoedd. Dywedodd mai’r dewisiadau oedd adnewyddu gyda’r un cyfyngiadau, adnewyddu gyda chyfyngiadau wedi eu hychwanegu, eu hamrywio neu eu newid, neu fe all y pwyllgor benderfynu nad oes angen bellach am GGMC Canol y Ddinas, a dod ag ef i ben. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod GGMC Pilgwenlli wedi ei adolygu’n ddiweddar, a dywedodd fod ‘gwersi wedi eu dysgu’ o ran y GGMC cyfredol. Argymhellodd y dylid cynnal ymgynghoriad am fis Awst 2021, a nododd yr awgrym a wnaed cyn y cyfarfod y dylid cynnwys perchenogion busnes yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod GGMC yn sylfaen i waith arall mewn ardal, a’i fod yn rhan o brosesau a ddefnyddiwyd ar gyfer problemau gwrthgymdeithasol ehangach. Agorodd y cadeirydd y llawr i gwestiynau. Diolchodd y pwyllgor i’r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio am ei gyflwyniad ac am gynnwys ardaloedd busnes yn yr ymgynghoriad. Holodd aelod o’r pwyllgor am nifer y digwyddiadau a roddwyd yn atodiad 2, yn benodol yr anghysondeb o 25 yn 2020 holodd a oedd hyn wedi ei achosi gan Covid-19. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod effeithiolrwydd y GGMC, ond nododd hefyd, pan fo niferoedd yn gostwng, a yw mor effeithiol ag y bu? Holodd yn benodol beth ddigwyddiad yn 2020 gyda’r cynnydd mawr mewn niferoedd, ac a yw’n bosib fod y pandemig wedi anffurfio’r niferoedd? Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio trwy ddweud na wyddai am unrhyw reswm penodol, ond nododd, o Chwefror 2020 ymlaen, wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym, y tueddodd y niferoedd i ostwng. Esboniodd y daeth y GGMC i rym gyntaf yn 2018 ac y bu cyfnod cyflwyno graddol, gydag esbonio a chynghori cyn cymryd camau gorfodi ar unrhyw gwynion a dderbyniodd y cyngor. Dywedodd hefyd y gallai’r niferoedd fod yn is oherwydd COVID. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio mai gorchymyn adweithiol ydyw, a all esbonio’r niferoedd is, ac atgoffodd y pwyllgor fod tueddiadau yn cael eu hadlewyrchu dros ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Cofnodion: Nododd y pwyllgor eu bod yn hapus â chynnwys y GGMC presennol, ond yr hoffent weld beiciau a sgwteri yn cael eu cynnwys, yn ogystal â gofyn cwestiwn am y gwaharddiad llwyr ar gardota, a gwahodd busnesau i fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Gwahoddwyd yr Ymgynghorydd Craffu i gadarnhau mai dyma’r prif faterion a godwyd. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Craffu hyn, ac ychwanegu’r pryder a godwyd ynghylch y bwlch yn y GGMC o fis Awst i fis Hydref.
Holodd y pwyllgor a oedd llinell ffôn am adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol i hwyluso pethau i aelodau’r cyhoedd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y gellir cysylltu â’r ganolfan gyswllt i adrodd am unrhyw broblemau, ond ategodd yr aelod pwyllgor yr awydd am roi llinell ffôn ar waith. Nododd y pwyllgor fod y GGMC Parciau wedi ei ddrafftio’n wael ac yr hoffent gael ail ddrafft i gywiro gwallau.
Nododd y pwyllgor y dymunent fod wedi cael yr adroddiadau yn gynharach.
Nododd y pwyllgor yr hoffent weld ymgynghoriadau yn cael eu hysbysebu’n aml ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gofynnodd y pwyllgor am i oriau gwaith ceidwaid y parciau gael eu gwneud yn gyhoeddus.
|
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 138 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) b) Action Sheet (Appendix 2)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Blaen-gynllun gwaith. Nododd yr Ymgynghorydd Craffu nad oedd newidiadau at y dyfodol, ac y byddai’r GGMC yn debyg o ddod yn ôl i’r pwyllgor tua Medi 23 gyda gwahoddiad i’r cynghorydd/wyr wardiau ac Aelodau Cabinet priodol. |