Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Connor Hall Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ferris ddiddordeb fel Noddwr Cyfeillion Llong Casnewydd, a datgan ei fwriad i godi mater cysylltiedig yn y cyfarfod.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 124 KB Cofnodion: Gofynnodd aelod pwyllgor i baragraff cyntaf tudalen 10 wneud yn glir fod yr Heddwas oedd yn bresennol, Sarjant Butt, wedi cytuno y byddai gwaharddiad llwyr ar gardota yn helpu i fynd i’r afael â’r mater.
Gofynnoddaelod o’r pwyllgor am newid tudalen 11 y cofnodion i ychwanegu “yn aml” wrth drafod hysbysebu ymgynghoriad y GGMC ar y cyfryngau cymdeithasol i fynegi’r disgwyliad y bydd yn ymgyrch barhaus i gynnwys y cyhoedd.
Gofynnodd aelod pwyllgor am nodyn i’w wneud am newid yr agenda er mwyn sicrhau cysondeb.
Yna derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir.
|
|
Adroddiad Blynyddol Corfforaethol ac Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd yr Arweinydd y pwyllgor i’r cyflwyniad a dweud ei bod yn bwriadu cychwyn yr eitem hon trwy roi trosolwg o’r adroddiad. Dechreuodd trwy fynegi ei bod yn bleser cyhoeddi’r 4ydd Adroddiad Corfforaethol Blynyddol am 2020-21 ar gynnydd Cyngor Dinas Casnewydd yn erbyn Cynllun Corfforaethol 2017-22. Atgoffodd yr Arweinydd y pwyllgor mai pwrpas yr adroddiad yw adfyfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio, ac asesu’r llwyddiannau a gafwyd, y gwelliannau i’w gwneud, ac edrych ymlaen at weddill y tymor. Hysbysodd yr Arweinydd y pwyllgor yr adroddwyd yn fwy manwl ar berfformiad y Cyngor ar draws yr 8 maes gwasanaeth i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Mehefin a bod yr adroddiad a gyflwynir i’r pwyllgor heddiw yn crynhoi’r modd cyffredinol y gwnaeth y Cyngor gyflawni yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, ac ystyried ar ofynion statudol eraill y Cyngor. Croesawodd y cyfle i’r pwyllgor roi adborth, argymhellion am wella, ac unrhyw beth nas ystyriwyd gan y Cabinet a’r Uwch-Swyddogion. Dywedodd wrth y pwyllgor y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Hydref ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn Gymraeg a Saesneg. Pwysleisiodd yr Arweinydd y dylid cadw mewn cof fod hyn wedi ei wneud yn ystod y pandemig, ac nad oedd yr holl ddata ar gael am i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru atal peth meincnodi ar draws awdurdodau yn ystod 2020-21. Cydnabu’r Arweinydd mai cyfyngedig oedd y data meincnodi oedd ar gael am y cyfnod 2020-21 gan fod y 22 awdurdod yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau hanfodol ar yr adeg hon. Atgoffodd yr Arweinydd y pwyllgor yn 2017, y gosodwyd 4 amcan lles i wella bywydau’r etholwyr, sef: gwella sgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith; hybu twf economaidd ac adfywio, ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd; galluogi pobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn; ac adeiladu cymunedau cydlynus a chynaliadwy. Nododd yr Arweinydd fod yr amcanion hyn wrth graidd Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i gyflwyno dros y tymor hwn. Cydnabu’r Arweinydd fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol i’r Cyngor, y cymunedau a phartneriaid, a bod y pandemig wedi effeithio ar gymunedau ac economi Casnewydd ac y byddai’n dal i wneud hynny. Cydnabu ymhellach fod y Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal i bobl mwyaf bregus y ddinas, fod staff ac Aelodau yn cael eu hamddiffyn, a sicrhau bod gwasanaethau, busnesau a phobl yn cadw at gyfyngiadau a chyfarwyddyd. Dywedodd yr Arweinydd eu bod wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi a rhoi cydnabyddiaeth i bartneriaid y Cyngor a chymunedau Casnewydd am eu hymdrechion.
Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr anghydraddoldeb a amlygwyd gan yr argyfwng, gan ddweud eu bod yn llawn ymwybodol o’r heriau a bod angen gwneud mwy o waith i oresgyn y bwlch hwn, ond yr oedd hefyd eisiau sicrhau y byddai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno yn gynaliadwy yn y tymor hir i’r cymunedau hyn. Dywedodd fod y Cabinet yn cefnogi’r ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mayer yr adroddiad, gan atgoffa’r pwyllgor, dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fod gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed dan yr amcanion cydraddoldeb strategol, a bod gofyn iddynt hefyd fel awdurdod lleol gyhoeddi data am gydraddoldeb staff. Tynnodd y Cynghorydd Mayer sylw at bartneriaethau newydd oedd yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, a’u bod yn ymwneud â’r gymuned. Nododd fod ymwneud cymunedau ar lawr gwlad yn sicrhau deilliannau penodol i’r cymunedau hynny. Yr oedd yn cydnabod fod cryn heriau o ran cyflwyno mewn rhai meysydd, ond bod cynnydd yn cael ei wneud mewn meysydd eraill. Nododd fod yn rhaid i waith ar gydraddoldeb fod yn hyblyg er mwyn trin heriau newydd. Esboniodd i’r pwyllgor fod gadael yr UE wedi taro’r gymuned o fudwyr yn galed, ac y dylid canolbwyntio ar gefnogi pobl i aros yng Nghasnewydd ac amddiffyn eu hawliau. Nododd y Cynghorydd Mayer eu bod hefyd yn bwrw golwg ar drefniadau monitro ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud iddynt. Terfynodd trwy sicrhau bod materion cydraddoldeb yn cael eu cymryd o ddifrif fel Cabinet, ac atgoffodd y pwyllgor ei fod yn cadeirio’r gr?p Cydraddoldeb Strategol.
Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai hwn oedd y cynllun blynyddol cyntaf oedd yn seiliedig ar y cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd, a bod 6 phwynt allweddol. Cyfeiriwyd at dudalennau 119-121 lle’r oedd crynodeb o’r deilliannau a’r llwyddiannau allweddol.
Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y Cyngor yn rhan o bolisi Dim Goddefgarwch Siarter Cyngor Hil Cymru a Siarter Cefnogi Dioddefwyr Troseddau Casineb. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y bu newid mewn deddfwriaeth am y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd a ddaeth i rym ac a wreiddiwyd mewn gwneud penderfyniadau. Soniodd fod grwpiau staff wedi eu creu ynghylch amrywiaeth, LGBTQ+ ac anableddau er mwyn sicrhau y clywir lleisiau’r staff, a thynnwyd sylw hefyd at y gr?p hygyrchedd rhanddeiliaid. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y gwaith manwl a wnaed gyda’r gr?p Profi, Olrhain ac Amddiffyn i sicrhau yr ystyrir cydraddoldeb ac amrywiaeth diwylliannol, gan gydnabod yr effaith anghymesur ar rai cymunedau lleiafrifol. Dywedodd fod canllaw Gwrth-Fwlio Llywodraeth Cymru wedi ei wreiddio mewn prosesau a pholisïau, a thynnodd sylw at gynllun newydd i’r sawl ag anableddau dysgu i gynyddu byw yn annibynnol a’r ffaith fod Cysylltwyr Cymunedol wedi gweithio gyda 302 o drigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai Casnewydd oedd un o’r ychydig awdurdodau lleol sy’n cyhoeddi ei fwlch tâl rhwng y rhywiau bob blwyddyn; adroddwyd am hyn yn y Cyngor, a nodwyd ei fod yn dal i wella. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr angen i ganolbwyntio ar y bwlch tâl sy’n gysylltiedig â nodweddion eraill, a gwnaed llawer o waith ar hyn. Dywedodd fod gwaith yn cael ei wneud i ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu PDF 152 KB a) Forward Work Programme Update (Appendix 1) Cofnodion: Blaen-Raglen Waith:
Atgoffodd aelod y pwyllgor fod y cyfarfod nesaf ar 23 Medi gyda’r ymgynghoriad ar GGMC Canol y Ddinas i’w drafod. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu mai nos Iau fyddai hyn.
Dywedodd yr aelod pwyllgor y byddai’r cyfarfod wedyn ar ddydd Gwener 29 Medi am yr adroddiad newid hinsawdd. Nododd aelod o’r pwyllgor y byddai’n gorfod cyfleu ymddiheuriad am y cyfarfod hwnnw.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y gofynnwyd am gynnal y cyfarfod ar Strategaeth y Gymraeg ym mis Rhagfyr, a holodd a fyddai cyfarfod ym mis Hydref yn fwy cyfleus o ran yr aelodau fyddai ar gael, ac a oedd yn well gan y pwyllgor gael cyfarfodydd byrrach a mwy rheolaidd, neu rai mwy fyddai’n para’n hwy.
Teimlai aelod o’r pwyllgor fod nifer y cyfarfodydd yn iawn ac nad oedd angen agenda gydag un eitem yn unig, ond pwysleisiodd yr angen i sicrhau bod gwybodaeth mewn adroddiadau yn gryno a pherthnasol. Yr oedd yn pryderu am hyd adroddiadau, ac eisiau canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth berthnasol. Cefnogodd yr aelod pwyllgor ychwanegu dolenni at wybodaeth bellach, ond yr oedd yn dal i boeni am hyd adroddiadau. o Cytunodd aelod o’r pwyllgor â hyn.
Pryderai aelod pwyllgor am gynnwys dolenni mewn adroddiadau, oherwydd os cyfyd cwestiynau yn y dyfodol, gallai problemau godi oherwydd byddai’r pwyllgor yn dechnegol wedi gweld y wybodaeth ond nid o raid yr adroddiad ei hun. Holodd aelod o’r pwyllgor sut y byddai’r pwyllgor yn gwybod sut y byddai mapiau’r GGMC Parciau yn cael eu derbyn, ac yr oedd yn pryderu y byddai’n cael ei ddatgan yn y dyfodol fod pwyllgor yn hapus gyda’r mapiau pan nad oedd aelodau’r pwyllgor yn teimlo hynny. Nododd aelod o’r pwyllgor fod y daflen graffu ar goll, ac ymddiheurodd yr Ymgynghorydd Craffu, ond sicrhaodd y pwyllgor fod yr ymatebion wedi eu derbyn ac y byddant yn cael eu hanfon ymlaen at y pwyllgor.
Nododd aelod o’r pwyllgor fod yr Arweinydd wedi rhoi cyflwyniad da trwy arwain ar yr adroddiad cyntaf, a bod ei chrynodeb wedi ei gwneud yn haws deall yr adroddiad a chanoli ar y cwestiynau i’w gofyn. Dywedodd y byddai’n fodel da i’w ddilyn yn y dyfodol, yn hytrach na mynd dudalen wrth dudalen. Mynegodd yr aelod pwyllgor y gobaith y byddai Uwch-Swyddogion a Swyddogion eraill yn dilyn yr esiampl.
Diolchwyd i aelodau’r pwyllgor am eu presenoldeb.
|